PHILLIPS, JOHN (1810 - 1867), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a phrifathro cyntaf Coleg Normal Bangor

Enw: John Phillips
Dyddiad geni: 1810
Dyddiad marw: 1867
Priod: Eleanor Phillips (née Parry)
Rhiant: Mary Phillips (née Jones)
Rhiant: David Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a phrifathro cyntaf Coleg Normal Bangor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd 1810 ym Mhontrhydfendigaid, mab hynaf David a Mary Phillips, Tymawr. Yr oedd ei rieni yn dlawd, a threuliodd ran helaeth o'i flynyddoedd cyntaf gyda'i nain, o du ei fam, sef Jane Jones, Pontrhydfendigaid, a oedd yn gyfnither i'r Parch. John Williams, Lledrod (1747 - 1831). Cafodd ei addysg foreol gartref ac yn yr ysgol Sul. Pan tua 14 oed daeth o dan ddylanwad y diwygiad yn ei gymdogaeth, ac aeth am ysbaid i ysgol enwog Ystradmeurig. Yn 1829 aeth i Langeitho i ysgol a oedd y pryd hwnnw o dan ofal Lewis Edwards (Dr. Lewis Edwards, y Bala, wedi hynny), lle y gweithiodd yn egnïol iawn â'i wersi. Yn 1831 penodwyd ef yn genhadwr i Raeadr Gwy, sir Faesyfed, a bu yno yn cadw ysgol ddyddiol ac yn pregethu. Y flwyddyn ganlynol (1832) aeth ar daith bregethu yn Sir Feirionnydd a Sir Gaernarfon, ac enillodd lawer o boblogrwydd fel pregethwr. Yna, ar ôl cyfnod o afiechyd, aeth ef a'i gyfaill a chyd-fyfyriwr, Lewis Edwards, i Brifysgol Edinburgh. Ymadawodd oddi yno ym Mai 1835, a derbyniodd alwad i Dreffynnon i fugeilio eglwys neilltuol Gymraeg y Methodistiaid Calfinaidd. Ordeiniwyd ef yn weinidog yng nghymdeithasfa y Bala, Mehefin 1837. Yn ystod ei weinidogaeth yn Nhreffynnon, priododd ag Eleanor, merch Robert Parry, y Frigan, Llaneugrad, sir Fôn, a symudodd yno yn 1843. Y flwyddyn honno, ar awgrymiad Syr Hugh Owen (1804 - 1881), penodwyd ef yn oruchwyliwr tros Ogledd Cymru i'r Gymdeithas Ysgolion Brutanaidd a Thramor. Yn 1847 symudodd i Fangor i fod yn fugail ar eglwys y Tabernacl, ond rhoddodd ofal yr eglwys hon i fyny'n wirfoddol oherwydd ei orchwylion fel arolygydd Cymdeithas yr Ysgolion Brutanaidd a Thramor. Llafuriodd yn galed i geisio deffro'r wlad i sylweddoli'r angen am adeiladu ysgolion ac i hyfforddi athrawon cymwys i ofalu amdanynt. Trwyddo ef yn bennaf y sefydlwyd y Coleg Normal ym Mangor. Costiodd yr adeilad oddeutu £13,000; ni chafwyd ond £2,000 gan y Llywodraeth, a bu Phillips yn gyfrwng i gasglu y swm o £11,000 i gyfarfod â'r cyfanswm. Pan agorwyd y coleg yn Awst 1863, penodwyd ef yn brifathro arno. Yr oedd Phillips yn bregethwr a darlithydd llwyddiannus dros ben. Traddododd dair darlith bwysig rhwng 1850 a 1852, a chyhoeddwyd hwynt o dan y teitlau canlynol: (1) Dadl Bangor … ar Anghydffur fiaeth neu Eglwys Loegr ac Ymneulltuaeth (Caernarfon, James Rees, 1852); (2) Y Ddarlith ar Babyddiaeth, Eglwys Loegr, ac Ymneulltuaeth (Liverpool, J. Lloyd, 1850); (3) Popery Better than Dissent! What!!! And who says it!!! (Carnarvon, James Rees, 1850). Bu farw 9 Hydref 1867, yn Brynteg, sir Fôn, a'i gladdu yn Llaneugrad. Gadawodd wraig a phump o blant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.