WILLIAMS, JOHN (1747 - 1831), clerigwr Methodistaidd

Enw: John Williams
Dyddiad geni: 1747
Dyddiad marw: 1831
Rhiant: Ann Mathias
Rhiant: William Rees Mathias
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 1747 ym Mhenwern-hir, ger Pontrhydfendigaid, Sir Aberteifi, mab William Rees Mathias ac Ann, ei briod. Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig ac ysgol ramadeg Caerfyrddin. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1770, ac yn offeiriad yn 1771, a gwasnaethodd fel curad Lledrod a Llanwnnws. Daeth o dan ddylanwad clerigwyr Methodistaidd yr ardal - Williams, Llanfair Cludogau, a Daniel Rowland - ac ymunodd â'r Methodistiaid yn Swyddffynnon yn 1781. Tynnodd lawer ato i Ledrod, a phregethai dros y wlad am flynyddoedd. Pregethai'n rymus yn ei gyfnod cyntaf, ond amharwyd ei lais yn ddiweddarach. Cymerth ran yn ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn 1811, a thorrodd ei gyswllt ymarferol â'r Eglwys Sefydledig trwy hynny. Ar ôl marw Rowland a'r prif arweinwyr eraill daeth 'Williams Lledrod' yn ŵr amlwg ymhlith y Methodistiaid, yn enwedig yn Sir Aberteifi. Bu farw 29 Awst 1831, yn ei dŷ ym Mhentre Padarn, a chladdwyd ef yn Llanwnnws.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.