Ganwyd yn Llanidloes yn 1698 yn fab i Pierce Owen; yn ôl Foster (Alumni Oxonienses), ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, fel ' John Owens,' 21 Mawrth 1718/9, yn 21 oed, ond annhebyg i'r eithaf yw cynnig Foster iddo raddio yn 1722 dan yr enw ' Joseph Owen.' I'r gwrthwyneb, yng nghofnodion A. Ivor Pryce (The Diocese of Bangor during Three Centuries), ni roddir gradd o gwbl iddo yn 1723; eithr erbyn 1742 y mae'n LL.B., ac erbyn ei farw'n LL.D. Nid annhebyg felly mai ef oedd y gŵr a enwir gan Venn (Alumni Cantabrigienses), heb unrhyw gofnod o'i dras na'i oedran, a 'ymgorfforodd' yn Trinity Hall, Caergrawnt, yn 1741, fel ' fellow-commoner,' a ymaelododd yn y brifysgol yn yr un flwyddyn, ac a raddiodd yn LL.B. yn 1742 ac yn LL.D. yn 1751 - ni byddai'n rhaid i 'ymgorfforwr' o Rydychen neu Ddulyn breswylio yng Nghaergrawnt, oblegid cyfrifid iddo'r tymhorau yr oedd wedi eu bwrw yn ei brifysgol wreiddiol. Sut bynnag, penodwyd John Owen yn ficer Llannor a Dyneio (h.y. Pwllheli), 1 Mehefin 1723. Ym Mehefin 1742 penodwyd ef yn ganon ym Mangor, ac ar ddiwedd Ionawr 1743 yn ganghellor; rhoddwyd iddo hefyd (ddiwedd Rhagfyr 1745) reithoraeth Llantrisant ym Môn. Bu farw rywbryd cyn 8 Tachwedd 1755, y dydd y penodwyd rheithor newydd yn Llantrisant 'yn herwydd marw J. Owen'; claddwyd yn Llanidloes.
Fel gelyn anghymodlon i Fethodistiaeth y cofir John Owen. Y mae llythyr chwerw ganddo yn Account of the Welsh Charity Schools John Evans, Eglwys Cymyn, a sonnir yno hefyd am lythyr a anfonodd ef a'i gyfeillion at Griffith Jones ei hunan, yn cwyno'n erwin ar 'fethodisteiddiwch' yr ysgolion cylchynol. Gwrthododd yn chwyrn (1741) gais Howel Harris i sefydlu ysgol yn eglwys Llannor; a phan roddwyd lloches i'r ysgol gan William Prichard, manteisiodd ar eiriau a ddywedwyd gan hwnnw ym mynwent yr eglwys i'w erlyn (E. B. Jones, yn Llawlyfr Undeb yr Annibynwyr, 1923, 46-7) o flaen y llys esgobol ym Mangor - amddiffynnwyd Prichard gan y cyfreithiwr John Williams o'r Tŷ Fry (Môn); taflwyd yr achos i'r Sesiwn Fawr, ac ymhen tair blynedd collodd John Owen y dydd - ond bu'n rhaid i William Prichard ymado â'r Glasfryn. Ni adawai John Owen lonydd i'r Methodistiaid; sonia'r llyfrau am fwy nag un enghraifft o'i waith yn eu dwyn o flaen y llys am dorri ' Conventicle Act ' 1664, ac y mae yn llyfrgell Coleg Bangor (Gwyneddon MS. 17B) gopïau o achwynion ganddo i'r llys, yn erbyn Methodistiaid, ynghyd â'r ddedfryd o esgymundod a ddilynodd. Y mae'n amlwg ei fod hefyd yn cadw ei olwg ar ei henfro tua Llanidloes, ac yn helpu clerigwyr yno i weithredu yn yr un modd - gweler Bennett, Meth. Trefaldwyn Uchaf, 41-2 a 64-5. Nid yw'n rhyfedd i Robert Jones o Roslan, gan gydnabod er hynny ei allu, a'i huodledd fel pregethwr, roi lle mor helaeth iddo yn Drych yr Amseroedd (61-2, 77-8) - diamau fod gofyn cymryd rhyw gymaint o halen gydag adroddiad yr hen groniclydd, yn enwedig o'r cosbedigaethau a ddug 'rhagluniaeth' am ben y canghellor. Eto, cofier barn ei gyd-glerigwr John Lewis o Blas Llanfihangel-tre'r-beirdd am John Owen, pan glybu ei fod i gael ei benodi'n ganghellor : ' famous for a troublesome litigious temper, and of an obscure mean family; … strange that the bishop was so imposed upon in appointing him ' (Henllys MS. 630 yn llyfrgell Coleg y Gogledd).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.