Mab Iorwerth Drwyndwn a Margaret, merch Madog ap Maredudd. Efallai ei eni yn Dolwyddelan, y faenor frenhinol yn Nantconwy y bu ei dad yn arglwydd arni am gyfnod byr hyd ei farw tua'r adeg y ganwyd Llywelyn. Gan y gallai'r tywysog ieuanc fod yn foddion i beryglu gallu hanner-brodyr ei dad yng Ngwynedd y mae'n debyg iddo gael ei fagu ym Mhowys o dan nodded ei berthynasau ar ochr ei fam. Wedi iddo dreulio cyfnod (na wyddys fawr amdano) o brentisiaeth mewn dwyn arfau rhyfel a chymryd rhan yng ngwleidyddiaeth derfysglyd gogledd y wlad pan oedd eto'n ieuanc, ymunodd â'i gefndyr, meibion Cynan ab Owen, ac, yn 1194, gorchfygodd ei ewythr, Dafydd I, a chipio oddi ar hwnnw gyfran yn llywodraeth y Berfeddwlad a dyfod, yn 1197, yn unig reolwr y rhanbarth hwnnw. Wedi iddo gymryd yr Wyddgrug i'w feddiant yn 1199 yr oedd pob argoel y deuai'n arweinydd o'r un ansawdd a chyda'r un weledigaeth ag Owain Gwynedd; yn wir, rhwng 1199 a 1203, llwyddodd i adfer unbennaeth gwbl ei daid dros Wynedd gyfan, gan gynnwys Meirionnydd a Phenllyn.
Parhaodd agwedd brenin Lloegr tuag ato yn ansicr am gyfnod hyd nes y penderfynodd y brenin John o blaid ymgyfeillachu; arwydd o'r agwedd newydd hon oedd priodas Llywelyn yn 1205 â Joan, merch ordderch John. Daeth pen ar y cyfeillgarwch hwn yn 1210, ac yn 1211, pan ddygwyd cyrch ar Gymru gan luoedd y brenin, fe'i cafodd Llywelyn ei hun wedi ei wahanu - wedi ei gau i mewn fel petai - ac wedi colli'r Berfeddwlad hefyd. Adenillwyd y tiroedd hyn yn 1212 ac yn dilyn daeth y blynyddoedd pryd yr oedd Llywelyn ar ei uchaf fel gorchfygwr - manteisiodd i'r eithaf ar y digwyddiadau y tu allan i Gymru a arweiniodd i ennill ' Magna Carta ' yn Lloegr, ymosododd yn ddidrugaredd ar y goror, ac enillodd, heblaw amddiffynfeydd eraill, drefi pwysig Caerfyrddin, Aberteifi, a Threfaldwyn. Caniatâwyd iddo gadw y rhain yn ei ddwylo ei hun o dan gyfamod Caerwrangon (1218).
Yn y cyfamser llwyddasai Llywelyn i ennill meistrolaeth ar ei gyd-dywysogion. Ei gydymgeisydd pennaf ymysg arglwyddi cynhenid Cymru ydoedd Gwenwynwyn, arglwydd rhan ddeheuol Powys, eithr alltudiwyd ef (am y tro diwethaf) yn 1216 a pharhaodd ei diroedd ef ym meddiant Llywelyn hyd y diwedd. Yr oedd tywysogion y rhan ogleddol o Bowys yn gyfeillgar, ac ar ôl y flwyddyn 1216 ni roddwyd i Lywelyn unrhyw broblem anodd i'w thrin oblegid agwedd tywysogion llinach Dinefwr, gan iddo ef, yn y flwyddyn honno, aildrefnu ac ailrannu iddynt eu tiroedd mewn cynhadledd bwysig a gynhaliwyd yn Aberdyfi ac y daeth yr holl dywysogion Cymreig a holl wŷr doeth Gwynedd iddi.
O hyn ymlaen nid amharwyd ar ei safle mewn unrhyw fodd o bwys. Y mae'n wir i elyniaeth y Marshaliaid beri iddo golli Caerfyrddin, Aberteifi, a Threfaldwyn yn 1223, eithr llwyddodd yntau i sefydlu rhagorsafoedd o bwysigrwydd daearyddol a milwrol trwy ennill Llanfair-ym-Muellt oddi ar William de Breos yn 1229 ac adennill Aberteifi yn 1231, a hynny ar adeg pan oedd yn gwrthweithio dylanwad perygl a godai ar y goror wrth fod swyddogion brenhinol yn crynhoi tiriogaethau eang at ei gilydd; Hubert de Burgh oedd y mwyaf egnïol yn hynny o beth. Daeth y cyfnod hwn i ben pan drefnwyd cytundeb Middle yn 1234, cytundeb a barodd fod heddwch cyfan gwbl bron am weddill oes Llywelyn. Arfaethai Llywelyn i'r benarglwyddiaeth a sefydlasai ef barhau trwy drefnu i'r mab hynaf etifeddu yn hytrach na chaniatáu cadw ymlaen y dull Cymreig cynhenid o rannu tiroedd rhwng y meibion i gyd. Cymerasid cam i'r cyfeiriad hwnnw eisoes yn 1229 pan gytunodd y brenin Harri III i gydnabod mai Dafydd, mab Joan, a gâi ddilyn ei dad, yn hytrach na Gruffydd, a oedd yn frawd hŷn na Dafydd. Gwelir athrylith Llywelyn fel gwladweinydd mewn cyfeiriad arall hefyd, sef yn ei ddymuniad i ennill cyfeillgarwch ei gymdogion ar y gororau trwy drefnu i'w blant briodi aelodau o'r teuluoedd hynny - dyweddïwyd David ag Isabella de Breos; Gwladus â Reginald de Breos (a phan ddaeth yn weddw, â Ralph Mortimer); gŵr cyntaf Margaret oedd John de Breos a'r ail oedd Walter Clifford; priodwyd Gwenllian a William de Lacy; a phriodwyd Helen â John, nai cynghreiriad agosaf ei thad, sef Ranulf, iarll Caer.
Tywysog ffiwdal mawr oedd Llywelyn, a'i bolisi wedi ei ffurfio o fewn cylch y cyfyngid arno gan reidrwydd talu gwrogaeth i Loegr; iddo ef, tywysogaeth ffiwdalaidd oedd Cymru, tebyg i'r frenhiniaeth yn Sgotland. A serch nad oes unrhyw dystiolaeth iddo erioed geisio gosod ar dywysogion eraill Cymru unrhyw fath ar unbennaeth heblaw un 'de facto' y mae'n amlwg ei fod, yn ei flynyddoedd olaf, yn prysur ffurfio polisi cyfansoddiadol o'r math a ddug ffrwyth yn ystod teyrnasiad ei ŵyr o'r un enw ag ef. Er enghraifft, dyna gymryd iddo'i hun, ar ôl 1230, y teitl newydd - ' Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri ' - a'r cam mwy agored a gymerth yn 1238 yn Ystrad Fflur pan fynnodd (yn wyneb protestio gan lys brenin Lloegr) i is-arglwyddi Cymreig dalu gwrogaeth i Ddafydd.
Bu Llywelyn farw 11 Ebrill 1240 yn Aberconwy, a chladdwyd ef yn abaty y lle hwnnw, yr abaty y bu ef yn bennaf noddwr iddo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Nid mab Ranulf, iarll Caer, oedd John gŵr Helen ferch Llywelyn. Nid oedd ganddo fab. Yr oedd yn nai fab chwaer iddo. John le Scot mab David, iarll Huntingdon, ydoedd ef, a'i fam oedd Maud chwaer Ranulf.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.