HUGHES, JAMES ('Iago Trichrug'; 1779 - 1844), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd, ac esboniwr Beiblaidd

Enw: James Hughes
Ffugenw: Iago Trichrug
Dyddiad geni: 1779
Dyddiad marw: 1844
Rhiant: Ellen Hughes
Rhiant: Jenkin Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd, ac esboniwr Beiblaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 3 Gorffennaf 1779, yn y Neuadd-ddu, Ciliau Aeron, Sir Aberteifi, mab Jenkin ac Ellen Hughes. Cafodd ychydig o addysg elfennol yn ei ardal a phrentisiwyd ef yn of. Cafodd dröedigaeth yn 1797 wrth wrando ar y Parch. Dafydd Parry, Llanwrtyd, ac ymaelododd gyda'r Methodistiaid yn Llangeitho. Aeth i Lundain yn 1799 ac ymsefydlodd yn Deptford, lle bu'n flaenllaw gyda chychwyniad achos crefyddol Cymreig. Gwrthgiliodd am dymor, ond ymaelododd drachefn yng nghapel Wilderness Row. Dechreuodd bregethu yn 1810, ac ordeiniwyd ef i'r weinidogaeth yn sasiwn Llangeitho, 1816. Codwyd capel newydd gan ei eglwys yn Jewin Crescent, a galwyd arno yntau i'w bugeilio yn 1823. Cymerth ran yn rhai o ddadleuon diwinyddol y Methodistiaid, sef yn nadl 'Prynu'r Bendithion,' a dadl Rhyddfreiniad y Pabyddion. Bu farw 2 Tachwedd 1844 yn ei gartref yn Rotherhithe, a'i gladdu ym mynwent Bunhill Fields.

Ysgrifennodd lawer yn ei oes i'r cyfnodolion Cymraeg, a daeth i'w adnabod yn y cylchoedd barddol wrth yr enw 'Iago Trichrug.' Ei emynau'n unig a lwyddodd i fyw; arferir nifer ohonynt o hyd yng Nghymru, megis 'Mae enw Crist i bawb o'r saint,' 'Cyduned Seion lân,' 'Agorwyd teml yr Arglwydd yn y nef,' etc. Ei waith llenyddol mawr yw ei Esboniad ar y Beibl, a gyhoeddwyd gan Evan Lloyd, yr argraffydd. Dechreuodd ar y gwaith hwn yn 1829 ond bu farw cyn ei gwpláu. Credid mai Roger Edwards a'i cwplaodd, ond bernir yn awr mai rhyw John Jones o Lerpwl a'i gorffennodd. Bu 'Esboniad Siams Huws,' fel ei gelwid, mewn bri mawr am genedlaethau ymhlith aelodau'r ysgol Sul yng Nghymru, a darllennir ef o hyd gan laweroedd. Cyhoeddwyd ei Gyfrol Goffa, sy'n cynnwys ei farddoniaeth a'i bregethau, etc., yn 1911.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.