PHILIPPS, Syr JOHN (1666? - 1737), diwygiwr crefyddol, addysgol, a moesol

Enw: John Philipps
Dyddiad geni: 1666?
Dyddiad marw: 1737
Priod: Mary Philipps (née Smith)
Plentyn: Richard Philipps
Plentyn: John Philipps
Plentyn: Erasmus Philipps
Rhiant: Catherine Philipps (née Darcy)
Rhiant: Erasmus Philipps
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwygiwr crefyddol, addysgol, a moesol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Mary Clement

mab Syr Erasmus Philipps a'i ail wraig Catherine Darcy, (bu hi farw 15 Tachwedd 1713) merch Edward Darcy o'i wraig Elisabeth, ferch Philip Stanhope, iarll 1af Chesterfield. Ni wyddys ymha flwyddyn y ganwyd ef. Yn ôl yr arysgrif ar ei gofadail yn eglwys Fair, Hwlffordd, bu farw ‘January 5, 1736/7 in the 77th year of his age.’ Awgryma hyn 1660, eithr ni all hynny fod yn gywir gan mai ar 1 Medi 1660 y priododd ei dad ei ail wraig ac mai ail blentyn yr ail briodas oedd John Philipps. Aeth i Ysgol Westminster fel ‘Ysgolor y Brenin’ yn 1679; gan mai tua 13 a fyddai oed bechgyn yn cychwyn yn yr ysgol hon fel rheol, ymddengys ei eni c. 1666. Yr oedd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, o 1682 hyd 1684, ac fe'i derbyniwyd i Lincoln's Inn ar 21 Ionawr 1683/4. Ni cheir ei enw yng nghofrestrau yr un o'r sefydliadau uchod nac yng nghofrestr Ty'r Cyffredin. Gadawodd Gaergrawnt heb raddio ac ni ddaeth yn fargyfreithiwr. Y mae llythyr ato gan ei dad pan oedd yng Nghaergrawnt yn awgrymu ei fod yn wastraffus ei dreuliau ac yn ei rybuddio i beidio a chael rhagor o ‘foolish frolics’ (N.L.W. Picton Castle MSS., 30 Ebrill 1683).

Ychydig a wyddys am ei yrfa hyd 1695. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno etholwyd ef yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Penfro; daliodd y sedd hyd 1702. Ailetholwyd ef i'r Senedd, a bu'n aelod dros Hwlffordd hyd 1722. Bu ei dad farw 18 Ionawr 1696/7. Ar 12 Rhagfyr priododd y mab, a oedd bellach yn Syr John Philipps, y 4ydd barwnig, â Mary, merch ac aeres Anthony Smith, marsiandwr East India cyfoethog; bu Lady Philipps farw 18 Tachwedd 1722, gan adael tri mab a thair merch. O 1695 hyd 1737 yr oedd Syr John yn ffigur blaenllaw yn holl fudiadau crefyddol a dyngarol ei ddydd — y ‘Society for the Reformation of Manners,’ y S.P.C.K., y S.P.G., yr ‘East India Mission,’ a'r ‘Holy Club.’ Yr oedd mewn cyswllt cyson â diwygwyr crefyddol megis A. H. Francke, A. W. Boehme, J. F. Osterwald, John a Charles Wesley, a George Whitefield, gwr y bu Syr John yn ei gynnal yn Rhydychen am gyfnod. Etholwyd ef yn aelod o'r S.P.C.K. ymhen mis o'r amser y ffurfiwyd y gymdeithas honno, ac efe oedd ei haelod mwyaf dylanwadol hyd adeg ei farw. Gwnaeth siroedd Penfro a Chaerfyrddin yn ganolfannau pennaf gwaith y gymdeithas yng Nghymru, sefydlodd 22 o ysgolion yn Sir Benfro ac amryw yn y sir arall, ac efe a fu'n gyfrifol gan mwyaf am lwyddiant ymdrechion cynharaf ei frawd-yng-nghyfraith, Griffith Jones, Llanddowror.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/