Canlyniadau chwilio

1129 - 1140 of 1877 for "Mai"

1129 - 1140 of 1877 for "Mai"

  • MORGAN, DAVID THOMAS (c. 1695 - 1746), 'Jacobite' Derby aeth Morgan gydag ef am un diwrnod cyn belled ag Ashbourne; yno gadawodd y fyddin ac yn fuan iawn cymerwyd ef i'r ddalfa yn Stone. Pan ddaliwyd ef, dywedodd y bwriedid ymdaith trwy Warwick i Rydychen ac y byddai i'r myfyrwyr ymuno â'r tywysog yno, a thrwy hynny beri i'w teuluoedd ymuno i'w bleidio; y mae'n eithaf posibl mai dyna oedd cyngor Morgan yn y trafodaethau brwd a gafwyd cyn i'r tywysog
  • MORGAN, DYFNALLT (1917 - 1994), bardd, beirniad llenyddol a chyfieithydd Ganwyd Dyfnallt Morgan ym Mhenydarren, Merthyr Tudful ar 24 Mai 1917, yn unig blentyn i Osborne Morgan (1881-1937) a'i wraig Frances Jane (ganwyd Hawes, 1882-1966). Roedd teulu ei dad wedi symud o Geredigion i Ferthyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roedd gwreiddiau teuluol ei fam yn Llanddewi Brefi. Cyfarfu ei rieni yn Llanddewi ar ôl i'w fam symud i'r pentref o Lundain i fyw gyda'i
  • MORGAN, EDWARD (1817 - 1871), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd eglwysig ac o blaid addysg y weinidogaeth. Yn 1856 penodwyd ef yn oruchwyliwr cronfa at Goleg y Bala; rhwng hynny ac 1870 llwyddodd i gasglu cyfanswm o tua £30,000. Bu'n ysgrifennu i'r Traethodydd o 1846; bu'n olygydd Y Methodist o 1854 hyd 1856, ac ysgrifennodd rai erthyglau i'r Gwyddoniadur. Bu'n llywydd cymdeithasfa'r Gogledd yn 1865 ac yn llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1870. Bu farw 9 Mai 1871
  • MORGAN, EDWARD (E.T.; 1880 - 1949), chwaraewr rygbi Ganwyd 22 Mai 1880 yn Aber-nant, cwm Cynon, Morgannwg, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Crist, Aberhonddu ac Ysbyty Guy, Llundain. Dr. 'Teddy' (felly ' E.T.') Morgan sgoriodd y cais mwyaf hanesyddol yn hanes y gêm yng Nghymru, os nad yr enwocaf erioed. Ef oedd piau'r cais a sicrhaodd fuddugoliaeth o 3-0 i Gymru dros Grysau Duon Seland Newydd yng Nghaerdydd ar 16 Rhagfyr 1905. Nid yn unig yr oedd yn
  • MORGAN, ELENA PUW (1900 - 1973), nofelydd, awdur straeon byrion a ffuglen i blant a gwleidyddol a ddigwyddodd yng Nghymru yn ystod y degawdau hynny. Dori Llwyd yw'r prif gymeriad ac ar ddechrau'r nofel mae hi'n ferch un ar ddeg oed yn gwneud yn dda yn yr ysgol. Er mai Saesneg yw iaith addysg, iaith estron i Dori a'i chyd-ddisgyblion, mae deallusrwydd Dori yn ei chadw ar frig y dosbarth. Gwahanol iawn yw ei bywyd gartref, lle mae ei mam greulon yn ei chosbi'n rheolaidd. Mae hi'n
  • MORGAN, EVAN FREDERIC (ail IS-IARLL TREDEGAR), (1893 - 1949), bardd, arlunydd, milwr, a gwleidydd agored yn y cwest a ddilynodd ym mis Mai 1925. Addysgwyd yr Anrhydeddus Evan Morgan, fel yr adweinid ef am ran helaeth o'i oes, yn Eton ac Eglwys Crist, Rhydychen. Yr oedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Geltaidd Rhydychen, ac yn Is-lywydd o'r cychwyn. Yn unol â thraddodiad ei deulu cymerodd gomisiwn yn y fyddin gan ddewis yn naturiol y Gwarchodlu Cymreig, 27 Mehefin 1915, ond ni chaniataodd ei iechyd
  • MORGAN, FRANK ARTHUR (1844 - 1907) 1860. Hwyliodd Frank i Tseina ym mis Mai 1864 ac ymgofrestru'n glerc o'r pedwerydd dosbarth yng Ngwasanaeth Tollau Ymerodraeth Tseina, ac ymroi, yn bennaf yn Shanghai, i ddysgu ieithoedd Tseina. Erbyn 1876 ef oedd yn gyfrifol am borthladd Zhenjiang ar afon Yangtze ger Nanjing, ac yna fe'i dyrchafwyd yn bennaeth porthladd Taikou ar Ynys Taiwan, gan godi erbyn 1880 yn Ddirprwy Gomisiynydd yn Beijing
  • MORGAN, GEORGE OSBORNE (1826 - 1897), gwleidydd Mab Morgan Morgan, ficer Conwy o 1838 hyd 1870 (a oedd yn fab i David Morgan, o Lanfihangel-genau'r-glyn, a'i wraig Avarina Richards o deulu Ffos-y-bleiddiaid - gweler o dan Lloyd, Vaughan), a'i briod Fanny Nonnen, merch John Nonnen, Gothenburg, Sweden; ganwyd 8 Mai 1826 yn Gothenburg pan oedd ei dad yn gaplan yno (1821-35). Bu yn ysgolion Friars ac Amwythig, ac yng ngholegau Balliol a Worcester
  • MORGAN, GWENLLIAN ELIZABETH FANNY (1852 - 1939), hynafiaethydd Philip Morgan,' fel y gelwid hi fynychaf, yn flaenllaw ym mywyd cyhoeddus ei thref a'i hardal, yn enwedig gydag addysg; ac y mae'n werth nodi mai hi oedd y ferch gyntaf oll yng Nghymru i fod yn aelod o gyngor trefol - a'r ferch gyntaf oll yng Nghymru i fod yn faer; bu'n faer Aberhonddu yn 1910-1. Ond gyda hynny, yr oedd ganddi ddiddordeb mawr yn hanes ei bro. Cyfrannai i'r cylchgronau hynafiaethol a
  • MORGAN, HYWEL RHODRI (1939 - 2017), gwleidydd canfyddiad mai 'pwdl Blair' ydoedd, a bu hyn yn niweidiol i Lafur yn etholiadau cyntaf y Cynulliad yn 1999 - yn enwedig yn ei chadarnleoedd traddodiadol yng nghymoedd y De. Er i Michael lwyddo i fynd yn Brif Ysgrifennydd, bu'n bennaeth ar lywodraeth leiafrifol. Mewn ymgais i osgoi anghydfod mewnol, cynigiodd Michael y portffolio datblygu economaidd i Morgan. Prif bwnc y dadleuon ym misoedd cyntaf y
  • MORGAN, JENKIN (bu farw 1762), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ni wyddys pa bryd nac ymhle y ganed ef; barnai Thomas Rees, 'ar seiliau lled gedyrn,' mai yn ardal Caerffili; credai Richard Bennett (Blynyddoedd Cyntaf Methodistiaeth, 194-5) mai brodor o Gwm Nedd ydoedd, gan chwanegu iddo fod yn aelod ym Mlaengwrach dan Henry Davies - noder, fodd bynnag, nad yw ei enw yn y rhestr o aelodau'r eglwys honno yn 1734 a argraffodd J. Rufus Williams o lawysgrif Henry
  • MORGAN, JOHN (bu farw 1504), esgob gefnogi Harri eu cyfyrder. Pan ddaeth hwnnw i'r orsedd yn Harri VII, rhoddodd i John Morgan nifer o swyddi eglwysig, yn eu plith deoniaethau Windsor a Leicester ac archddiaconiaeth Caerfyrddin. Yn 1496 codwyd John Morgan yn esgob Tyddewi; bu farw yn y Priordy yng Nghaerfyrddin, tua diwedd Ebrill neu ddechrau Mai, 1504. Claddwyd ef yn eglwys gadeiriol Tyddewi mewn bedd o garreg nadd.