Un o'r teuluoedd mwyaf pwerus yng Nghymru i gyd; eu pencadlys oedd Baron Hill ger Biwmares. Yn eu llawn dwf yr oedd iddynt diroedd yn chwe chwmwd Môn, a buddiannau lawer yng ngorynys y Creuddyn, tre Conwy, a dau gwmwd Arllechwedd; dalient eiddo pwysig ar draeth Hirael ym Mangor ac yn nhre Caernarfon; drwy briodas y 6ed Viscount ag Emma, merch ac aeres Thomas Rowlands o'r Caerau, cawsant yr ystad honno yng ngogledd-orllewin Môn a thiroedd Plas y Nant ger Betws Garmon a ymestynnai heibio i Ryd-ddu i ochrau'r Wyddfa ac i'w phen. Yng nghwrs y blynyddoedd tyfodd rhai o'r meibion ieuengaf yn bobl bwysig yn eu nerth eu hunain, gan sefydlu is-deuluoedd o gryn ddylanwad. Yn gynnar yn y 16fed ganrif, er enghraifft, daw Bwcleaid Porthamel i sylw, cangen a ddaeth i ddiwedd adfydus pan saethodd Francis Bulkeley ei hun ym Mhlas Llangefni yn 1714, a hefyd Fwcleaid y Gronant a'r Dronwy - cynrychiolid hwy mewn oes ddiweddarach gan Syr John Bulkeley o Bresaddfed, a'i weddw a briododd y Parch. John Elias; ymhellach ymlaen yn yr un ganrif daeth cangen y Brynddu i fri, a gynrychiolid yn hanner cyntaf y 18fed ganrif gan William Bulkeley y dyddiadurwr. Canghennau eraill, ond llai pwysig, oedd Bwcleaid y Cremlyn, Cleifiog, Plas Goronwy, a Thy'n-y-caeau.
Yng ngogledd-ddwyrain sir Gaerlleon yr oedd hen gartref y teulu. Pa bryd yn hollol y bu'r mudo i'r gorllewin ni wyddys, ac nid oes brawf pendant mai ym Miwmares y gwladychasant gyntaf (cyfeiria rhai digwyddiadau at Gonwy). Y mae'n ddiogel dywedyd eu bod ym Môn cyn 1450; ddwy flynedd cyn hynny yr oedd un ohonynt wedi priodi Alice, merch Bartholomew de Bolde, dinesydd o Gonwy a grafangiodd beth wmbredd o dir ar ochr chwith yr afon a ddaeth yn sylfaen sicr i nerth y Bwcleaid yn y rhan yma o Arllechwedd.
Aed ymlaen yn brysur i brynu tyddynnod ym Môn ac Arfon; tyfodd y teulu mewn grym a dylanwad hyd nes i un ohonynt gael ei urddo'n farchog (o gylch 1534), a phenodwyd brawd i hwnnw'n esgob Bangor. Y mwyaf o'r marchogion cynnar, yn ddi-ddadl, oedd y 3ydd - ef oedd y penteulu o 1572 i 1621 - cyfaill i'r frenhines Elisabeth a gelyn diamodol i gynlluniau'r iarll Leicester yng Nghymru. Am genhedlaeth wedi ei farw ef, aeth gogoniant Baron Hill o dan gwmwl; dyma'r pryd y dywedid i'r 2il farchog gael ei wenwyno, y priododd ei weddw gyda'r gwenwynwr tybiedig Syr Thomas Cheadle, yr hir ymgiprys cyfreithiol yn y Sesiwn Fawr, y dedfrydau amhendant, ac amryw farwolaethau eraill ymhlith wyrion y 3ydd Syr Richard a fu farw yn 1621. Effaith hyn oedd dwyn Thomas, un o'i feibion ieuengaf, i ddod i unbennaeth Baron Hill; digwyddiad annisgwyl, gan fod y Thomas hwn, ers blynyddoedd, wedi ei anfon gan ei dad i arolygu tiroedd Bwcle yn Arllechwedd Uchaf (yn wir, meddyliodd yr hen ŵr unwaith agor y drws iddo fyned i Virginia i droi olwynion ffawd yno). Prin yr oedd wedi dod i awdurdod ym Môn pan dorrodd y Rhyfel Cartref allan, ac ef, yn naturiol ddigon, oedd arweinydd pobl y brenin yn yr ynys; mor dda y gwnaeth y gwaith fel y crewyd ef, yn gynnar yn 1644, yn arglwydd Gwyddelig o dan y teitl Viscount Bulkeley of Cashel. Ef oedd prif ysgogydd gwrthryfel ffuantus Môn (yn 1648); ac ef a ddioddefodd fwyaf oddi wrth amodau'r darostwng a'r ddirwy fawr a roddwyd ar war yr ynys; yn ben ar ei anffodion collodd, yn nyddiau cynnar 1650, ei fab hynaf drwy gael ei ladd mewn ysgarmes ddamweiniol ar Draeth y Lafan. Galwai marw'r mab hynaf a thlodi cymharol y tad am i'r ail fab ddod â chyfoeth yn ôl i'r teulu; priododd ferch un o aldramoniaid Llundain, gyda gwaddol o £7,000, nith i William Harvey, y meddyg enwog a ddaeth o hyd i ddeddfau sylfaenol cylchrediad y gwaed. Gwr o bersonoliaeth rymus a thra galluog oedd y 4ydd Viscount (bu farw 1724), ond llwyddodd i gasglu'r fath fwdwl o swyddi i'w ddwylo ei hun fel y penderfynodd sgwieriaid y gorllewin wneud a allent i dorri ei grib; dewisasant Owen Meyrick o Fodorgan yn arweinydd arnynt; ymladdwyd pedair o lecsiynau'r sir, ond y Viscount a enillodd dair ohonynt (1708, 1710, 1722), a Meyrick un (1715).
Torïaid uchel rhonc oedd y Bwcleaid, yn enwedig y 4ydd Viscount, y 5ed (bu farw 1739), a'r 6ed (bu farw 1752), fel y drwgdybiwyd hwy o bleidio'r Ymhonwyr, a dyfnhawyd y ddrwgdybiaeth honno drwy ganfod, yn rhestr dodrefn y teulu a wnaed yn 1822, gyfeiriad at gerfluniau bychain o'r ddau Ymhonnwr, a thrwy ddod o hyd i barsel o lythyrau a ysgrifennwyd o Lundain, yn 1715, at bennaeth Baron Hill, a lliw pur Iagoaidd arnynt. Yn 1784 codwyd y 7fed Viscount, a'r diwethaf, i fod yn arglwydd ym Mhrydain Fawr; bu farw'n ddi-blant yn 1822. Gyda'i farw ef bu farw'r arglwyddiaeth, a daeth llechres hir Bwcleaid Baron Hill, a ddisgynnodd o dad i fab am bedair canrif, i ben. Aer yr arglwydd olaf oedd mab ei hanner brawd, Syr Robert Williams; cafodd y gwr ieuanc ganiatâd arbennig y brenin (yn 1827) i alw ei hun Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley; ef oedd y boneddwr mawrfrydig a fu farw yn 1875.
Medrir cael syniad go dda o ddylanwad y Bwcleaid ym Môn drwy gofio iddynt - hwy, neu rai yn eu cyfrinach - gynrychioli'r sir a'r bwrdeisdrefi yn y Senedd ymron yn ddi-fwlch o ganol y 16eg ganrif hyd ganol y 19eg. Gymaint oedd eu dylanwad yn Sir Gaernarfon hithau fel pan benderfynodd y barwn Penrhyn yn 1796, gyda holl bleidgarwch yr esgob Warren y tu ol iddo, herio ail-etholiad Syr Robert Williams dros y sir, iddo gael curfa dost (690: 370). A phurion cofio i Syr Robert gael ei ethol dros sir Gaernarfon chwe gwaith ar ôl lecsiwn 1796.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.