Nid oes sicrwydd am ddyddiad ei eni, ond bedyddiwyd ef 6 Mai 1774, mab Elias a Jane Jones, Brynllwyn (neu Crynllwyn) bach, Abererch, ger Pwllheli. Yr oedd yn frawd i David Elias (1790 - 1856). Cafodd fagwraeth grefyddol gan ei daid, John Elias, a phan ddechreuodd bregethu mabwysiadodd enw ei daid. Derbyniwyd ef yn bregethwr Nadolig 1794 ac yn fuan dechreuodd ei glod fel pregethwr ymledu, a bu ar deithiau pregethu trwy siroedd y Gogledd, Lerpwl, Manchester, a'r De. Bu am gwrs byr o addysg yn ysgol Evan Richardson, Caernarfon. Ar 22 Chwefror 1799 priododd Elizabeth, ferch Richard Broadhead, Tre'r Gof, Cemmaes, Môn, a symudodd i Fôn i fyw, gan ymgartrefu yn Llanfechell ger Cemmaes, lle y cadwai ei briod fasnach. Ordeiniwyd ef yn weinidog yn 1811. Bu iddynt bedwar o blant ond bu dau farw'n ieuanc. Bu ei briod farw 2 Ebrill 1828. Ymhen dwy flynedd priododd weddw Syr John Bulkeley, Presaddfed, Bodedern; ei henw morwynol oedd Ann Williams o Aberffraw, merch o amgylchiadau cyffredin. Symudodd wedi hyn i'r Fron, Llangefni, ac yno y bu farw 8 Mehefin 1841. Claddwyd ef 15 Mehefin yn Llanfaes, ger Beaumaris.
Fel pregethwr, efe oedd y mwyaf poblogaidd a nerthol yn ei ddydd yng Nghymru. Meddai argyhoeddiadau dyfnion o wirioneddau'r efengyl, cydnabyddiaeth drylwyr â'r Ysgrythurau (heb rithyn o amheuaeth am eu hanffaeledigrwydd llythrennol), a gallu rhesymegol cryf i'w defnyddio at bwrpas ei bregethu. Meddai hefyd ddychymyg byw, gallu areithyddol digyffelyb, wyneb cryf, a llais nerthol. Wrth bregethu trethai holl adnoddau ei feddwl a'i gorff, gan wneud defnydd effeithiol o'i freichiau ac yn arbennig ei fys blaenaf; ac oherwydd gwres a thanbeidrwydd ei ysbryd a'i ddifrifwch mawr, câi ddylanwad rhyfeddol ar ei wrandawyr. Oherwydd ei boblogrwydd fel pregethwr a'i ddoniau areithyddol dihafal, daeth yn arweinydd amlwg yng nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, ac am ei fod yn ŵr o ewyllys gref, meddwl annhyblyg, a natur dra-arglwyddiaethol, ni ellid yn hawdd ei wrthwynebu. Coleddai syniadau Uchel-Galfinaidd am Etholedigaeth ac Iawn Crist. Ar un adeg dysgai'r syniad o Iawn Cyd-bwys, sef mai dros yr etholedigion yn unig y bu Crist farw, a gwrthwynebai rai fel Thomas Jones (Dinbych), a John Jones (Talsarn) a goleddai syniadau ehangach.
Bu iddo ran amlwg yn ffurfiad y Gyffes Ffydd (1823) a'r weithred gyfansoddiadol a gorfforai bob eiddo (megis capelau) yn eiddo y cyfundeb, ac ar ei anogaeth ef clymwyd yr hawl hon wrth gred yn llythyren fanwl y Gyffes. Fel gwleidydd hefyd, ceidwadol ydoedd, a gwrthwynebai bob mudiad yng nghyfeiriad rhyddid, e.e. mesur rhyddfreiniad y Pabyddion a'r Mesur Diwygiadol (Reform Bill) 1832. Galwai gefnogwyr y Mesurau hyn yn 'wrthryfelwyr,' tra y galwai rhai o'i wrthwynebwyr yntau 'Y Pab o Fôn.' Hyd ddiwedd ei oes, edrychai ar y syniad o 'iaith y werin yn llais Duw' fel arwydd o anffyddiaeth. Fel diwygiwr cymdeithasol, dygai fawr sêl dros ddirwest a phurdeb, a thrwy ei bregethu nerthol bu'n foddion i roi i lawr lawer o arferion isel a llygredig megis gwylmabsantau, ffeiriau cyflogi ar y Sul, etc. Bu'n gefnogwr eiddgar i Gymdeithas y Beiblau, gan deithio llawer i sefydlu canghennau ohoni, ac i Gymdeithas Genhadol Llundain.
Er ei geidwadaeth, ceir ef yn niwedd ei oes yn galw am well addysg i'r weinidogaeth, a chefnogodd waith Lewis Edwards yn agor Coleg y Bala i'r pwrpas hwn (1837).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.