WILLIAM(S), LEWIS (1774 - 1862), yr hynotaf o athrawon ysgolion cylchynol Charles o'r Bala

Enw: Lewis William (S)
Dyddiad geni: 1774
Dyddiad marw: 1862
Rhiant: Susan Jones
Rhiant: William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: yr hynotaf o athrawon ysgolion cylchynol Charles o'r Bala
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1774 yn Gwastadgoed, Pennal, yn fab i William a Susan Jones; tlodion oedd ei rieni, a bu'r tad farw pan nad oedd Lewis ond pedair oed, gan adael y fam heb fawr gymorth ond y plwyf. Yn 16 oed, ymunodd Lewis â milisia'r sir; bu wedyn yn brentis i grydd yng Nghemaes, Maldwyn, ac yno y trowyd ef at grefydd, yn 18 oed. Galwyd ef yr eilwaith i'r milisia, a bu yn Dover a Penzance. Wedi ei ryddhau, aeth i weithio ar ffermydd. Gan ymdeimlo ag anwybodaeth gwerin yr ardal, cychwynnodd ysgol yn Llanegryn, serch na fedrai ef ei hunan ddarllen - ceisiai help i ddysgu'r wers at ddaliad nesaf ei ysgol. Clywodd Thomas Charles amdano, a mynnodd ei weld; trefnodd iddo gael chwarter blwyddyn o ysgol, ac yna penododd ef yn athro llog (am £3 y flwyddyn, a gododd wedyn i £4) yn ei ysgolion cylchynol. Bu wrthi, yma a thraw yng nghantref Meirionnydd, am 25 mlynedd; ymysg ei ddisgyblion gellir enwi Mary Jones (y ferch a gafodd Feibl gan Charles) a Roger Edwards. Dysgai ddarllen Cymraeg, rhyw gymaint o rifyddeg, ac ambell dro ryw gymaint o Saesneg; anfonai adroddiadau manwl o'i waith. Cymerai ei ran hefyd yng ngwaith yr ysgol Sul, ac yn 1807 dechreuodd gynghori - cydnabuwyd ef yn bregethwr rheolaidd gan ei gyfarfod misol yn 1815. Ar un adeg (1812) yr oedd yng ngwasanaeth rheolwyr ysgolion Madam Bevan, yn cadw eu hysgol yn Llangelynnin, a chafodd gynnig mynd yn un o'u hathrawon parhaol, ond gwrthododd, am na fynnai symud i'r Deheudir. Priododd yn 1819, ac yn 1824 aeth ef a'i wraig i fyw yn y tŷ-capel yn Llanfachreth ger Dolgellau. Bu farw 14 Awst 1862, yn 88 oed. Disgrifir ef fel 'bychan ei gorff, bychan ei enaid, bychan ei ddoniau'; ond yr oedd ei ffyddlondeb a'i weithgarwch yn eithriadol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.