GEE, THOMAS (1815 - 1898), pregethwr, newyddiadurwr, gwleidydd

Enw: Thomas Gee
Dyddiad geni: 1815
Dyddiad marw: 1898
Priod: Susannah Gee (née Hughes)
Plentyn: Jane Emily Davies (née Gee)
Plentyn: Howel Gee
Rhiant: Mary Gee (née Foulkes)
Rhiant: Thomas Gee
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr, newyddiadurwr, gwleidydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd yn Ninbych, 24 Ionawr 1815, mab Thomas Gee, argraffydd, a Mary Foulkes, Hendre'r Wydd. Addysgwyd ef yn ysgol Grove Park, Wrecsam, ac ysgol ramadeg Dinbych, a phrentisiwyd ef yn argraffydd gyda'i dad pan yn 14 oed. Wedi gorffen ei brentisiaeth bu'n gweithio o 1836 hyd 1838 yn swyddfa Eyre a Spottiswoode yn Llundain, gan ddychwelyd i Ddinbych at ei dad yn 1838. Yn y flwyddyn honno dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a pharhaodd i bregethu, gyda dilyn ei alwedigaeth fel cyhoeddwr ac argraffydd, ond ni chymerodd ofal eglwys. Gweithiodd o blaid yr ysgol Sul ac achos dirwest yn arbennig. Yn 1845 bu farw ei dad gan adael y busnes yn ei ddwylo ef, ac yn yr un flwyddyn dechreuodd Gee gyhoeddi'r Traethodydd, cylchgrawn chwarterol, gyda Dr. Lewis Edwards, y Bala, yn olygydd. Yn 1854 dechreuodd ar antur fawr arall, sef cyhoeddi Y Gwyddoniadur, gwaith a gwplawyd, yn ddeg cyfrol, erbyn 1878, ac a gostiodd tuag £20,000. Cyhoeddwyd ail argraffiad yn 1896. Ar 4 Mawrth 1857 daeth rhifyn cyntaf Baner Cymru allan, yn bapur wythnosol, ac yn Hydref 1859 unwyd Yr Amserau ag ef; enw'r papur o hynny ymlaen oedd Baner ac Amserau Cymru, ac am rai blynyddoedd o Orffennaf 1861 ymlaen daeth allan ddwywaith yn yr wythnos. Trwy gyfrwng Y Faner daeth Gee yn ddylanwad mawr ym mywyd gwleidyddol, cymdeithasol, a chrefyddol Cymru am gyfnod maith. Er nad ef oedd y golygydd ar y dechrau, 'prin y rhaid dywedyd,' medd T. Gwynn Jones, 'fod ei ddelw ar Y Faner o'r cychwyn,' a chyn bo hir cymerodd reolaeth y papur yn hollol yn ei law ei hun. Nid oedd yn llenor mawr, ond casglodd nifer o ysgrifenwyr galluog o'i gwmpas a chreodd bapur newydd a chanddo gymeriad nodweddiadol a neges. Yn ychwanegol i'w waith trwy'r Faner o blaid mesurau rhyddfrydol a diwygiadol, cymerth ran amlwg ar y llwyfan ac mewn pwyllgorau ynglŷn â gwleidyddiaeth a materion addysgol a chrefyddol. Bu farw yn Ninbych, 28 Medi 1898, a chladdwyd ef yn y gladdfa newydd. Priododd, Hydref 1842, Susannah, merch John Hughes, Plas Coch, Llangynhafal; bu ganddynt chwech o ferched a thri mab. Dilynwyd Thomas Gee yng ngofal Y Faner gan ei fab HOWEL GEE; bu ef farw yn 1903.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.