PHILIPPS (TEULU), Pictwn, Sir Benfro

Rhywbryd cyn 17 Hydref 1491 priododd Syr THOMAS PHILIPPS, Cilsant, Sir Gaerfyrddin, â Joan Dwnn, merch ac aeres Harry Dwnn (mab Owen Dwnn, Mwdlwsgwm, Cydweli, a Catherine Wogan, ail ferch John Wogan a gweddw Syr Henry Wogan) a Margaret, merch a chydaeres Syr Henry Wogan, Cas-gwŷs. Honnai teulu Cilsant eu bod yn disgyn o Gadifor Fawr, Blaen Cych, a Syr Aaron ap Rhys, y croesgadwr. Yr oedd Syr Thomas Philipps yn fab i Phillip Philipps ac yn ŵyr i Meredith Philipps, Cilsant. Bu'n ysgwïer yng ngwasanaeth Harri VII, ac apwyntiwyd ef yn un o stiwardiaid ac yn rhysyfwr ('receiver') arglwyddiaethau Llansteffan ac Ystlwyf, 16 Mai 1509. Ar 7 Medi 1509 apwyntiwyd ef yn grwner ac ysiedwr ('escheater') Sir Benfro ac arglwyddiaeth Hwlffordd. Yn rhyfel Ffrengig 1513 yr oedd yn gapten ar gant o wŷr ac urddwyd ef yn farchog y flwyddyn honno. Apwyntiwyd ef yn siryf Sir Benfro a beili llys ('bailiff in eyre') arglwyddiaeth Hwlffordd 16 Hydref 1516. Yr oedd yn noddwr i Lewis Glyn Cothi. Bu farw cyn 8 Rhagfyr 1520 pan ddilynwyd ef gan ei fab JOHN PHILIPPS, gwas ystafell i'r brenin, fel stiward Llansteffan ac Ystlwyf a chrwner ac ysietwr Sir Benfro ac arglwyddiaeth Hwlffordd. Priododd ef ag Elisabeth ferch Syr Wiliam Gruffudd o'r Penrhyn. Adeg ei apwyntio 10 Ebrill 1532 yn un o stiwardiaid a rhysyfwyr maenor Rhys ap Gruffudd ar ôl ei ddifreinio, yr oedd yn stiward o siambr y brenin. Yr oedd yn siryf Sir Benfro yn 1542. Ymddiddorai ei fab, Richard (ganwyd 1535), mewn llenyddiaeth Gymraeg (gweler Peniarth MS 155 ). Bu farw ddydd Iau ar ôl gŵyl Feugan, 1551 (gweler Peniarth MS 176 (397); W. Wales Hist. Records, vii, 161-4), a dilynwyd ef gan ei fab WILLIAM PHILIPPS, priod Janet Perrot, chwaer Syr John Perrot. Priododd ei ferched ag Alban Stepney a George Owen, Henllys. Cynrychiolodd sir Benfro yn y Senedd yn 1559 a 1572, ac ef oedd arweinydd yr wrthblaid wleidyddol i blaid Syr John Perrot yn Sir Benfro. Bu farw 14 Mawrth 1573, ac etifeddwyd ei stadau yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin gan ei frawd MORGAN PHILIPPS (bu farw c. 1585). Ar ôl diddymu ei briodas â gwraig William Scourfield, priododd hwn ag Elisabeth ferch Richard Fletcher, cofrestrydd Bangor. Bu'n siryf Sir Benfro yn 1576. Gwnaed ei fab, Syr JOHN PHILIPPS, yn farwnig 8 Tachwedd 1621, a phriododd (1) ag Anne, ferch Syr John Perrot; (2) a Margaret, ferch Syr Thomas Dennys o Bicton, Dyfnaint. Yr oedd ei holl blant o'r briodas gyntaf. Bu'n aelod seneddol dros sir Benfro yn 1597 a 1601, a hyrwyddodd y mesur er cynnwys arglwyddiaeth Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1942, 13). Ef oedd siryf Sir Benfro yn 1595 a 1611, a siryf Sir Gaerfyrddin yn 1623. Noddodd waith llenyddol Robert Holland, a chyflwynodd yntau ei lyfr cyntaf i'w wraig, Anne Philipps. Yr oedd yn gapten milwyr Daugleddau ('Dungleddy'). Bu farw yng Nglog-y-frân, ei gartref yn Sir Gaerfyrddin, 27 Mawrth 1629, a chladdwyd ef yn Slebets. Priododd ei fab, Syr RICHARD PHILIPPS, (1) ag Elisabeth, merch Erasmus Dryden, barwnig, taid y bardd, John Dryden; (2) â Catherine ferch Daniel Oxenbridge, M.D. Ymladdodd o blaid y Senedd yn y Rhyfel Cartrefol, ac amddiffynnodd gastell Pictwn. Cymerwyd y castell gan y Brenhinwyr, 30 Ebrill 1644, a charcharwyd ei blant.

Y 3ydd barwnig ydoedd ei fab, Syr ERASMUS PHILIPPS, a briododd (1) â'r arglwyddes Cicely Finch, ferch Thomas, iarll Winchilsea, (2) â Catherine, merch a chydaeres Edward D'Arcy, Newhall, swydd Derby; priododd eu merch Margaret â Griffith Jones, Llanddowror a phriododd merch arall iddynt, Elisabeth ' â John Shorter, marsiandwr o Lundain. Catherine ferch Elisabeth a John Shorter ydoedd gwraig Syr Robert Walpole. Bu ei fab, EDWARD (bu farw 1694), yn siryf Sir Benfro yn 1691. Dilynodd Syr Erasmus gamre gwleidyddol ei dad a bu'n aelod seneddol dros sir Benfro 1654-5, a thrachefn Ionawr-Ebrill 1659. Bu'n siryf Sir Benfro yn 1655, ac apwyntiwyd ef yn gynullydd y milisia yn Ne Cymru 14 Mawrth 1654. Bu farw 18 Ionawr 1697 a dilynwyd ef gan Syr John Philipps, y 4ydd barwnig.

Y 5ed barwnig ydoedd mab y diwethaf, Syr ERASMUS PHILIPPS, yr ysgrifennwr ar economeg (gweler y D.N.B.). Ymaelododd yng Ngholeg Pembroke, Rhydychen, 4 Awst 1720, yn 20 oed, a derbyniwyd ef yn Lincoln's Inn 7 Awst 1721. Yr oedd yn aelod o gyngor cyffredin Hwlffordd a chynrychiolodd y dref yn y Senedd, 1726-43. Bu'n siryf Sir Gaerfyrddin yn 1727. Cyhoeddwyd ei bedwar traethawd ar economeg, 1726-51. Boddodd gerllaw Bath, yn Hydref 1743. Dilynwyd ef gan ei frawd, Syr JOHN PHILIPPS, pleidiwr Iago II. Ymaelododd yng Ngholeg Pembroke, Rhydychen, 4 Awst 1720, yn 19 oed, a gwnaed ef yn D.C.L. 12 Ebrill 1749. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith. Priododd ag Elisabeth ferch Henry Shepherd, Llundain, 22 Medi 1725. Yr oedd yn Dori rhonc - ' a notorious Jacobite ' (Horace Walpole) - ac yn aelod o gymdeithas y 'Sea Serjeants.' Bu'n aelod seneddol dros Gaerfyrddin 1741-7, Petersfield, 1754-61, a sir Benfro, 1761-4, a gwnaed ef yn Gyfrin Gynghorwr 10 Ionawr 1763. Yn 1736 gwnaed ef yn faer Hwlffordd, lle'r oedd yn gynghorwr. Yr oedd hefyd yn gynghorwr a chofiadur Caerfyrddin. Cefnogodd addysg leol, a sefydlodd ysgoloriaethau yng Ngholeg Pembroke, Rhydychen, yn 1749. Bu farw 22 Mehefin 1764. Dyrchafwyd ei frawd, Syr RICHARD PHILIPPS, y 7fed barwnig, yn arglwydd Milford yn y bendefigaeth Wyddelig, 22 Gorffennaf 1776. Ymaelododd yng Ngholeg Pembroke, Rhydychen, 3 Chwefror 1761. Priododd ag Elisabeth ferch James Philipps, Pentyparc, yn 1764. Cynrychiolodd sir Benfro yn y Senedd fel Tori, 1765-70, 1786-1812, Plymton 1774-9, a Hwlffordd 1784-6. Penodwyd ef yn ' custos rotulorum ' Hwlffordd yn 1764 ac yn arglwydd-raglaw yn 1770; ac yn 1786 penodwyd ef yn ' custos rotulorum ' ac arglwydd-raglaw Sir Benfro. Bu farw 28 Tachwedd 1823 yn ddi-blant, ac etifeddwyd y stad gan ei gefnder, RICHARD BULKELEY PHILLIPPS GRANT (1801 - 1857) a fabwysiadodd y cyfenw Philipps ac a wnaed yn farwn Milford o Castell Pictwn yn 1847. Bu farw'n ddi-blant, a disgynnodd ei stadau i'w hanner brawd, y Parch. JAMES HENRY ALEXANDER PHILIPPS (gynt Gwyther) (bu farw 1875). Dilynwyd ef gan ei fab-yng-nghyfraith Syr CHARLES EDWARD GREGG PHILIPPS (gynt Fisher), a wnaed yn farwnig yn 1887. Disgynnodd yr urdd farwnig a stad Pictwn i'w fab, Syr HENRY ERASMUS EDWARD PHILIPPS (1871 - 1938) ac yna i'w fab yntau, Syr JOHN ERASMUS GWYNNE ALEXANDER PHILIPPS (1915 - 1948). Wedi marw'r arglwydd Milford yn 1823 disgynnodd yr urdd farwn i berthynas iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.