ABEL, JOHN (1770 - 1819), gweinidog Annibynnol

Enw: John Abel
Dyddiad geni: 1770
Dyddiad marw: 1819
Priod: Margaret Williams
Rhiant: William Abel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llanybri, Sir Gaerfyrddin, 1770, i William Abel, pregethwr cynorthwyol, un o gychwynwyr (1813) achos y Capel Newydd yno. Honnir iddo fynd 'i Academi Caerfyrddin,' ond yn Abertawe yr oedd yr Academi ar y pryd.

Yn 1794 dilynodd David Davies fel gweinidog eglwys fechan Capel Sul, Cydweli, a chadwai ysgol. Nid oedd John Abel yn 'uniongred'; dywed yr Undodwr Wright, a ymwelodd â Chymru yn 1816, y 'cyfrifid ef yn Ariad'; a rhoes fenthyg ei gapel yn rhwydd i Wright.

Bu farw 25 Mehefin 1819.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.