Ganwyd Thomas Stephens ar 21 Ebrill 1821 yn Tan-y-gyrchen (a elwid hefyd yn Tŷ-to-cam) ym Mhontneddfechan, Sir Forgannwg, yn fab i'r crydd adnabyddus Evan Stephens a'i wraig Rachel, merch William Williams (Wil y Gweydd, 1778-1834), gwehydd a gweinidog capel Undodaidd Blaen-gwrach. Ymhlith y bobl a ddylanwadodd arno yn ei blentyndod oedd Maria Jane Williams (Llinos) a'r Crynwr Thomas Redwood (awdur The Vale of Glamorgan. Scenes and Tales among the Welsh). Wedi mynychu ysgol elfennol a gynhaliwyd mewn ysgubor ger Cefn Rhigos, treuliodd tua thair blynedd yn yr ysgol Undodaidd yng Nghastellnedd a sefydlasid yn wreiddiol gan David Davis (1745-1827) ac a oedd dan ofal John Davies, cyn-weinidog Capelygroes yng Ngheredigion, yn ystod ei amser yno. Ym mis Hydref 1835, fe'i prentisiwyd i David Morgan, fferyllydd ym Merthyr Tudful. Pan fu farw Morgan ym 1841, cymerodd drosodd y busnes yn 113 High Street, a hwn oedd prif ffynhonnell incwm y teulu drwy gydol bywyd Stephens. Ym 1866, priododd Margaret Elizabeth Davies, disgynnydd i deulu Undodaidd adnabyddus Williams, Penrheolgerrig (gweler Morgan Williams, 1808-1883), yn eglwys plwyf Llangollen. Ei brawd Richard a ofalodd am y rhan fwyaf o'r busnes wedi i Stephens ddioddef ei strôc cyntaf ym 1868.
Dylanwadodd Thomas Stephens ar hanes y Gymru fodern drwy ei ymdrechion fel aelod o ddosbarth canol Merthyr Tudful i droi safle diwydiannol di-drefn yn gymuned drefol â chyfleusterau sifig modern; drwy ei waith dygn er moderneiddio pob agwedd o fywyd a diwylliant Cymru, yn enwedig addysg, yr eisteddfod ac orgraff y Gymraeg; a thrwy ei gyfraniadau arloesol i ysgolheictod Cymreig ym maes hanes.
Fel Undodwr, credai Thomas Stephens yng nghydraddoldeb pawb o flaen Duw, ac yng ngallu dyn a chymdeithas i gyrraedd cyflwr uwch drwy addysg a thrwy ddilyn gweithgareddau hamdden rhesymol. Mae'n rhaid ystyried ei gyfraniad cyfan yn erbyn y cefndir crefyddol hwn. Gweithredodd ar sail ei gredoau yn gyntaf drwy gyd-sefydlu llyfrgell gyhoeddus ym Merthyr Tudful ym 1846, y bu'n ysgrifennydd iddi nes i'w iechyd fethu ym 1870, gan drefnu a thraddodi nifer o ddarlithoedd addysgiadol. Derbyniodd nawdd a chefnogaeth yn y prosiect hwn, fel i brosiectau eraill, gan yr Arglwyddes Charlotte Guest a Syr John Josiah Guest. Ymgyrchodd dros Fwrdd Iechyd i Ferthyr Tudful yn y 1850au, cymerodd rôl blaenllaw yn y proses o gynllunio Neuadd Llwyrymwrthodol i fod yn gartre i weithgareddau hamdden adeiladol i'r dosbarthiadau gweithiol, a gweithiodd yn ddi-flino dros Ymgorffori'r dref. Gweithredodd fel cymedrolwr rhwng yr haearnfeistri a'r gweithwyr fwy nag unwaith. Ym 1853, ef a gadeiriodd gyfarfod a fynychwyd gan dros 3,000 o bobl i ddwyn i ben streic hir. Casglodd a dosbarthodd arian hyd ddiwrnod cyn ei farwolaeth ar gyfer gweddwon a phlant y dynion a laddwyd mewn ffrwydrad ym Mhwll Glo Crawshay Gethin Rhif 2 ym 1862. Bu'n gyfaill agos i H. A. Bruce, Arglwydd Aberdâr, ac yn ymgyrchydd brwd ar ei ran fel yr AS Rhyddfrydol dros y dref o 1852 hyd 1868. Gwasanaethodd fel Uwch-Gonstabl Merthyr Tudful ym 1858.
Daeth dawn ac arddull Stephens fel diwygiwr cymdeithasol i'r amlwg yn gyntaf mewn cyfres o lythyrau i'r papur newydd The Cambrian ym 1842-3, pan feirniadodd natur ramantus eisteddfodau'r cyfnod yn hallt. Ym 1847, ac mewn ymateb i gyhoeddi'r Llyfrau Gleision , cymerodd ran flaenllaw mewn dadl ar dudalennau'r Monmouthshire Merlin ynghylch darpariaeth addysg. Stephens oedd un o'r ychydig rai a leisiodd y farn amhoblogaidd fod ymdrechion gwirfoddol yn annigonol ac y dylai'r wladwriaeth ddarparu addysg i'r nifer fawr o blant nad oeddynt yn mynychu ysgolion ar y pryd. Lladdwyd arno, gan ei alw'n 'maniac' ac yn 'gelwyddgi' gan gynrychiolwyr capel ac Eglwys am yr agwedd arloesol hon.
Thomas Stephens oedd un o ddau ymgyrchydd blaenllaw dros ddiwygio orgraff y Gymraeg, pwnc a drafodwyd ers ymdrechion cyfeiliornus William Owen Pughe. Yn dilyn cyfarfod yn Eisteddfod Llangollen 1858, cylchredwyd holiaduron gan Stephens a Robert John Pryse (Gweirydd ap Rhys) a arweiniodd at gyhoeddi Orgraph yr Iaith Gymraeg ym 1859, rhagflaenydd gwerthfawr i'r ysgrifau a gyhoeddwyd gan Syr John Morris-Jones yn Y Geninen yn y 1890au, ac i'r gwaith safonol ar egwyddorion orgraff y Gymraeg a ymddangosodd ym 1929.
Cynigiai cystadlaethau eisteddfodol gymhelliad a llwyfan pwysig i ddysg a chreadigrwydd ysgolheigion lleyg Cymru Oes Fictoria, ac nid oedd Thomas Stephens yn eithriad yn hyn o beth. Enillodd wobrau yn y rhan fwyaf o'r eisteddfodau y cystadlodd ynddynt rhwng 1840 a 1858, weithiau hyd at dair gwobr. Dathlodd ei fuddugoliaeth gyntaf yn Eisteddfod Lerpwl ym 1840 gyda'r traethawd ar 'History of the life and times of Iestyn ab Gwrgant, the last native Lord of Glamorgan'. Sefydlodd ei hun fel ysgolhaig mwyaf arloesol y cyfnod gyda'r traethawd 'The Literature of Wales during the twelfth and succeeding centuries', a enillodd wobr Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni ym 1848, ac a ymddangosodd flwyddyn wedyn fel The Literature of the Kymry . Hon oedd yr astudiaeth gyntaf o lenyddiaeth Cymru'r oesoedd canol a seiliwyd ar egwyddorion ysgolheigaidd modern, a chafodd dderbyniad tra ffafriol ledled Ewrop, gan ysgolheigion megis Matthew Arnold, Theodore Hersart de La Villemarqué, Henri Martin, Max Müller ac Albert Schulz. Fe'i hystyriwyd mor bwysig fel y'i cyfieithwyd i'r Almaeneg ym 1864. Serch hynny, ac er i Stephens barhau i fod yn ysgolhaig llwyddiannus, Literature of the Kymry fyddai'r unig gyfrol ysgolheigaidd o'i waith i ymddangos yn ystod ei fywyd. Enillodd ei draethawd pumcan tudalen ar 'Summary of the History of Wales from the earliest period to the present time' wobr gyntaf Eisteddfod Rhuddlan, ond ni chafodd ei gyhoeddi oherwydd diffyg nawdd. Am yr un rheswm ni chyhoeddwyd ychwaith ei draethawd buddugol yn Eisteddod olaf y Fenni, 1853, sef 'Remains of the Welsh Poets from the sixth century to the twelfth', a oedd i fod yn rhan gyntaf 'hanes cyflawn llenyddiaeth Gymraeg'. Ni chyhoeddwyd ei draethawd 'English prose translation of the “Gododdin” with explanatory notes' o 1853 tan 1888 fel The Gododdin of Aneurin Gwawdrydd: An English Translation with Copious Explanatory Notes; A Life of Aneurin; and Several Lengthy Dissertations Illustrative of the 'Gododdin', and the Battle of Cattraeth, wedi ei olygu gan Thomas Powel (1845-1922). Methodd gwaith mawr olaf Stephens, 'Madoc: an essay on the discovery of America by Madoc ap Owen Gwynedd in the twelfth century ', ag ennill cystadleuaeth Eisteddfod Llangollen 1858 am ei fod yn gwrthbrofi chwedl darganfyddiad America gan Madoc a'i ddilynwyr. Ystyriwyd Stephens yn ferthyr i wirionedd o ganlyniad, a chynyddwyd drwg-enwogrwydd y prif feirniad a derwydd John Williams (ab Ithel). Cyhoeddwyd y traethawd olaf hwn ym 1893, wedi ei olygu gan gymydog a disgybl Stephens, Llywarch Reynolds.
Trodd Stephens at y wasg gylchgronol fel cyfrwng i fynegi ei syniadau beirniadol a'i ymchwil arloesol ar hanes y Cymry, a'i amcan o ddisodli rhamantiaeth â dull wyddonol o ymchwil yr un mor gadarn ag erioed. Ymhlith ei brif erthyglau y mae cyfres ar y ffugiwr rhamantus Edward Williams (Iolo Morganwg) yn Yr Ymofynydd (1852-1853), ar y chwedlonol 'Dyfnwal Moelmud' a chyfreithiau cynnar y Cymry yn y Cambrian Journal ac yna yn Archaeologia Cambrensis (1854 ymlaen), ar 'The Book of Aberpergwm' yn Archaeologia Cambrensis (1858), ac ar 'The Bardic Alphabet called “Coelbren y Beirdd”' yn Archaeologia Cambrensis (1872). Ceir nifer fawr o gyfraniadau byrrach ganddo mewn papurau newydd megis The Cambrian , The Merthyr Guardian, The Monmouthshire Merlin , ac The Silurian, ac mewn cylchgronau megis Seren Gomer , Yr Ymofynydd , Y Traethodydd ac Y Beirniad .
Methodd ei iechyd yn dilyn sawl strôc, a bu farw ar 4 Ionawr 1875. Fe'i claddwyd yn rhan Anghydffurfiol mynwent Cefncoedycymer. Ar gais aelodau Capel Undodaidd Twynyrodin, Merthyr Tudful, cyhoeddwyd ei bregeth gynhebrwng, yn ogystal â'r rhestr o dros 180 o lyfrau ysgolheigaidd mewn nifer o ieithoedd a adawodd yn gymynrodd i lyfrgell Merthyr Tudful. Rhoddwyd ei archif i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan deulu ei weddw ym 1916, ble mae ar gael fel casgliad LlGC Llsgrau. 904-66 . Yn 2017, rhoddwyd trawsysgrifiadau o'r prif gasgliad o lythyrau at Thomas Stephens ar y we. Gellir eu chwilio ar: https://archives.library.wales/index.php/letters-534 ac hefyd https://archives.library.wales/index.php/letters-889 .
Dyddiad cyhoeddi: 2017-08-07
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Ganwyd 21 Ebrill 1821 yn Tan-y-gyrchen (a gyfenwyd Ty To Cam) ym Mhont Nedd Fechan, Morgannwg, mab Evan Stephens, crydd, a Margaret, merch y Parch. William Williams, gweinidog Undodaidd Blaengwrach. Yr unig addysg ffurfiol a gafodd oedd tua thair blynedd yn ysgol John Davies, Castellnewydd. Oddi yno aeth yn brentis i fferyllydd ym Merthyr Tydfil yn 1835; daeth yn berchen y siop honno yn ddiweddarach. Bu'n uwch gwnstabl Merthyr yn 1858, yn rheolwr y Merthyr Express, ac ef oedd prif sylfaenydd llyfrgell y dref.
Ar ôl 1840 daeth yn enwog fel eisteddfodwr ac yn 1848, yn eisteddfod y Fenni, enillodd wobr am draethawd mawr ar lên Cymru yng nghyfnod y Gogynfeirdd, a dyma'r traethawd a ymddangosodd yn 1849 fel ei lyfr a'i waith enwocaf, The Literature of the Kymry. Hwn oedd yr ymdriniaeth feirniadol gyntaf ar y cyfnod yma a ddaeth yn adnabyddus i lenorion Ewrop. Eraill o'i gyfansoddiadau yw ' The history of the Trial by Jury in Wales ' (N.L.W.); Madoc: an essay on the Discovery of America by Madoc ap Owen Gwynedd in the Twelfth Century (trwy ystryw ar ran pwyllgor yr eisteddfod collodd y wobr am y traethawd yma yn Llangollen 1858, ond fe'i cyhoeddwyd dan olygyddiaeth Llywarch Reynolds yn 1893); Orgraff yr Iaith Gymraeg, 1859, gyda ' Gweirydd ap Rhys.' Cyfrannodd erthyglau i'r Beirniad, 1861-3, a'r Archæologia Cambrensis, 1851-3. Ef oedd y cyntaf i fabwysiadu'r dull gwyddonol o feirniadu llenyddiaeth.
Bu farw 4 Ionawr 1875, a chladdwyd yng nghladdfa gyhoeddus Cefn Coed Cymer.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.