EDWARDS, ROGER (1811 - 1886), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, awdur, a golygydd

Enw: Roger Edwards
Dyddiad geni: 1811
Dyddiad marw: 1886
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, awdur, a golygydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Gwilym Thomas Jones

Ganwyd 26 Ionawr 1811 yn y Bala, mab Roger ac Elizabeth Edwards. Dygwyd ef i fyny yn Nolgellau a bu yn ysgol Lewis William yn Llanfachreth cyn mynd i ysgol Tŷ-dan-y-domen, Bala. Wedi i'r ymdrech i wneuthur ohono gynorthwywr mewn siop droi yn fethiant, anfonwyd ef i ysgol Evan Rowland yn Lerpwl, ac wedi hynny i seminari y Parch. John Hughes yn Wrecsam. O ddechrau 1830 hyd c. 1833 bu ef ei hunan yn cadw ysgol yn Nolgellau. Ym mis Rhagfyr 1830 dechreuodd bregethu; ordeiniwyd ef yn 1842. Aeth i'r Wyddgrug yn 1835 yn ddarllenydd proflenni ac i ymgymryd â gwaith golygyddol cyffredinol yn swyddfa John ac Evan Lloyd, argraffwyr; arhosodd yn yr Wyddgrug hyd y bu farw, 9 Gorffennaf 1886. Er iddo wasnaethu eglwys Bethesda, yr Wyddgrug, fel gweinidog er 1835, nid etholwyd mohono'n fugail yn ffurfiol hyd 1878. Priododd, 1841, Eleanor Williams, Dolgellau. Bu chwech o blant o'r briodas. Daeth y mab hynaf, Ellis Edwards, yn brifathro Coleg y Bala; priododd merch, Annie, â Syr Henry Lewis, Bangor.

Yr oedd gyrfa Roger Edwards yn amrywiol; yr oedd yntau yn ŵr amryddawn. Pregethwr ydoedd yn anad dim; serch hynny, er iddo wasnaethu yn wastad mewn sasiynau a chyfarfodydd pregethu eraill, ni chyfrifir mohono ymhlith cewri'r pulpud. Efe, fodd bynnag, oedd gweinydd mwyaf blaenllaw ei enwad; cyfrannodd ef fwy na neb un arall o'i gyfoedion i'r gwaith o ddatblygu a pherffeithio adeilad cymhleth cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Am yn agos i 35 mlynedd (1840-70 a 1871-5) bu'n dal swydd bwysig ysgrifennydd sasiwn Gogledd Cymru, a bu'n llywydd y sasiwn honno ddwywaith (1870 a 1886); bu hefyd yn llywydd y gymanfa gyffredinol, 1872.

Fel golygydd Y Drysorfa (1847-86; hyd 1853 yn gyd-olygydd â John Roberts ) gwnaeth un peth nodedig - trwy gyhoeddi, mewn rhifynnau olynol, ei nofelau ei hunan, gan ddechrau gyda Y Tri Brawd, 1866; llwyddodd i ladd rhagfarn y Methodistiaid yn erbyn ffug-chwedlau ac felly paratodd y ffordd i Daniel Owen; efe a 'ddarganfu' Daniel Owen ac a'i darbwyllodd i ysgrifennu Y Dreflan i'r Drysorfa. Gyda Dr. Lewis Edwards bu'n gyd-sylfaenydd a chyd-olygydd Y Traethodydd; parhaodd yn gyd-olygydd y cylchgrawn hwnnw hyd 1865 (gyda Dr. Owen Thomas am y 10 mlynedd olaf o'r cyfnod). Fel golygydd Cronicl yr Oes, 1835-9, y newyddiadur gwleidyddol cyntaf yng Nghymru, y gwnaeth ei wasanaeth mwyaf. Dangosodd feiddgarwch a gwroldeb trwy fentro coleddu a hyrwyddo egwyddorion Radicalaidd mewn modd mor agored a thrwy hynny beri dicter ym mynwes John Elias a herfeiddio agwedd draddodiadol Methodistiaeth Galfinaidd. Yr oedd ei waith fel arloeswr gyda'r Cronicl yn rhagfynegi gwaith ' Gwilym Hiraethog ' gyda Yr Amserau, a Thomas Gee gyda Y Faner, ac yn gosod sylfaen i'r Rhyddfrydiaeth a ddaeth mor nodweddiadol o Ogledd Cymru yn ddiweddarach.

At yr hyn a ddywedwyd eisoes dylid ychwanegu i Roger Edwards olygu Y Pregethwr, 1841-2; Y Dyddiadur Methodistaidd, 1843-86; a Y Salmydd Cymreig (a gyhoeddwyd, i gychwyn, yn 1840). Yr oedd hefyd yn fardd - cyhoeddwyd argraffiad cyntaf Caneuon Roger Edwards yn 1855 - ac yn emynydd ('Pa le, pa fodd dechreuaf … ', ' Am yr ysgol rad Sabbothol… ', etc.).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.