Y mae popeth (e.e. teitl y bartneriaeth - John ac Evan Lloyd) yn awgrymu mai John oedd y brawd hynaf, ond ni lwyddwyd hyd yn hyn i ddarganfod dyddiadau ei eni a'i farw. Rhaid bod y cwmni yn argraffu yn yr Wyddgrug yn 1833, oherwydd yn y flwyddyn honno penodwyd Owen Jones (Meudwy Môn) yn ddarllennydd proflenni yn eu swyddfa, yn arbennig i gywiro proflenni esboniad Beiblaidd James Hughes (1779 - 1844). Yn 1834 dechreuodd y ddau frawd gyhoeddi Y Cynniweirydd, byr ei oes, tan olygyddiaeth Owen Jones. Ym mis Ionawr 1835 dechreuasant gyhoeddi Y Newyddiadur Hanesyddol, eto tan olygyddiaeth Owen Jones, ond wedi i ddau rifyn ymddangos, gadawodd Jones i fyned i wasanaethu cwmni glo. Yn y cyfamser perswadiodd Roger Edwards i ddyfod i'r Wyddgrug i gymryd ei le yn y swyddfa argraffu. Newidiodd Edwards enw'r papur (misol) i Cronicl yr Oes. Tan ei olygyddiaeth ef a'i olynydd, Hugh Pugh (1803 - 1868), yr oedd o natur radicalaidd iawn. Tua diwedd y flwyddyn 1838 ymwahanodd y brodyr. Symudodd John Lloyd i Dreffynnon, a chyhoeddwyd y ddau rifyn olaf o'r Cronicl (Rhagfyr 1838 a Ionawr 1839) yno gan ' Lloyd ac Evans '. P. M. Evans oedd y partner newydd. Yn 1848 aeth John Lloyd o Dreffynnon i Lerpwl, wedi iddo brynu cwmni John Jones (1790 - 1855) a oedd yn gyfrifol am argraffu a chyhoeddi Yr Amserau. Ar un adeg symudodd i Ynys Manaw gan obeithio osgoi'r dreth stampiau ar bapurau newyddion, ond ni lwyddodd yn hynny, a gorfu iddo ddychwelyd i Lerpwl. Gwerthodd Lloyd Yr Amserau yn 1859 i Thomas Gee, Dinbych, a chyfunodd Gee y papur â Baner Cymru. Hyd yma ni wyddys hanes Lloyd ar ôl y cyfnod hwn.
Ganwyd Evan Lloyd yn Yr Wyddgrug. Aeth i Lundain yn 1838 a chymerodd swydd yn y gwasanaeth sifil. Cyrhaeddodd safle uchel yn adran Cyllid Gwladol. Bu farw 2 Mai 1879 yn 81, Carlton Hill, Llundain, yn 79 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.