Mab William Roberts, Llwyn'rhudol, ym mhlwyf Abererch, Sir Gaernarfon, twrnai, a Jane ei wraig. Bedyddiwyd ef, yn breifat, ar 16 Awst 1767, eithr, gan y dywedir ei fod yn 76 oed pan fu farw ar 24 Mai 1841, ymddengys iddo gael ei eni yn 1765 neu yn 1766. Claddwyd ei dad ar 16 Ionawr 1778.
Dywed Thomas Roberts iddo fynd i Lundain cyn bod yn 14 oed (h.y. o fewn blwyddyn ar ôl marw ei dad). Y mae'n debyg iddo gael ei brentisio gyda gof aur. Yn ddiweddarach dechreuodd gadw ei fusnes ei hun. Y mae ar gael dderbynneb, wedi ei dyddio 21 Ionawr 1795, yn dangos i Gymdeithas y Gwyneddigion dalu iddo am gyflenwi ' a handsome engraved copper plate to order.' Yn 1802 yr oedd yn bartner yn ffyrm Weatherby a Roberts, gofaint aur, 9 Poultry, ac yn 1805 yn ffyrm Thomas a R. J. Roberts, 40 Poultry. Yn nes ymlaen, fodd bynnag, yr oedd yn gwasnaethu ffyrm arall ac yn 1820 ymwelodd â Jersey fel ei chynrychiolydd. Ar yr amgylchiad hwn ymwelodd â Llydaw hefyd, ar gost Richard Edmunds, trysorydd y Welsh School, Llundain. Y flwyddyn ddilynol aeth fel cynrychiolydd y ffyrm i Ghent ac aros yno hyd ddechrau 1823.
Gwyddys mai enw ei wraig oedd Mary a'i bod o swydd Warwick ac yn aelod gyda'r Crynwyr. Nid ydyw'n sicr a ddaeth Thomas Roberts yn Grynwr. Ganed merch iddynt ym mis Hydref 1791. Bu'r mab hynaf, MAURICE ROBERTS, a gyfieithasai awdl Dafydd Benfras i Llywelyn ab Iorwerth, farw ym mis Rhagfyr 1812 yn 20 oed. Bu pedwar plentyn farw cyn i'w mam farw ym mis Mawrth 1829 a chael ei chladdu, 5 Ebrill, yn Bunhill Fields, gan adael un ferch, Keturah, a oedd mewn busnes peraroglau yn 7 Bond Street, Llundain; yno y bu ei thad farw. Claddwyd yntau yn Bunhill Fields ar 30 Mai 1841.
Daeth Thomas Roberts yn aelod o Gymdeithas y Gwyneddigion yn 1793; etholwyd ef yn is-lywydd yn 1799, yn llywydd yn 1800, ac yn drysorydd yn 1801. Ymddengys iddo ymddiswyddo am gyfnod, eithr yr oedd yn llywydd eilwaith yn 1808. Daeth yn ysgrifennydd y gymdeithas yn 1814, eithr ymddiswyddodd yn 1820 gan ailafael yn y swydd am flwyddyn yn 1826. O hynny ymlaen parhaodd yn aelod blaenllaw o'r gymdeithas - yr oedd yn aelod o'i chyngor mor ddiweddar â 1833. Yr oedd yn un o'r 12 a sefydlodd Gymdeithas y Cymreigyddion (y mae cofnodion cyntaf y gymdeithas wedi eu dyddio 17 Tachwedd 1796) - y mae'n bosibl mai efe oedd yn gyfrifol am sefydlu'r gymdeithas honno.
Cyhoeddodd Cwyn yn erbyn Gorthrymder (London, 1798), pamffled gwatwaregol wedi ei gyfeirio yn fwyaf arbennig yn erbyn talu'r degwm. Nid ydoedd yn Galfin, eithr cyhoeddòdd, o dan yr enw ' Arvonius,' Amddiffyniad y Methodistiaid (Caerfyrddin, 1806), yn erbyn ymosodiadau Edward Charles. Yn ddiweddarach cynhyrchodd An English and Welsh Vocabulary (London, 1827) a llyfr brawddegau, etc., o'r enw The Welsh Interpreter (London, 1831, ail arg. yn 1838). Cyhoeddodd hefyd (eithr heb ddyddiad wrtho) Y Byd a Ddaw, ail argraffiad o gyfieithiad gan W. E. Jones ('Gwilym Cawrdaf') o waith gan Isaac Watts a ymddangosasai yn 1829, a Y Ffordd i Gaffael Cyfoeth neu Rhisiart Druan (London, 1839), wedi ei seilio ar Poor Richard gan Benjamin Franklin. Nid ydyw'n debyg mai efe oedd y Thomas Roberts a gyhoeddodd Stenographia (Dinbych, 1839), cyfundrefn o law-fer Gymraeg. [ Sgrifennai'n fynych i'r newyddiaduron a'r cyfnodolion Cymreig, yn y ddwy iaith.]
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.