Trydydd mab Gruffydd ap Cynan (bu farw 1137) a'i wraig Angharad. Clywir sôn amdano gyntaf yn 1136, pryd y bu i'w frawd Owain ac yntau, wedi marw Richard Fitz Gilbert, arglwydd Ceredigion, fynd ar gyrch i'r dalaith honno a chymryd y pum castell gogleddol, Aberystwyth yn eu plith. Ddiwedd y flwyddyn daethant eilwaith gyda llu mawr o farchogion wedi eu gwisgo mewn dur, a gwŷr traed, ac ysgubo trwy odre'r dalaith, gan orchfygu'r ymfudwyr dieithr mewn brwydr yn Crug Mawr, heb fod nepell o dref Aberteifi. Yn 1137 cwblhaodd y ddeufrawd eu concwest trwy gymryd cestyll yn nwyrain a de Ceredigion; trwy iddynt fynd yn feiddgar dros afon Teifi daeth Caerfyrddin hefyd i'w meddiant. Dyna eithafbwynt eu hennill; yn 1138 methasant, hyd yn oed gyda chymorth llongau rhyfel Danaidd, â thorri i lawr wydnwch garsiwn Aberteifi, a bu'n orfod ar Gadwaladr fodloni ar gael gogledd Ceredigion fel ei gyfran ef o'r ysglyfaeth. Ychydig yn ddiweddarach fe'i ceir, yn rhyfedd iawn, yn ymuno â'r iarll Randolph yr ail o Gaer yn y cyrch ar dref Lincoln, 2 Chwefror 1141, pan anrheithiwyd y ddinas a chymryd y brenin Stephen yn garcharor. Eithr nid cyrch direswm oedd hwn; rhaid ei gysylltu â phriodas Cadwaladr ag Alice de Clare, ferch Fitz Gilbert - uniad yn amcanu yn ddiamau at gryfhau ei afael ar Geredigion ac a'i gwnaeth yn nai i'r iarll Randolph. Gwnaeth bradwriaeth frawychus yn 1143 iddo gwympo allan â'i frawd. Caniataodd i'w ddilynwyr ladd mewn modd bradwrus y tywysog o Ddeheubarth, Anarawd ap Gruffydd, ac felly bu iddo syrthio dan wg teilwng Owain a orchmynnodd i'w fab Hywel ei ymlid o Geredigion. Cafodd loches yn Iwerddon ac yno gymorth Daniaid Dulyn, a ddug yn 1144 lynges i Abermenai i'w ailosod mewn awdurdod. Ond bu newid ar bethau yma; fe ffoes Cadwaladr o ofal ei gynghreiriaid (ceir camgyfieithu o'r 'Brut ' gan Ab Ithel yma), cymododd a'i frawd, a gyrrodd hwnnw y gwŷr tramor yn ôl.
Daeth rhagor o ofidiau i'w ran. Yn 1147 cymerodd ei neiaint, Hywel a Cynan, gyrch ar Feirionnydd, y naill o'r de a'r llall o'r gogledd, a bygwth Cynfail, ei gastell a ddelid yn deyrngarol drosto gan Morfran, pennaeth y 'clas' cyfagos yn Nhywyn. Llwyddasant, ac ymhen dwy flynedd rhoes Cadwaladr ei gyfran o Geredigion, a'i gastell newydd yn Llanrhystud yn rhan ohoni, i'w fab Cadfan. Ac yn olaf oll bu anghydfod newydd rhyngddo ac Owain - anghydfod a barodd iddo gael ei ymlid o Fôn a byw'n alltud am bum mlynedd yn Lloegr. Bu ei gysylltiadau Seisnig o help iddo'n awr. Gwyddys iddo fod yn dyst o dan y cyfenwad 'Welsh' neu 'North Welsh King' i siarteri a roes yr iarll Randolph i abatai Caer ac Amwythig; yn ddiweddarach, pan esgynnodd Harri II i'r orsedd, rhoddwyd iddo foddion i fyw mewn dull teilwng yn Ness yn Swydd Amwythig.
Daeth tymor ei alltud i ben yn 1157, pryd y treiddiodd Harri i Wynedd a threfnu heddwch ar yr amod bod Cadwaladr yn cael ei le cysefin yn ôl. O hyn allan peidiodd Cadwaladr â dilyn ei amcanion personol ei hun, eithr ymuno â'i gyd-dywysogion yn y Gogledd. Fe'i ceir yn un o gydblaid gwŷr y Gogledd ac ieirll Seisnig a geisiodd yn 1159, eithr yn ofer, goncwerio Rhys ap Gruffydd. Safai ochr yn ochr â'i frawd yn y cynulliad mawr o benaethiaid Cymreig a gyfarfu yng Nghorwen yn 1165, a chynorthwyodd ef i ennill cestyll Rhuddlan a Phrestatyn yn 1167.
Goroesodd Cadwaladr ei frawd Owain, gan farw 29 Chwefror 1172. Fe'i claddwyd yn eglwys gadeiriol Bangor; gwelodd Gerallt Gymro yn 1188 feddrod dwbl y ddau frawd ym mur y presbyteri yn agos i'r allor fawr. Dywed Gerallt amdano ei fod yn dywysog haelionus dros ben; yr unig enghraifft o hyn ydyw rhoddi eglwys Nefyn yn rhodd i abaty Haughmond - y mae enwau ei wraig a'r iarll Randolph yn y siarter cyflwyniad.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.