IORWERTH DRWYNDWN (bu farw c. 1174, y mae'n debygol),

Enw: Iorwerth Drwyndwn
Dyddiad marw: c. 1174
Priod: Margaret ferch Madog ap Maredudd
Plentyn: Llywelyn ap Iorwerth
Rhiant: Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn
Rhiant: Owain ap Gruffydd ap Cynan
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

mab hŷn Owain Gwynedd a Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn. Priododd dywysoges o Bowys, sef Marared ferch Madog ap Maredudd, a chael ohoni un mab - y tywysog Llywelyn Fawr (wedi hynny). Pan rannwyd tiroedd ei dad cafodd Iorwerth Arfon ac, y mae'n debyg, Nantconwy. Ychydig wedi hynny diflanna o dudalennau hanes; efallai iddo farw pan gipiodd ei hanner-brawd, David I, yr awenau yn rhanbarthau gogleddol Gwynedd yn 1174.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.