Canlyniadau chwilio

25 - 36 of 98 for "jenkin%20jones"

25 - 36 of 98 for "jenkin%20jones"

  • HOPKINS, BENJAMIN THOMAS (1897 - 1981), ffermwr a bardd dosbarth allanol i oedolion mewn athroniaeth, amaethyddiaeth a llenyddiaeth Gymraeg yn yr ysgol leol. Daeth i adnabod dau gyfaill a rannai ei ddiddordeb mewn barddoniaeth, Prosser Rhys (1901-1945) a Jenkin Morgan Edwards (1903-1978). Daeth y tri yn bennaf ffrindiau, i seiadu gyda'i gilydd, trin eu gwaith a chystadlu, a darllen i'w gilydd weithiau Cynan a R. Williams-Parry. Cafodd ei alw i'r fyddin yn
  • HOWELL, JENKIN (1836 - 1902), argraffydd, llenor, a cherddor
  • HOWELL, JOHN (Ioan ab Hywel, Ioan Glandyfroedd; 1774 - 1830), gwehydd, ysgolfeistr, bardd, golygydd, a cherddor ), gwaith sydd yn enghraifft dda o flodeugerdd daleithiol ac yn un o lyfrau-defnyddiau haneswyr llenyddiaeth ac eisteddfodau taleithiol Cymru. Heblaw esiamplau o waith y golygydd ei hun (rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu ar gyfer eisteddfodau Caerfyrddin, Aberhonddu, etc.), ceir yn y gyfrol ddetholiad o waith barddonol Evan Evans ('Prydydd Hir'), Jenkin Thomas, Cwmdu, Ceredigion, Eliezer Williams, Daniel
  • HOWELL, WILLIAM (1740 - 1822), gweinidog Ariaidd ac athro coleg Ganwyd yn Wincanton, Gwlad yr Haf, 1740, mab y Parch. William Howell, Birmingham. Fe'i haddysgwyd gan ei dad, a chan Jenkin Jenkins, Llanfyllin. Yn ystod 1759-60 yr oedd yn academi Warrington, ac yn 1760-4 yng Ngholeg Caerfyrddin. Yr oedd, yn ôl y Cofiant, yn gyd-efrydydd â ' Dafis Castellhywel.' Bu am beth amser ar y Cyfandir ac yn gofalu am eglwys Seisnig yn Amsterdam. Wedi dychwelyd bugeiliodd
  • HUGHES, JAMES (Iago Trichrug; 1779 - 1844), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd, ac esboniwr Beiblaidd Ganwyd 3 Gorffennaf 1779, yn y Neuadd-ddu, Ciliau Aeron, Sir Aberteifi, mab Jenkin ac Ellen Hughes. Cafodd ychydig o addysg elfennol yn ei ardal a phrentisiwyd ef yn of. Cafodd dröedigaeth yn 1797 wrth wrando ar y Parch. Dafydd Parry, Llanwrtyd, ac ymaelododd gyda'r Methodistiaid yn Llangeitho. Aeth i Lundain yn 1799 ac ymsefydlodd yn Deptford, lle bu'n flaenllaw gyda chychwyniad achos crefyddol
  • JAMES, JENKIN (1875 - 1949), ysgrifennydd cyntaf Cyngor Prifysgol Cymru ac awdur
  • JAMES, WILLIAM (1848 - 1907), gweinidog Undodaidd, ysgolfeistr, a dyn cyhoeddus , 1872. Cafodd alwad i ofalu am Hen-Dy-Cwrdd Aberdâr yn 1873 yn ystod afiechyd Rees Jenkin Jones. Ymhen chwe mlynedd derbyniodd alwad i fugeilio eglwysi Llwynrhydowen, Bwlchyfadfa, a Llandysul. Ni bu yma ond am wyth mlynedd oherwydd afiechyd. Gadawodd y pulpud gan droi i fyd masnach, ond ni pheidiodd â phregethu. Digon yw sôn amdano fel ysgolfeistr (1873-83); fel arholwr yng Ngholeg Caerfyrddin (1882-7
  • JENKIN, JOHN (Ioan Siengcin; 1716 - 1796), prydydd ac athro Ganwyd yn y Cwm Du, Llechryd, 1716, mab Jenkin Thomas, crydd, pregethwr Ymneilltuol, a phrydydd, ac awdur yr ' In Laudem Authoris ' yn Drych y Prif Oesoedd, 1716. Dysgodd grefft grydda gan ei dad, a bu'n dilyn honno yn Aberteifi hyd 1754 pan gymhellwyd ef gan Griffith Jones, Llanddowror, i fynd i Nanhyfer i gadw ysgol Gymraeg. Trowyd hon yn ysgol Saesneg yn 1780. Daliodd yntau yn athro arni hyd
  • JENKIN, THOMAS JAMES (1885 - 1965), bridiwr planhigion ac Athro Botaneg Amaethyddol Ganwyd 8 Ionawr 1885 yn Budloy, Maenclochog, Penfro, yn fab ieuangaf David a Sarah Alice Jenkin. Ar ôl gadael ysgol elfennol Garnrochor gweithiodd ar y fferm gyda'i rieni a'i frawd. Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn Hydref 1907 i ddilyn cwrs byr mewn amaethyddiaeth (un tymor), ac aeth yn ei ôl i ddilyn cwrs parhad mewn amaethyddiaeth (dau dymor) 1908-1909. Aeth i ysgol yr Hen Goleg
  • JENKINS, Judge DAVID (1582 - 1663), barnwr Yr aelod mwyaf adnabyddus o deulu a oedd wedi ymsefydlu yn Hensol ym mhlwyf Pendeulwyn (Pendoylan), Sir Forgannwg - teulu a hawliai fod ei dras yn nodedig ac y bu iddo aelodau o beth pwysigrwydd. Jenkin oedd enw ei dad a Richard ei daid, ac y mae'n debyg mai'r barnwr oedd y cyntaf o'r teulu i fabwysiadu'r cyfenw. Fe'i ganwyd yn 1582; bu farw ar 6 Rhagfyr 1663, ac fe'i claddwyd yn y Bont-faen, lle
  • JENKINS, JENKIN (bu farw 1780), athro academi Caerfyrddin
  • JENKINS, JOHN (1779 - 1853) Hengoed, gweinidog gyda'r Bedyddwyr Neilltuol, diwinydd, golygydd a chyhoeddwr Ganwyd 28 Tachwedd 1779 ym mhlwyf Llangynidr, sir Frycheiniog, mab Jenkin a Mary Jenkins. Ni chafodd addysg ond ysgol nos ' am dymor byr ' a dysgodd ei hunan i ddarllen a sgrifennu. Dechreuodd bregethu yn 1800 ac ordeiniwyd ef yn Llangynidr, Mai 1806. Yn 1809 fe'i sefydlwyd yn Hengoed, Morgannwg, ac yno y treuliodd weddill ei oes gan deithio Cymru i genhadu a gwerthu ei lyfrau. Yn 1811