Canlyniadau chwilio

25 - 36 of 1148 for "owen edwards"

25 - 36 of 1148 for "owen edwards"

  • ROBERTS, DAVID OWEN (1888 - 1958), addysgydd . Byddai'n darlithio'n aml ar y radio, gan sylwi'n arbennig ar ddiwylliannau ac ieithoedd lleiafrifiol yn Ewrop. Yr oedd ganddo ddelfrydau rhyng-genedlaethol a heddychol yn ogystal ag ymlyniad cadarn wrth achos hunanlywodraeth i Gymru. Priododd ag Ann Edwards 23 Ebrill 1917 a bu iddynt fab a merch. Bu farw 29 Awst 1958.
  • JONES, OWEN (1833 - 1899), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor Ganwyd 12 Hydref 1833 yn y Weirglodd Ddu, Llanuwchllyn; ei dad, Thomas Jones, yn aelod gynt yn yr Hen Gapel, ond wedi troi at y Methodistiaid Calfinaidd yn ystod helyntion y 'System Newydd' (gweler Jones, Michael), a'i fam yn chwaer i dad Syr Owen M. Edwards. Symudodd y teulu i'r Fron-gain, yn Waun y Bala, ac yn Llidiardau y dechreuodd Owen Jones bregethu. Eisoes, yn fachgen, yr oedd wedi bwrw
  • EDWARDS, JOHN (Siôn Ceiriog; 1747 - 1792), bardd ac areithiwr Ganwyd yng Nglynceiriog yn sir Ddinbych. Aeth i Lundain yn ŵr ifanc, ac wedi dyfod i gysylltiad ag Owen Jones (' Owain Myfyr ') a Robert Hughes ('Robin Ddu o Fôn'), ymunodd a Chymdeithas y Gwyneddigion. Ef oedd un o'r aelodau amlycaf o hynny hyd ei farw yn Medi 1792. Bu'n ysgrifennydd yn 1779, yn llywydd yn 1783, ac edrychid arno fel bardd y gymdeithas. Pan gynigiodd y Cymmrodorion 'fath arian
  • OWEN, JOHN (Owain Alaw; 1821 - 1883) Ganwyd 14 Tachwedd 1821 yn Crane Street, Caerlleon, mab Capten Owen. Cafodd addysg dda, a phrentisiwyd ef ym masnachdy Powell ac Edwards, Cutlers. Ei athro cerdd cyntaf oedd Edward Peters, Caer, ac wedi hynny, C. Lucas, Llundain. Penodwyd ef yn ieuanc yn organydd yng nghapel yr arglwyddes Huntingdon, ac yn arweinydd i'r 'Octagon Orchestral Society.' Yn 1842 priododd, ac yn 1844 rhoddodd i fyny ei
  • EDWARDS, Syr IFAN ab OWEN (1895 - 1970), darlithydd, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru; Ganwyd 25 Gorffennaf 1895 yn Nhremaran, Llanuwchllyn, Meirionnydd, yn fab i Syr O.M. Edwards ac Ellen ei wraig, eithr yn Rhydychen y magwyd ef nes dychwelyd i Lanuwchllyn yn 1907. Aeth i ysgol ramadeg y Bala ac oddi yno i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1912-15). Ar ôl bod trwy'r drin yn Ffrainc (1915-18) aeth i Goleg Lincoln, Rhydychen (1918-20) a graddio mewn hanes. Yn y cyfamser collodd ei
  • HUGHES, ROBERT OWEN (Elfyn; 1858 - 1919), newyddiadurwr a bardd eisteddfod genedlaethol Blaenau Ffestiniog, 1898 (testyn: 'Yr Awen'). Cyhoeddwyd detholiad o'i waith barddonol dan y teitl, Caniadau Elfyn : efe hefyd ydyw awdur Hanes Bywyd Capelulo a gynhwyswyd gan Syr Owen M. Edwards yn ' Cyfres y Fil.' Bu farw 14 Mehefin 1919 a chladdwyd ef ym mynwent Llan Ffestiniog.
  • EDWARDS, GWILYM ARTHUR (1881 - 1963), gweinidog (MC), prifathro Coleg Diwinyddol Aberystwyth, ac awdur Ganwyd 31 Mai 1881 yng Nghaernarfon, mab Owen Edwards, gweinidog (MC) brodor o Lanuwchllyn (cefnder Syr Owen M. Edwards), a Mary (ganwyd Jones) ei briod. Ymfudodd y tad i Awstralia i gael adferiad iechyd, ond bu farw'i briod cyn iddi fynd â'i theulu i ymuno ag ef ym Melbourne. Magwyd y teulu - tri o fechgyn-gan ei rhieni hi yn Nolgellau. Addysgwyd Gwilym yn ysgol sir Dolgellau, a dechreuodd
  • OWEN, HUGH (1639 - 1700), pregethwr Piwritanaidd ac 'apostol Meirion.' Yr oedd o'r un teulu â'r barwn Lewis Owen, y diwinydd Dr. John Owen yn berthynas pell iddo, a phrif bobl Meirionnydd ymhlith ei gydnabod a'i gyfeillion. Ymaelododd yn Rhydychen (Coleg Iesu, 1660), dechreuodd bregethu, ond distawyd ef, ag arfer gair Calamy, gan Ddeddf Unffurfiaeth 1662. Ymunodd ag eglwys Biwritanaidd Wrecsam, ac etholwyd ef yn henuriad athrawus ynddi; yn 1668 priododd Martha Brown
  • GWERFUL MECHAIN (1462? - 1500), bardd Y cwbl a wyddys amdani yw mai merch Hywel Fychan o Fechain ym Mhowys oedd hi, ac ategir hynny yng nghywydd Dafydd Llwyd yn danfon Llywelyn ap y Gutun yn llatai ati. Gwyddys fod darnau o'i chywyddau yn nofio ar gof gwlad yn y 19eg ganrif, oblegid cyfeiria ' Ap Vychan ' a Syr Owen M. Edwards at hynny. Cymysgir rhyngddi â Gwerful, ferch Madog o Fro Danad, yn Eminent Welshmen ac Enwogion Cymru; nid i
  • OWEN, ROBERT (Eryron Gwyllt Walia; 1803 - 1870), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a bardd Ganwyd 3 Ebrill 1803, yn Ffridd-bala-deulyn, yn agos i Dalsarn, Dyffryn Nantlle, Sir Gaernarfon, yn fab i Griffith Owen, brodor o'r Waunfawr, ac Anne Owen, gynt Roberts, merch y Ffridd a chwaer y pregethwyr Robert Roberts, Clynnog, a John Roberts, Llangwm. Aeth ei rhieni i fyw i Gaernarfon yn fuan wedi ei eni ef, ac yno y'i maged. Derbyniodd addysg well na'r cyffredin yn ysgol y Parch. Evan
  • DAVIES, WILFRED MITFORD (1895 - 1966), arlunydd blynedd cyn dechrau gwaith fel arlunydd masnachol yn y ddinas. Aeth yn ôl i'r Star ar farwolaeth ei dad, a byw a gweithio yno. Tua'r adeg yma- 1923-24 -gofynnodd Ifan ab Owen Edwards iddo gyfrannu lluniau i Cymru'r plant, ac yr oedd cartŵn ' Toodles a Twm y gath ', a ddaeth yn boblogaidd iawn wedyn, ymysg ei gynigion cyntaf i'r misolyn. Dyma ddechrau rhagor na deugain mlynedd o waith i Urdd Gobaith
  • ROBERTS, ELEAZER (1825 - 1912), cerddor Ganwyd ym Mhwllheli, Sir Gaernarfon, 15 Ionawr 1825, mab John a Margaret Roberts. Ac ef yn ddeufis oed, symudodd y rhieni i fyw i Lerpwl. Addysgwyd ef yn ysgol Owen Brown, Rose Place, a'r Liverpool Institute. Yn 13 oed aeth i weithio i swyddfa cyfreithwyr. Yn 1853 aeth i swyddfa clerc yr ustusiaid, a dringodd i'r safle o brif gynorthwywr i glerc ynad cyflog y ddinas; daliodd y swydd hyd ei