Ganwyd yn 1702 yn Brynrhydd, plwyf Llanarmon, Sir Gaernarfon, yn fab i Richard Morris a Margaret Prichard; bedyddiwyd yn Llanarmon 13 Chwefror 1701/2. Er iddo gael addysg dda a thyfu'n ŵr diwylliedig gwnaeth gartref fel ffermwr yng Nglasfryn Fawr ym mhlwyf Llangybi. Aeth i'r llan un prynhawn Sul, a hefyd i'r gyfeddach arferol ar ôl y gwasanaeth, ond effaith yr hir aros a'r gormod yfed fu iddo fyned yn grwydryn ffôl yn lle unioni am ei gartref. Pan ddaeth at ffenestr olaf Caertyddyn gwrandawodd ar Francis Evans yn darllen y Beibl ac yn gweddïo dros afradloniaid tebyg iddo ef. Bu hyn yn ddigon i'w sobri a'i yrru adref yn ddyn newydd. Er iddo am amser barhau i fyned i'r llan, cawn ei hanes yn graddol ymgysylltu â'r Anghydffurfwyr ym Mhwllheli, ac nid oedd hynny'n rhyfedd yn y byd pan gofiwn ddarfod i'r canghellor John Owen beri ei wysio droeon i lys yr esgob ym Mangor am iddo feiddio, wrth ddyfod allan o'r eglwys, feirniadu pregeth hwnnw fel un anysgrythurol. Ym Mhwllheli, wedi peth trafod ar gyflwr moesol ei ardal â'r Parch. Lewis Rees, daeth i wybod am Jenkin Morgan, athro a phregethwr a oedd ar y pryd yn Nantydeiliau ger Llanuwchllyn. Francis Evans, Caertyddyn, a gafodd y clod o fyned i'w gyrchu, ac wedi i'r offeiriad wrthod rhoddi swcwr i'r ysgol cafodd honno gartref yng nghegin Glasfryn Fawr. Taenwyd pob rhyw fath o chwedlau celwyddog a maleisus am yr ysgol, ac yr oedd y ffaith fod yr athro yn bregethwr yn 'gyrru troell naturiaeth yn fflam' i'r gelynion. Yn 1742 dacw William Prichard a'i deulu yn alltudion o Lasfryn Fawr ac yn wynebu am Blas Penmynydd, Môn, ond annynol erlidgar fu'r Monwyson tuag at denant newydd y lle enwog hwnnw. Pan lwyddwyd i gael gan berchennog y ffarm ei ymlid o'r gymdogaeth ac iddo gael cartref yn Bodlew ger Llanddaniel ni chafodd yno namyn ei erlid, a'r cwbl oherwydd ei grefydd. Gweithredodd William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, pan ddeallodd mai oblegid ei fod yn Anghydffurfiwr y bwrid ef allan o'r ffermydd, yn deilwng o'i fonedd eangfrydig trwy roddi iddo denantiaeth Clwchdernog. Aeth yno ar galan gaeaf 1752 a dedwydd fu yn ei weithredoedd hyd y bu farw ar 9 Mawrth 1773. Erys enw'r fath ŵr yn glodfawr, un a fu yn anad neb yn arloesydd Ymneilltuwyr ym Môn ac a safodd yn dŵr iddi hyd ddiwedd ei oes. Ceir coffa amdano mewn ysgrifon yng nghapel Rhosymeirch. Mab iddo oedd John William Prichard.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Fis Tachwedd 1749 (nid 1752) yr aeth i Glwchdernog (dyddlyfrau William Bulkeley, yng Ngholeg y Gogledd, dan 22 Chwefror 1748/9). Gweler ymhellach J. E. Griffith Pedigrees 9; Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd Mawrth 1953, 7-9.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.