Dyn o Lanybydder mae'n debyg. Aeth i'r academi yn Abertawe yn 1786, ond yn 1787 urddwyd ef yn fugail ar ddwy eglwys Capel Sul (Cydweli) a Phen-y-graig. Yn 1790, symudodd i Dreffynnon, a bu yno hyd 1800. Yno y dug allan Y Geirgrawn (naw rhifyn, Chwefror-Hydref 1796), olynydd Cylchgrawn Morgan John Rhys. Pleidiai'r Geirgrawn egwyddorion Radicaliaeth yn bur bendant - ynddo, er enghraifft, argraffwyd trosiad Cymraeg o'r ' Marseillaise ' - ac awgryma Thomas Roberts, Llwyn'rhudol i Davies fod mewn cryn berygl ar law'r awdurdodau gwladol. Efallai i'w olygiadau dramgwyddo ei gynulleidfa hefyd, oblegid dengys llythyrau yn Llyfrgell Coleg y Gogledd (Scorpion MSS.) ei fod yn anghymeradwy ganddi 'era blynyddoedd,' a bod y gynulleidfa'n 'edwino'n gyflym iawn.' Ni wyddys mo'i hanes rhwng 1800 a 1802, pan aeth yn weinidog i'r Trallwng. Oddi yno, symudodd (1803) i eglwys Stoneway yn Bridgnorth (eglwys y bu iddi res hir o weinidogion Cymreig); preswyliai mewn tŷ o'r enw Bridgen Hall, a chadwai ysgol ynddo. Yr oedd iddo air uchel iawn yn Bridgnorth; bu farw yno yn 1807, a chladdwyd ef o fewn muriau'r capel.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.