PRYSE, ROBERT JOHN (‘Gweirydd ap Rhys’; 1807-1889), hanesydd a llenor

Enw: Robert John Pryse
Ffugenw: Gweirydd ap Rhys
Dyddiad geni: 1807
Dyddiad marw: 1889
Priod: Grace Prys (née Williams)
Plentyn: Elin Prys
Plentyn: Catherine Jane Prichard (née Pryse)
Plentyn: John Robert Pryse
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd a llenor
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Enid Pierce Roberts

Ganwyd 4 Gorffennaf 1807 mewn bwthyn o'r enw Beudy Clegyrog, ym mhlwyf Llanbadrig, sir Fôn. Pedwar diwrnod o ysgol yn unig a gafodd, dau pan oedd yn bum mlwydd oed a dau arall ymhen 15 mlynedd. Buasai farw ei fam pan oedd ef yn 4 oed, ac yng ngwanwyn 1818 bu farw ei dad hefyd. Gan eu bod mewn dygn dlodi anfonodd festri plwyf Llandrygarn (am mai i'r plwyf hwnnw y perthynent erbyn hyn) y tri phlentyn hynaf i wasanaeth, a'r ddau ieuengaf, Robert a William, i'r plwyf. Wedi mis yn y Tryfil Bach symudwyd Robert i Bentre'r Bwâu. Yno syrthiodd ef a merch y fferm, Marged, mewn cariad â'i gilydd, a dyna flynyddoedd hapusaf ei fywyd. Eithr oddeutu 1823 bu farw Marged a dihangodd Robert oddi yno. Bu'n gweithio ar fferm am ysbaid, yna ymroes i ddysgu gwaith gwehydd, yn y Bontnewydd, Llanrhyddlad, yn y Gerlan, Llanfairpwll, ac yn Nhan-y-fron, Llansannan, a daeth yn gymaint meistr ar wau gwaith croes fel mai iddo ef y gofynnwyd am y deunydd mantell a roddwyd yn anrheg i'r dywysoges Victoria yn eisteddfod Biwmares, 1832. Priododd Grace Williams, merch Ynys-y-gwyddyl, Llanfflewyn, 21 Tachwedd 1828, ac o hynny hyd 1857 yn Llanrhyddlad y sefydlodd, yn cadw siop ac ennill arian mawr gyda'i wau cywrain. Yng nghanol hyn i gyd, a magu saith o blant, ymroes ati i'w ddiwyllio ei hun. Ar ôl i'r teulu noswylio âi yntau i'w lyfrgell i ddarllen ac astudio hyd oriau mân y bore. Cafodd cerddoriaeth a barddoniaeth sylw am ysbaid, dysgodd Saesneg, Lladin, a Groeg, ond ei hoff destunau oedd hanes a llên Cymru. Y diwedd fu cadw'r taclau gwau, ac, yn 1857, symud i Ddinbych i weithio yn swyddfa Gee, yn bennaf gyda'r Gwyddoniadur a geiriaduron. Yn fuan ar ôl marw ei fab, ‘Golyddan’ (isod), Tachwedd 1862, symudodd i Fangor i geisio ennill bywoliaeth drwy lenydda. Ambell dro deuai tlodi mawr i'w ran, dro arall byddai'n pethau'n well. Cafodd £360 gan Mri. Mackenzie am Hanes y Brytaniaid a'r Cymry, enillodd amryw wobrwyon yn yr eisteddfod genedlaethol, yn eu plith £100 am ‘Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1300-1650’ (Caerdydd, 1883), a chafodd £150 o ‘Civil List Pension’ yr un flwyddyn. Oherwydd gwaeledd a henaint symudodd i Gaergybi at ei ferch Buddug yn 1884. Wedi marw ei briod, 1887, aeth i Fethesda at ei ferch hynaf, Elin, ac yno y bu farw 3 Hydref 1889. Claddwyd ef gyda'i briod yng Nghaergybi.

Ymaelododd gyda'r Methodistiaid pan oedd yn 16 oed. Yn ddiweddarach cafodd gynnig mynd i Goleg S. Bees a chael ei ordeinio'n offeiriad, ond wedi astudio'r Llyfr Gweddi a'r Testament Newydd yn fanwl gwelodd na allai byth dderbyn urddau o unrhyw fath rhag mor Babyddol yr ystyriai hwy. Penderfynodd hefyd ‘mai annibynnol hollol yw pob Eglwys Gristnogol i fod’ yn ôl trefn y Testament Newydd. Trodd at yr Annibynwyr, eithr buan iawn y sylweddolodd nad oeddynt hwythau'n gwbl annibynnol a cheisiodd eu diwygio. Cyhuddwyd ef o ‘Blymoutha’ a thraddododd ‘Gwilym Hiraethog’ bregeth yn ei erbyn ef a'i syniadau yng nghymanfaoedd Caernarfon a Llangefni, Gorffennaf 1844. Urddwyd ef yn fardd, dan yr enw ‘Gweirydd ap Rhys,’ yn eisteddfod Aberffraw, 1849. Yn sicr ni bu llenor mwy diwyd nag ef yn y ganrif. Cyhoeddodd lu o erthyglau a llyfrynnau, rhai'n gyfieithiadau ond y rhan fwyaf yn waith gwreiddiol; cyfrannodd fwy na neb tuag at Y Gwyddoniadur — digon bron i lenwi un gyfrol; lluniodd bum geiriadur; golygodd amryw lyfrau, yn eu plith argraffiad o'r Myvyrian, 1870, ac o'r Beibl, 1876, ac ef a olygodd y rhan fwyaf o Enwogion y Ffydd. Oes fer a gafodd ei newyddiadur wythnosol, Papur y Cymry, 1863-4. Ei brif weithiau yw Hanes y Brytaniaid a'r Cymry, a Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1300-1650. Nod amgen ei holl waith yw annibyniaeth barn. Ceisiai bob amser fynd i lygad y ffynnon a darganfod y gwirionedd drosto'i hun.

Mab i ‘Gweirydd ap Rhys’ oedd

JOHN ROBERT PRYSE (‘Golyddan’; 1840 - 1862), bardd Barddoniaeth;

Ganwyd yn y Cae-crin, Llanrhyddlad, Môn, 10 Mehefin 1840. Addysgwyd ef yn Ysgol Frutanaidd Llanrhyddlad, yna rhoddwyd ef i ddysgu Groeg a Lladin gyda'r Parch. R. E. Williams (‘Apeles’), gweinidog yr Annibynwyr yn Llanddeusant. Pan oedd o 13 i 14 oed aeth yn brentis at Dr. Jones, Llanfachraeth a Chaergybi, gan ddilyn ei wersi o hyd. Yn 1855 anfonwyd ef am un sesiwn i'r Andersonian College, Glasgow, lle'r enillodd ddwy wobr gyntaf; yna dychwelodd i Gaergybi i gynorthwyo Dr. Jones. Yn y cyfnod hwn darllenodd yn helaeth lenyddiaeth Ffrainc, Lloegr, Groeg, a Rhufain. Yn niwedd Medi 1860 aeth i Brifysgol Edinburgh. Enillodd ddwy wobr gyntaf ac ef oedd yr uchaf yn yr arholiad cyntaf am M.D. Yn ystod gwyliau'r haf aeth i Gaergybi fel arfer. Gweithiodd yno'n galed iawn, cafodd annwyd trwm a throdd hwnnw'n ddarfodedigaeth. Bu farw yn nhŷ ei rieni, Vale View, Dinbych, 13 Tachwedd 1862, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Dewi Sant. Gadawodd 40,000 o linellau o farddoniaeth, y rhan fwyaf yn gyfansoddiadau eisteddfodol, anfuddugol. Ei uchelgais yntau, fel y rhelyw o'r beirdd eisteddfodol, oedd llunio arwrgerdd fawr Gristnogol yn null Milton. Er na lwyddodd neb yn hyn o beth, efallai mai ei ymdrechion ef yw'r teilyngaf.

Merch i ‘Gweirydd ap Rhys’ oedd

CATHERINE PRICHARD (‘Buddug’; 1842 - 1909), bardd Barddoniaeth;

Ganwyd yn y Cae-crin, Llanrhyddlad, Môn, 4 Gorffennaf 1842. Urddwyd hi gan ‘Clwydfardd’ yn eisteddfod Dinbych, 1860, dan yr enw ‘Buddug,’ enw a ddefnyddiasai yn Udgorn Cymru wrth amddiffyn y merched yn erbyn y gyfres ‘Ffoledd Ffasiwn.’ Priododd Owen Prichard (‘Cybi Velyn’), Caergybi, 2 Ionawr 1863. Ysgrifennodd amryw ddarnau o farddoniaeth; y rhai mwyaf adnabyddus yw ‘O na byddai'n haf o hyd’ a ‘Neges y Blodeuyn.’ Bu farw 29 Mawrth 1909. Y mae cyfrol o'i gwaith yn Cyfres y Fil.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/