O Frynddu, Môn. Ganwyd 4 Tachwedd 1691. Dau ddyddiadur sydd ar gael, un yn ymestyn o 30 Mawrth 1734 i 8 Mehefin 1743; y llall o 1 Awst 1747 i 28 Medi 1760. Y maent yn fwnglawdd o wybodaeth am Fôn, yn enwedig cwmwd Talybolion : materion teuluol, arferion cymdeithasol, trefniadau eglwysig. Llawn o ragfarnau rhyfedd hefyd; beirniadaeth lem ar bregethu rheithor Llanfechell er bod hwnnw'n dipyn o lenor, yn perthyn yn weddol agos i Bulkeley, ac yn sgweier yn ei hawl ei hun; geiriau gogan am Walpole a'r Whigiaid, a geiriau lawn cyn gased am yr Ymhonnwr Iagoaidd.
Dyn piwus, direidus, llawn pryfoc oedd Bulkeley : annhebyg fod iddo ddim cydymdeimlad a'r Methodistiaid, a mwy annhebyg iddo ysgrifennu pamffled i amddiffyn eu golygiadau; ond gellir meddwl amdano yn cael llawer o hwyl am ben ysweiniaid a chlerigwyr drwy gogio bod yn Fethodus. Rhoddodd loches i William Prichard yr Annibynnwr ar ran o'i ystad, nid am ei fod yn credu yn yr egwyddorion y safai Prichard drostynt, ond fel moddion pryfoc yn erbyn y Viscount o Baron Hill a Troughton o Fodlew a oedd wedi troi Prichard allan o'u ffermydd hwy.
Nid oedd sgweier ym Môn yn fwy Cymro nag ef; profedigaeth fawr ei fywyd oedd gweled ei ferch Mary yn priodi Philistiad o Sais o'r enw Fortunatus Wright, bragwr o Lerpwl, a morheliwr rhamantus; llawn yw'r dyddiaduron o'r helbulon yr aeth iddynt, a'r pryder dwys a achosodd. Cangen Brynddu oedd y fwyaf annibynnol ei hysbryd a gododd o foncyff Baron Hill. Bwcle oedd William Bulkeley, serch hynny; pan ddaeth angladd y 5ed Viscount ym Mawrth 1739, ef oedd gyda'r cyntaf i gael ei wahodd yno, a cherddai yn bur agos i'r elor; nid mor agos nad oedd ganddo amryw o eiriau dychan am y gweithrediadau. Claddwyd 28 Hydref 1760.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.