Ganwyd ar y 7 Ebrill 1811 yn Tynant, Llangynhafal, yn fab i Roger ac Elizabeth Williams; enw ei daid oedd William Bethell, ac yn ddiweddarach mabwysiadodd yntau'r cyfenw hwnnw yn y ffurf ' Ab Ithel,' gan roi heibio'r ffugenw ' Cynhaval ' a arddelai gynt. Bu yn ysgol Rhuthyn a Choleg Iesu (1832), Rhydychen; graddiodd yn 1835, a cymerodd radd M.A. yn 1838. Ei guradiaeth gyntaf oedd Llanfor; yno y priododd ag Elizabeth Lloyd Williams (nith i'w ficer), ac yno (1836) y cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Eglwys Loegr yn Anymddibynol ar Eglwys Rhufain. Yn 1843, cafodd guradaeth barhaol Nercwys, ac yno (1844) y cyhoeddodd ei Ecclesiastical Antiquities of the Cymry. Penodwyd ef yn rheithor Llan-ym-Mawddwy yn 1849. Yn ystod yr ymgyrch yn erbyn y bwriad o uno dwy esgobaeth Bangor a Llanelwy, yr oedd wedi dod i gyfeillgarwch ag un arall o wrthwynebwyr y bwriad hwnnw, sef H. Longueville Jones, ac yn 1846 cychwynasant gyhoeddi Archaeologia Cambrensis. Cydolygodd Archaeologia Cambrensis gyda H. Longueville Jones hyd 1851, o hynny hyd 1853 ef oedd yr unig olygydd. Rhoes yr olygyddiaeth i fyny yn 1853. Sefydlwyd y Cambrian Archaeological Association yn yr un cyfnod. Yn 1852 cyhoeddodd ' Ab Ithel ' argraffiad a chyfieithiad o'r Gododdin. Ffraeodd y ddau gyfaill yn 1853 - gwrthdaro rhwng tymheredd archaeolegydd manwl 'sych' a thymheredd Cymreigiwr brwd nad oedd ei sêl yn ôl gwybodaeth.
Nid oedd gan ' Ab Ithel ' nemor ysgolheictod, ac ar y llaw arall yr oedd wedi mallu ei ymennydd a chwedloniaeth ' Iolo Morganwg ' a'i ysgol - yn enwedig ' Myfyr Morganwg ' (Evan Davies). Yn anffodus, yr oedd erbyn hyn yn cael ei ystyried, gan bawb ond ychydig wyr beirniadol, fel pennaeth ysgolheictod Gymreig - ystyriwyd ei enw'n ddifri am y gadair Gelteg y sonnid am ei sefydlu yn Rhydychen. Cychwynnodd y Cambrian Institute, gyda'i; chylchgrawn y Cambrian Journal a olygodd o 1854 hyd ei farw. Daeth yn brif ddyn y Welsh MSS. Society, a golygodd bedair o'i chyfrolau; gwaeth fyth, ar ôl marw Aneurin Owen penodwyd ef gan y Llywodraeth (1858) i gwpläu'r cynllun o gyhoeddi'r hen groniclau o hanes Cymru - ymddangosodd Annales Cambriae a Brut y Tywysogion yn 1860. Rhidyllwyd ei waith golygyddol gan feirniaid diweddarach - nid yn unig am nad oedd ganddo unrhyw syniad sut i olygu hen lawysgrifau'n wyddonol, ond hefyd am iddo ddefnyddio gwaith gwyr eraill (megis Aneurin Owen neu Thomas Rowland) heb gydnabod hynny. Eithr penllanw ei ffolineb oedd 'Eisteddfod Fawr Llangollen' (1858), a drefnwyd ganddo ef a'i ffrindiau megis 'Môr Meirion (R. W. Morgan) a 'Carn Ingli ' (Joseph Hughes), ac a oedd yn wawd ac yn warth i'w gydwladwyr ystyriol - 'enillodd' ef a'i deulu amryw o'r gwobrau, a chollfarnwyd Thomas Stephens am feiddio amau dilysrwydd stori Madog. Ar waethaf hyn oll, bu eisteddfod 1858 yn garreg filltir go bwysig yn hanes yr eisteddfod genedlaethol - heb unrhyw ddiolch i'w threfnwyr.
O'r ochr arall, ni ellir mewn unrhyw fodd wadu egni a diwydrwydd ' Ab Ithel,' mewn byd nac eglwys, na'i wir gariad at ei genedl. Yr oedd yn offeiriad plwyf ymroddedig dros ben, a heblaw hynny'n arolygydd ysgolion ' Madam Bevan ' yng Ngogledd Cymru, a'r ysgolion eglwysig yn neoniaeth Llanelwy. Efe oedd yr offeiriad cyntaf i wasanaethu plwyf newydd Rhosygwaliau. Uchel-eglwyswr (eto nid defodwr) oedd ef, ac yn 1850 gwnaeth ei orau i gychwyn protest yn erbyn dyfarniad y Cyfrin Gyngor yn achos enwog Gorham. Gweithiai mor galed nes iddo dorri i lawr ddwywaith - yn 1849, pan roddwyd ef dros dro ym mhlwyf ysgafnach Llangorwen; ac yn 1855, pan fu raid iddo gymryd bron ddwy flynedd o seibiant oddi wrth ddyletswyddau plwyfol. Fis Mawrth 1862, symudwyd ef o Lan-ym-Mawddwy (ei olynydd yno oedd Daniel Silvan Evans) i Lanenddwyn a Llanddwywe (Dyffryn Ardudwy). Ond yr oedd ei iechyd erbyn hynny wedi dadfeilio'n llwyr, a bu farw 27 Awst 1862; claddwyd ym mynwent Llanddwywe. Rhoddwyd pensiwn sifil i'w weddw, Elizabeth, 18 Mehefin 1873.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.