OWAIN GWYNEDD (c. 1100 - 1170), brenin Gwynedd

Enw: Owain Gwynedd
Dyddiad geni: c. 1100
Dyddiad marw: 1170
Priod: Christina ferch Gronw
Priod: Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn
Partner: Pyfog
Plentyn: Iefan ab Owain Gwynedd
Plentyn: Gwenllian ferch Owain Gwynedd
Plentyn: Angharad ferch Owain Gwynedd
Plentyn: Rhun ab Owain Gwynedd
Plentyn: Madog ab Owain Gwynedd
Plentyn: Iorwerth Drwyndwn
Plentyn: Maelgwn ab Owain Gwynedd
Plentyn: Rhodri ab Owain Gwynedd
Plentyn: Dafydd ab Owain Gwynedd
Plentyn: Cynan ab Owain Gwynedd
Plentyn: Hywel ab Owain Gwynedd
Rhiant: Angharad ferch Owain ab Edwin
Rhiant: Gruffudd ap Cynan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Gwynedd
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Ail fab Gruffydd ap Cynan ac Angharad, ferch Owain ab Edwin. Fe'i gelwir yn Owain Gwynedd i'w wahaniaethu oddi wrth Owen ap Gruffydd arall, a adnabyddir fel Owain Cyfeiliog. Priododd, (1), Gwladus, ferch Llywarch ap Trahaearn, a (2), Christina, ei gyfnither, merch Gronw ab Owain ab Edwin, merch y glynodd yn ffyddlon wrthi er gwaethaf anghymeradwyaeth egnïol yr Eglwys. Cafodd ddau fab o Gwladus - Iorwerth Drwyndwn a Maelgwn, a dau o Christina - Dafydd a Rhodri. Yr oedd iddo chwe mab arall o leiaf (goroesodd dau ohonynt, sef Hywel a Cynan, eu tad), a dwy ferch - Angharad, gwraig Gruffydd Maelor I, a Gwenllian, gwraig Owain Cyfeiliog.

Pan oedd yn wr ieuanc yn ystod y blynyddoedd 1120-30 bu Owain Gwynedd yn cydweithredu â brawd hyn, Cadwallon, ar ran eu tad a oedd yn mynd yn hen, yn y gwaith o adennill llwyddiant Gwynedd, ac yn arwain yn y gweithrediadau milwrol a ychwanegodd gantrefi Meirionnydd, Rhos, Rhufoniog, a Dyffryn Clwyd at Wynedd (sef y Wynedd wreiddiol). O'r herwydd, pan ddaeth yn frenin yn llawn ystyr y gair ar farw ei dad, Gruffydd ap Cynan, yn 1137 (buasai ei frawd Cadwallon farw yn 1132), yr oedd sylfeini gyrfa bwysig wedi eu gosod eisoes, a hynny mewn modd cadarn. Eisoes yr oedd aflywodraeth gwleidyddol yn Lloegr wedi rhoddi'r cyfle iddo ymuno â Gruffydd ap Rhys ac eraill mewn buddugoliaeth ar y Normaniaid yn Crug Mawr (1136) ac i gymryd meddiant o Geredigion dros dymor. Ar y cyfan, fodd bynnag, pethau dros dymor ac amherthnasol y golygai Owain Gwynedd i'r gweithrediadau hyn yn Ne Cymru fod - rhywbeth a roddai orchudd dros ei brif amcanion yn y Gogledd, sef cadarnhau ei afael ar y tiroedd yng Ngogledd Cymru. Yn y diwedd, er gwaethaf gwrthwynebiad Ranulf, iarll Caer, a Madog ap Maredudd o Bowys, ymostyngodd yr Wyddgrug a'r tiroedd cylchynol iddo yn 1146, ac, yn 1149, ychwanegwyd Tegeingl a Iâl at Wynedd. Yn 1157, fodd bynnag, â gwedd arall ar bethau yn Lloegr bellach, gorfu i Owain ddioddef ei unig orchfygiad pendant ar law Harri II. Y mae'r cyrch i Ogledd Cymru a gymerth Harri yn y flwyddyn honno, er nad oedd yn neilltuol lwyddiannus mewn ystyr filwrol, yn dynodi cam newydd a phendant yn hanes cysylltiadau Lloegr a Chymru. Wedi iddo golli Tegeingl a Iâl, a'i orfodi hefyd i dderbyn ei frawd iau, Cadwaladr, a alltudiesid yn 1152, i gyfran o'r awdurdod yng Ngwynedd, sylweddolodd Owain, gyda'r synnwyr pwyllog a'r gwelediad a oedd yn nodweddiadol ohono, bosibiliadau mawr llinach Anjou yn Lloegr; talodd wrogaeth i Harri a chytuno, fe ymddengys, i newid ei deitl swyddogol o frenin i dywysog. Ni wnaeth unrhyw gynnig, fodd bynnag, i dorri'r cyswllt ffiwdalaidd â Lloegr pan ddistrywiodd, yn anterth ei yrfa ac yng nghanol y gwrthryfel a oedd yn gyffredinol yng Nghymru yn 1165, yr amddiffynfeydd brenhinol yn Nhegeingl a sefydlu, unwaith yn rhagor, ddylanwad Aberffraw ar hyd arfordir Dyfrdwy. Bu farw 28 Tachwedd 1170 a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Bangor.

Er mai Owain Gwynedd a dderbyniodd yn y diwedd egwyddor penarglwyddiaeth llinach Anjou ar Wynedd, nid fel fasal cyffredin yr ystyriai efe ei hun - dylid cofio ei agwedd tuag at ethol esgobion i Fangor; y mae'n eglur hefyd mai ef a roes gyfeiriad cychwynnol i bolisi ei ddilynwyr (gweler Llywelyn I a II). Ei esiampl ef, hefyd, sydd yn cyfrif i raddau helaeth am y ffaith i reolwyr Cymreig Cymru beidio â bod yn benaethiaid llwythol yn unig eithr dyfod bellach i gymryd eu lle ochr yn ochr â mawrion ffiwdalaidd yr oes. Y mae eithafrwydd y clodydd a ganwyd dro ar ôl tro i'w gyneddfau personol niferus gan feirdd cyfoes, ac, yn wir, gan amryw o wyr amlwg nad oedd ganddynt unrhyw resymau neilltuol dros dueddu i feddwl yn dda ohono, yn profi mai i'w athrylith ef, ' Owain Fawr,' yr oedd Cymru 'r 12fed ganrif yn ddyledus, i raddau helaeth, am yr ymdeimlad o fyd gwell, mewn rhyfel a heddwch fel ei gilydd, a ganfyddir ynddi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.