JONES, GRIFFITH (1683 - 1761), diwygiwr crefyddol ac addysgol

Enw: Griffith Jones
Dyddiad geni: 1683
Dyddiad marw: 1761
Priod: Margaret Jones (née Philipps)
Rhiant: Elinor John
Rhiant: John ap Gruffydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwygiwr crefyddol ac addysgol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Mary Clement

Ganwyd 1683 yn Pant-yr-efel, Penboyr, sir Gaerfyrddin, a'i fedyddio ar 1 Mai 1684, yn fab John ap Gruffydd ac Elinor John. Bu yn ysgol y pentref ac wedyn yn bugeilio defaid. Penderfynodd fynd yn glerigwr ac aeth i ysgol ramadeg Caerfyrddin. Tua 1707 gofynnodd am gael ei ordeinio; yn ôl John Evans, Eglwys Cymyn, fe'i gwrthodwyd fwy nag unwaith, eithr trwy ddylanwad Evan Evans, ficer Clydai, sir Benfro, cafodd o'r diwedd ei ordeinio'n ddiacon, 19 Medi 1708, gan George Bull, esgob Tyddewi, ac yn offeiriad ar y 25ain o'r un mis. Bu'n gurad yn Penbryn, sir Aberteifi, 1708, Penrieth, sir Benfro, 1709; a Lacharn, sir Gaerfyrddin, 1709; yn Lacharn yr oedd hefyd yn athro ysgol y S.P.C.K. a sefydlasid gan Syr John Philipps a John Pember. Ar 3 Gorffennaf 1711 dewiswyd ef yn rheithor Llandeilo-Abercywyn, sir Gaerfyrddin. Pan oedd yn Lacharn a Llandeilo-Abercywyn daeth i gael ei adnabod fel pregethwr mawr; tyrrai miloedd yno o bob cwr yn Ne Cymru i'w glywed. Ar 8 Mai 1714 achwynodd Adam Ottley, esgob Tyddewi, ei fod yn ‘going about preaching on week days in Churches, Churchyards, and sometimes on the mountains to hundreds of auditors.’

Daeth Griffith Jones yn aelod gohebol o'r S.P.C.K., 18 Mehefin 1713; ar 13 Gorffennaf yr un flwyddyn bu o flaen pwyllgor y S.P.C.K. yn Llundain fel ceisiwr swydd ysgolfeistr a chenhadwr yn Tranquebar, India, o dan yr East India Mission; yn ddiweddarach, fodd bynnag, gwrthododd y swydd. Rhwng 1714 a 1716 bu raid iddo ymddangos droeon yn llys yr esgob yng Nghaerfyrddin gerbron yr esgob Ottley, Edward Jones y canghellor, a David Havard, dirprwy yr esgob, am iddo anwybyddu cyfreithiau ac arferiadau yr Eglwys. Rhoes ei noddwr, Syr John Philipps, reithoraeth Llanddowror iddo ar 27 Gorffennaf 1716. Yma cafodd dyletswyddau ynglŷn â gwaith y S.P.C.K. lawer o sylw ganddo, a chyda Moses Williams ac Erasmus Saunders bu'n cynorthwyo'r ymdrechion i gael argraffiadau newydd o'r Beibl Cymraeg yn 1717 a 1727. O 30 Mehefin hyd 19 Awst 1718 bu'n teithio trwy Gymru, Lloegr, a Sgotland gyda John Philipps, gan bregethu mewn llawer lle. Ar 11 Chwefror 1719/20 priododd Margaret, chwaer ei noddwr. Yn 1722 gwysiwyd Griffith Jones a 44 o glerigwyr eraill yn archddiaconiaeth Caerfyrddin (enwir hwynt yn y petisiwn) i ymddangos yn llys yr Exchequer am nad oeddent yn talu taliadau a oedd yn ddyledus i'r archddiacon, Edward Tenison; nid ydyw'r dyfarniad yn yr achos ar gael yn y Public Record Office.

Ysgrifennodd Griffith Jones at y S.P.C.K. ar 22 Medi 1731 yn awgrymu sefydlu ‘Welch School’ yn Llanddowror. Y flwyddyn honno peidiasai nifer ysgolion y S.P.C.K. yng Nghymru â chynyddu. O'r 96 o ysgolion a sefydlasid, dechreuwyd 68 yn ystod y cyfnod 1699-1715 a 28 yn y cyfnod 1716-27. Ni sefydlwyd ysgol gan y S.P.C.K. yn sir Gaerfyrddin wedi'r flwyddyn 1713 ac yr oedd rhai ysgolion wedi diflannu cyn 1713. Ni wyddys i sicrwydd pa bryd y cychwynnwyd yr ysgolion cylchynol Cymreig; yn 1737, fodd bynnag, yr oedd 37 o ysgolion gyda 2,400 o ysgolheigion. Cynhelid yr ysgolion am gyfnod o dri mis yn yr un man, ym misoedd y gaeaf, fel rheol, pan oedd llai o waith i'w wneud yn y ffermydd. Addysgid y plant i ddarllen y Beibl Cymraeg a dysgu allan Gatecism yr Eglwys. Cynhelid ysgolion gyda'r nos er mwyn y rhai na allai ddyfod yn ystod oriau gwaith. Addysgid yr athrawon gan Griffith Jones yn Llanddowror. Bu'r mudiad yn llwyddiant mawr o'r cychwyn; pan fu'r sylfaenydd f. yn 1761 mynegwyd yn Welch Piety, yr adroddiad blynyddol, i 3,495 o ysgolion gael eu sefydlu ac i dros 158,000 o ddisgyblion gael addysg ynddynt mewn cyfnod o chwarter canrif. Heblaw trefnu'r ysgolion bu Griffith Jones yn brysur yn ysgrifennu tua 30 o lyfrau ysgol, pamffledi, a thraethodau diwinyddol.

Ar ôl marw Griffith Jones yn 1761 bu Madam Bridget Bevan yn trefnu i gario'r gwaith gyda'r ysgolion ymlaen a gwnaethpwyd hynny yn llwyddiannus.

Nid oedd ‘Ysgolion Gruffydd Jones’ yn gymeradwy gan amryw o wŷr pennaf yr Eglwys; yn ystod 1745-52 cyhoeddwyd pum pamffled yn ymosod ar yr ysgolion a'u sylfaenydd — yn arbennig felly oblegid ei gysylltiad â Whitefield ac arweinwyr Methodistaidd eraill. Ysgrifennwyd y rhain gan John Evans, Eglwys Cymyn, ac eraill a oedd yn gysylltiol ag ef, ar awgrym Edmund Gibson, esgob Llundain (meddai ef). Cyn pen tair blynedd wedi marw Griffith Jones yr oedd yr hanes am yr ysgolion wedi cyrraedd cyn belled â Rwsia, ac yn 1764 gwnaethpwyd adroddiad arnynt gan gomisiynwr dros Catherine II, ymerodres y wlad honno.

Bu Margaret, gwraig Griffith Jones, f. ar 5 Ionawr 1755 — dywedwyd amdani ei bod yn wraig dduwiol ac elusengar; bu yntau f. 8 Ebrill 1761, yn 77 oed, yn nhŷ Madam Bevan yn Llacharn, lle y bu'n byw ar ôl marw ei wraig. Claddwyd Griffith Jones a'i wraig yn eglwys Llanddowror.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/