JONES, ROBERT (1745 - 1829), Rhoslan, athro, pregethwr, ac awdur

Enw: Robert Jones
Dyddiad geni: 1745
Dyddiad marw: 1829
Priod: Magdalen Jones (née Prichard)
Plentyn: Hannah Owen (née Jones)
Plentyn: Margaret Jones (née Jones)
Plentyn: Samuel Jones
Plentyn: Daniel Jones
Rhiant: Margaret Williams
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro, pregethwr, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd 13 Ionawr 1745, mab John a Margaret Williams o'r Suntur, Llanystumdwy. Dysgwyd darllen iddo gan ei fam, a bu yn un o ysgolion cylchynol Griffith Jones a gedwid gan Thomas Gough. Llwyddodd Robert Jones i berswadio Madam Bevan i ailagor yr ysgolion cylchynnol yng Ngwynedd, a bu ef yn athro yn Llangybi (1766), Beddgelert (1767), Capel Curig (1768), Rhuddlan (1769), Brynsiencyn (1770), Llangybi (1772-3), a Brynengan (1778). Dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1768, a daeth yn amlwg yn eu cynadleddau. Crwydrodd i bregethu trwy'r Gogledd a'r De ac aeth cyn belled â Llundain yn 1779.

Priododd Magdalen Prichard yn Llanfihangel-y-Pennant ar 2 Tachwedd 1772; yr oedd ei wraig yn ferch i Richard Gruffydd, un o weision William Prichard, Clwchdernog, ac yn ŵyres i Francis Evans, Cae'r Tyddyn. Cymerasant dyddyn Tir Bach, Rhoslan am saith mlynedd o brydles, a gwnaeth Robert Jones adeilad digon mawr arno fel y gellid defnyddio rhan ohono fel capel, a chasglai cymdeithas gref o Fethodistiaid yno. Pan ddaeth y brydles i ben symudasant i fyw i Dŷ Bwlcyn yn ardal y Dinas, Lleyn. Ceir hanes am bedwar o blant iddynt; aeth DANIEL yn fasnachwr dillad i Lerpwl, pregethai gyda'r Methodistiaid, a mab iddo oedd y Parch. John Jones, Wrecsam; priododd Mary gyda Richard Jones, Tŷ Bwlcyn, a merch iddynt oedd Magdalen Jones, Waun Fawr, awdur Rhodd Nain; priododd Hannah gyda Richard Owen, Meillionen, plwyf Ceidio, ac erys eu hiliogaeth hwy yn Llŷn ac America; aeth SAMUEL i Lerpwl ac yr oedd yn un o flaenoriaid mwyaf blaenllaw y Methodistiaid yno am gyfnod maith.

Y llyfrau a gyhoeddodd Robert Jones oedd Lleferydd yr Asyn, 1770, i amddiffyn y Methodistiaid rhag eu herlidwyr; Drych i'r Anllythrennog, 1778, at ddysgu sillebu Gymraeg; Grawnsypiau Canaan, 1795, yn cynnwys casgliad o emynau - hwn oedd y llyfr emynau cyntaf ar bulpudau'r Methodistiaid Calfinaidd yn y Gogledd; ac, yn olaf, Drych yr Amseroedd , 1820, i ddisgrifio'r diwygiad Methodistaidd a'i effeithiau yng Nghymru. Y llyfr olaf hwn yw ei brif waith. Ceir ynddo iaith rymus, disgrifiadau byw, a llawer o angerdd y diwygiad. Bu gan Robert Jones ran mewn cadw ' Charles o'r Bala ' rhag gadael Cymru yn 1784, a hefyd mewn perswadio'r un gŵr i gydymffurfio â'r penderfyniad i ordeinio pregethwyr y Methodistiaid yn weinidogion yn 1811.

Bu farw 18 Ebrill 1829 a chladdwyd ef ym mynwent Llaniestyn wrth y mur dwyrain.

Yr oedd Mordecai Jones yn fab i'w nai.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.