Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 2748 for "Sir Joseph Bradney"

13 - 24 of 2748 for "Sir Joseph Bradney"

  • ANTHONY, GRIFFITH (1846 - 1897), cerddor Ganwyd yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Symudodd y teulu i Gwmbwrla ger Abertawe, a dechreuodd y mab weithio yn ieuanc yn y gwaith haearn. Ymgymerodd ag astudio cerddoriaeth, ac enillodd y radd o A.C. o Goleg y Tonic Solffa. Sefydlodd ddosbarthiadau i ddysgu elfennau cerddoriaeth yn y gwahanol eglwysi, a mynychid hwynt gan lu mawr o ddisgyblion. Cyfansoddodd anthemau yn dwyn y teitlau ' Ceisiwch yr
  • ANTHONY, HENRY MARK (1817 - 1886), arlunydd Ganwyd ym Manceinion, o dras Cymreig. Symudodd ei deulu i'r Bontfaen, Sir Forgannwg, ac yno yn 16 oed aeth yn brentis at feddyg. Daeth yn berchen ar foddion annibynnol a rhoddodd y gorau i alwedigaeth meddyg, gan dreulio tua deng mlynedd ar y Cyfandir yn astudio celf; yn ystod y blynyddoedd hyn daeth dan ddylanwad Corot a Jules Dupré. Bu 129 o'i ddarluniau mewn arddangosfeydd rhwng 1837 a 1884
  • teulu ANWYL Parc, Llanfrothen glynodd disgynyddion Lewis Anwyl (bu farw 1605) wrth y cyfenw teuluol. Yr oedd WILLIAM LEWIS ANWYL (bu farw 1642) yn ynad heddwch ac yn ddirprwy raglaw ei sir; bu'n siryf Meirionnydd yn 1610, ac yr oedd yn flaenllaw mewn materion cyhoeddus. Prynodd Llwyn, Dolgellau, ailadeiladodd Parc, ac ychwanegodd yn ddirfawr at ei ystad trwy briodi Elizabeth Herbert, aeres o Sir Drefaldwyn, ac at ei ddylanwad ei hun
  • ANWYL, JOHN BODVAN (Bodfan; 1875 - 1949), gweinidog gyda'r Annibynwyr, geiriadurwr, ac awdur Ganwyd 27 Mehefin 1875 yng Nghaer, yn fab i John Anwyl, pregethwr cynorthwyol, o deulu Anwyliaid Caerwys, Sir y Fflint, ac Elen Williams ei wraig. Daeth yn weinidog ar eglwys Annibynnol Elim, Caerfyrddin, yn 1899. Oherwydd byddardod ymddeolodd o'i eglwys i gymryd gofal Sefydliad y Mud a'r Byddar, Pontypridd, Morgannwg, 1904-19. Ef, yn 1914, oedd yn gyfrifol am y chweched argraffiad o Eiriadur
  • ANWYL, LEWIS (1705? - 1776), offeiriad ac awdur Ganwyd yn Llandecwyn, Sir Feirionnydd, mab William Anwyl, rheithor Llanfrothen (1709-13), a Ffestiniog a Maentwrog (1713-29). Aeth i Goleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, yn 1723, a graddio yn 1726. Cafodd fywoliaeth Ysbyty Ifan yn 1740, ac Abergele yn 1742. Cyhoeddodd o leiaf bedwar o lyfrau: (a) Y Nefawl Ganllaw, Neu'r Union Ffordd i Fynwes Abraham. … Argraphwyd yn y Mwythig, gan R. Lathrop, Tros
  • AP GWYNN, ARTHUR (1902 - 1987), Llyfrgellydd, a thrydydd llyfrgellydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth Aberystwyth yn 1909. Ar wahân i gyfnod yng Nghaerdydd rhwng 1926 ac 1932 a chyfnod byrrach yn Abertawe rhwng 1942 ac 1945, treuliodd Arthur ap Gwynn y rhan fwyaf o'i fywyd yn Aberystwyth a'r ardal o gwmpas. Pan ddychwelodd i Aberystwyth yn 1945 aeth i fyw ar y Waun-fawr ac yn 1967 symudodd gyda'i wraig i fyw ym mhentref Eglwys-fach, Ceredigion, lle bu'n byw hyd nes iddo farw. Addysgwyd ef yn Ysgol Sir
  • APPERLEY, CHARLES JAMES (Nimrod; 1779 - 1843), awdur llyfrau ac ysgrifau ar hela, rhedegfeydd ceffylau, etc. , Peniarth, Meirion, ac o 1813 hyd 1819 bu'n oruchwyliwr ystad ei frawd-yng-nghyfraith yn Sir Gaernarfon, gan fyw yn y Tŷ Gwyn, Llanbeblig, ger Caernarfon. Yn ei hunangofiant, My Life and Times, y mae ganddo bennod ar 'hela o Lanbeblig.' Wedyn bu'n byw mewn gwahanol leoedd yn Lloegr, yn amaethu ac yn hela. Collodd y rhan fwyaf o'i arian ac yn 1822 dechreuodd ysgrifennu i'r Sporting Magazine dan yr enw
  • ARMSTRONG-JONES, ROBERT (1857 - 1943), meddyg ac arbenigwr ar anhwylderau'r ymennydd Ganwyd 2 Rhagfyr 1857, yn Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon, yn fab i'r Parch Thomas Jones, gweinidog gyda'r Annibynwyr, Eisteddfa, Cricieth, a Jane Elizabeth, merch Robert Jones o'r un lle. Bu yn ysgol ramadeg, Porthmadog, ysgol Grove Park, Wrecsam, coleg y Brifysgol, Bangor, ac ysbyty S. Bartholomew, Llundain; cymerodd ei M.D. (Llundain) yn 1885; F.R.C.S. (Lloegr) 1886; F.R.C.P. (Llundain) 1908. Yn
  • teulu ARNOLD Llanthony, Llanfihangel Crucorney, Sefydlydd ffortiwn y teulu hwn, a oedd yn hen deulu yn sir Fynwy, yn disgyn o Gwilym ap Meurig ac wedi mabwysiadu'r cyfenw Arnold yn gynnar yn ei hanes, oedd Syr NICHOLAS ARNOLD (1507? - 1580), boneddwr a dderbyniai bensiwn gan Harri VIII ac a gafodd abaty Llanthony pan oedd yn cynrychioli Thomas Cromwell yn yr ardal adeg Diddymiad y Mynachdai (a hefyd ystad yn sir Gaerloyw yr oedd yn trigo ynddi
  • ASHBY, ARTHUR WILFRED (1886 - 1953), economegydd amaethyddol Ganwyd 19 Awst 1886, yn fab hynaf Joseph a Hannah Ashby, Tysoe, swydd Warwick. Cafodd ei addysg yn yr ysgol leol ac ar ôl gadael honno'n ddeuddeg oed bu'n cynorthwyo'i dad (gwr arbennig iawn, yn ôl yr hanes, ac arweinydd ym mywyd ei fro) nes ei fod yn 23 oed, pryd y cafodd ysgoloriaeth i fynd i Goleg Ruskin, Rhydychen, yn 1909. Enillodd ddiploma gydag anrhydedd mewn economeg a gwyddor boliticaidd
  • ASHTON, CHARLES (1848 - 1899), llyfryddwr a hanesydd llenyddiaeth Cymru Ganwyd 4 Medi 1848 yn Ty'nsarn, Llawr-y-glyn, Sir Drefaldwyn, yn fab i Elizabeth Ashton. Tua'r 9 oed, dechreuodd dderbyn addysg gan un John Jones a gadwai ysgol yn achlysurol yn y capelau lleol. Yn 12 oed dechreuodd weithio yng ngwaith mwyn Dylife, eithr blinodd ar hynny, a symudodd i weithio yng Nghaer lle yr oeddid yn gwneuthur y Grosvenor Park ar y pryd. Fe'i ceir yn ddiweddarach yn borter
  • ATKIN, JAMES RICHARD (1867 - 1944), cyfreithiwr a barnwr Ganwyd James Richard Atkin ar 28 Tachwedd 1867 yn Brisbane, Awstralia, yr hynaf o dri mab Robert Travers Atkin (1841-1872) o Fernhill, Swydd Cork, newyddiadurwr ac aelod o Gynulliad Deddfwriaethol Queensland, a'i wraig Mary Elizabeth (g. Ruck, 1842-1920) o Sir Feirionnydd. Roedd ei rieni newydd ymfudo i Awstralia, ond bu farw ei dad yn ifanc yn 1872. Erbyn hynny roedd Atkin a'i frodyr wedi