Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 296 for "daniel%20rowland"

13 - 24 of 296 for "daniel%20rowland"

  • WILLIAMS, DANIEL (1643? - 1716), diwinydd Presbyteraidd a chymwynaswr i Ymneilltiaeth Ganwyd yn Wrecsam neu ei chyffiniau, ni wyddys yn iawn pa bryd, nac enwau ei rieni, ond yr oedd ganddo chwaer, Elizabeth (a fu farw 1728) yn briod â lledrwr a thirfeddiannwr yn Wrecsam o'r enw Hugh Roberts. Ni wyddys chwaith ddim am gwrs ei addysg; yr oedd yn bregethwr rheolaidd cyn bod yn 19 oed. Y tu allan i Gymru y bwriodd y cwbl o'i yrfa - y mae'n anodd credu mai ef oedd y ' Daniel Williams
  • DANIEL, JOHN EDWARD (1902 - 1962), athro coleg ac arolygydd ysgolion Ganwyd 26 Mehefin 1902, ym Mangor, yr hynaf o ddau fab Morgan Daniel (1864 - 1941), gweinidog (A), ac Anna, ei wraig. Addysgwyd J.E. Daniel ym Mangor a meithrinwyd ef yn y traddodiad clasurol yn Ysgol y Friars. Yn 1919 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Iesu, Rhydychen, a thra oedd yno enillodd yn 1922 radd dosbarth I yn Classical Moderations a'r flwyddyn ddilynol radd dosbarth I mewn Litterae
  • OWEN, JOHN (1733 - 1776), pregethwr cyntaf Methodistiaid sir y Fflint Ganwyd yn 1733 ym Mwrcwd, plwyf Ysgeifiog, Sir y Fflint. Brodorion o Aberdaron yn Llŷn oedd ei rieni, a bu iddynt bedwar o blant - John, Humphrey, Sarah, ac Ann. Saer oedd John wrth ei alwedigaeth, a phrydydd dawnus. Cyfansoddodd anterliwtiau, ac yr oedd yn chwaraewr poblogaidd ym more'i oes. Dychwelodd at grefydd tua'r flwyddyn 1762, trwy bregeth Daniel Rowland yn Nhŷ Modlen, Llandyrnog, Dyffryn
  • JONES, DANIEL (1908 - 1985), gwleidydd Llafur Ganwyd ef yn Danos Jones yn y Porth yng nghwm Rhondda ar 26 Medi 1908, yn fab i Daniel Jones, glöwr (Mae un ffynhonnell yn dweud mai yn Ystradgynlais y ganwyd ef). Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Ynyshir a Chyngor Cenedlaethol y Colegau Llafur. Gweithiodd fel glöwr, 1920-32, dioddefodd gyfnod o ddiweithdra, 1932-36, ac bu'n beiriannydd o fewn y diwydiant awyrennau ar ôl 1936. Dyfarnwyd y BEM iddo
  • JONES, GEORGE DANIEL (1877 - 1955), argraffydd Ganwyd 1877 yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, yn fab i Daniel a Margaret Jones, Red Lion Fach. Prentisiwyd George i T. L. Davies, Gwasg Caxton yn y dref honno ac yna aeth i wella i grefft gyda gwasg flaengar yng Nghaerloyw. Ymhen ychydig flynyddoedd, o dan gymhelliad J. Gwenogvryn Evans, ymunodd â Gwasg Prifysgol Rhydychen. Yn fuan dechreuodd y ddau gydweithio i gynhyrchu ar wasg law rai o'r
  • JONES, DANIEL EVAN (1860 - 1941), awdur
  • JONES, DANIEL (1757 - 1821), clerigwr Methodistaidd
  • WILLIAMS, DANIEL HOWELL (1894 - 1963), aerodynamegydd Ganwyd 27 Mehefin 1894, yn Ffestiniog, Meirionnydd, yn fab i Griffith J. Williams, ysgolfeistr, a'i wraig Mary Helena. Cofrestrwyd ef fel Daniel John ond mabwysiadodd yr enw Howell, cyfenw morwynol ei fam. Yr oedd yn nai i Syr Richard J. Williams (Maer Bangor, 1913-20); addysgwyd ef yn Ysgol Friars, Bangor, ac ym mis Hydref 1912 aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru gydag ysgoloriaeth mynediad
  • DAVIS, DAVID DANIEL (1777 - 1841), meddyg
  • EVANS, DANIEL SILVAN (1818 - 1903), geiriadurwr
  • MORRIS, Syr DANIEL (1844 - 1933), llysieuegwr
  • JAMES, DANIEL (Gwyrosydd; 1847 - 1920), bardd Ganwyd yn Nhreboeth, Abertawe, 13 Ionawr 1848, yn fab i Daniel James, saer maen, a'i wraig Mary (Morgan). Yr oedd ei rieni yn aelodau yn hen eglwys Mynyddbach, lle y canodd 'Gwyrosydd' lawer amdano. Collodd ei dad yn ifanc ac aeth i weithio fel pwdler yng ngwaith haearn Treforus i helpu magu'r plant eraill. Yna gweithiodd am flynyddoedd yng ngwaith alcam Glandwr. Trwythodd ei hun yn Ysgol Farddol