EDWARDS, LEWIS (1809 - 1887), prifathro Coleg y Bala am 50 mlynedd, athro a diwinydd

Enw: Lewis Edwards
Dyddiad geni: 1809
Dyddiad marw: 1887
Priod: Jane Edwards (née Charles)
Plentyn: Thomas Charles Edwards
Rhiant: Margaret Edward
Rhiant: Lewis Edward
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro Coleg y Bala am 50 mlynedd, athro a diwinydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Trebor Lloyd Evans

Ganwyd 27 Hydref 1809 yn Pwllcenawon, Pen-llwyn, sir Aberteifi, mab hynaf Lewis a Margaret Edward. Mynychodd ysgolion ei ardal a gynhelid yng Nglanrafon, Penybanc, a chapel Methodistiaid Calfinaidd Pen-llwyn. Bu dan addysg hefyd yn ysgolion Llanfihangel-genau'r Glyn, ysgol John Evans, Aberystwyth, a Llangeitho. Yn 1827 agorodd ysgol fechan ei hun yn Aberystwyth, ond symudodd yn fuan i fod yn athro ysgol Llangeitho. Ymhen blwyddyn aeth yn athro preifat i deulu John Lloyd, Pentowyn, Meidrym, sir Gaerfyrddin.

Tra oedd yn Llangeitho ymgyflwynodd i waith y weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yng Nghymdeithasfa Llangeitho, Awst 1829, derbyniwyd ef yn bregethwr rheolaidd o'r Corff; ond mawr oedd ei awydd am ragor o addysg, a chafodd ganiatâd Cymdeithasfa Woodstock, Hydref 1830, i fyned i goleg y ‘Seceders’ yn Belfast, eithr i Lundain yr aeth. Bu yno am flwyddyn (yn y coleg a ddaeth wedyn yn Brifysgol Llundain), ond ni chaniatâi amgylchiadau iddo aros yn hwy, ac aeth yn genhadwr cartrefol i Dalacharn, sir Gaerfyrddin. Agorodd ysgol yno hefyd, ond nid oedd diwallu ar ei wanc am ragor o addysg iddo'i hun, a mynnodd ef, ac un o'i ddisgyblion, John Phillips, fyned i Brifysgol Edinburgh, Hydref 1833, at ei arwyr Thomas Chalmers a ‘Christopher North.’ Cafodd ganiatâd i eistedd am radd M.A. mewn tair blynedd yn lle pedair a llwyddodd yn anrhydeddus. Yn 1865 derbyniodd radd D.D., er anrhydedd, Prifysgol Edinburgh.

Priododd, 30 Rhagfyr 1836, Jane Charles, wyres Thomas Charles o'r Bala, a'r flwyddyn ddilynol agorodd ef a'i frawd-yng-nghyfraith, David Charles III, ysgol yn y Bala, a fabwysiadwyd maes o law yn athrofa i bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd. Yma y gwnaeth ef waith mawr ei fywyd gan argyhoeddi'r Methodistiaid Calfinaidd o werth gweinidogaeth ddysgedig, a phregethu pwysigrwydd dysg a diwylliant i'r genedl gyfan. Daeth yn arweinydd amlwg yn ei gyfundeb, gan newid llawer arno i gyfeiriad Presbyteriaeth. Dadleuodd yn frwd dros y drefn henaduriaethol, y fugeiliaeth, y gronfa gynnal, cymanfa gyffredinol, a'r achosion Saesneg. Un arwydd o'i boblogrwydd cyfundebol a chenedlaethol ydoedd iddo dderbyn tysteb o £2,600 yn 1875.

Ystyrid ef yn bregethwr mawr yn ei ddydd, ond credai ef ei hun lawn cymaint yn y Wasg ag yn y pulpud. Mawr ei gred mewn cylchgronau a chyfnodolion, ac yn 1844 golygodd Yr Esboniwr, a chynorthwyodd i gyhoeddi'r Geiniogwerth, 1847. Pwysicach na hynny oedd cychwyn Y Traethodydd, 1845, mewn cydweithrediad â Roger Edwards a Thomas Gee, ar batrwm Blackwood's Magazine, yr Edinburgh Review, a'r Quarterly Review. Ni ellir olrhain twf meddwl Cymru yn y 19eg ganrif heb wneuthur cyfrif o'i lyfrau pwysicaf: Athrawiaeth yr Iawn, Traethodau Llenyddol, Traethodau Duwinyddol, Hanes Duwinyddiaeth, a Person Crist. Fel diwinydd bu'n gyfrwng i waredu diwinyddiaeth Cymru rhag ymrysonau di-fudd cyfnod y dadleuon, drwy agor ffenestri'r meddwl er mwyn i oleuni gwybodaeth o fyd hanes a llên a gwyddoniaeth beri bywyd eto ym mhrenhines y gwyddorau. Y mae ei draethodau ar ‘Ysgolion Ieithyddol i'r Cymry,’ 1849; ‘Cyfnewidwyr hymnau,’ 1850; ‘Goethe,’ 1851; ‘Barddoniaeth y Cymry,’ 1852; a ‘Goronwy Owen,’ 1876, yn ddogfennau pwysig yn natblygiad beirniadaeth lenyddol yng Nghymru. Enillodd ei gyfieithiadau o rai o emynau enwog y Saeson, ‘God moves in a mysterious way’ (Cowper), ‘Abide with me’ (H. F. Lyte), ac ‘Onward Christian Soldiers’ (S. Baring Gould), eu lle yn emynyddiaeth ei genedl.

Bu farw 19 Gorffennaf 1887, a chladdwyd ef ym mynwent Llanycil gerllaw bedd Thomas Charles, Yr enwocaf o'i blant oedd Thomas Charles Edwards, prifathro cyntaf Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/