HARRI (HENRY) VII (1457 - 1509), brenin Lloegr

Enw: Henry
Dyddiad geni: 1457
Dyddiad marw: 1509
Priod: Elizabeth
Plentyn: Mary
Plentyn: Arthur
Plentyn: Roland de Velville
Rhiant: Margaret Tudor (née Beaufort)
Rhiant: Edmund Tudor
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Lloegr
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Ganwyd (ar ôl marw ei dad) yng nghastell Penfro, 28 Ionawr 1457, yn fab i Edmund Tudur, yn nai i Jasper Tudur, ac yn wyr i Owain Tudur; ei fam oedd Margaret Beaufort, etifedd hawliau plaid Lancaster i'r orsedd, a'i wraig oedd Elisabeth o York, disgynnydd drwy'r Mortimeriaid o Lywelyn ap Iorwerth. Cronnid felly ar ben Harri nid yn unig hawl i orsedd Lloegr ond hefyd draddodiadau a hawliai iddo ymlyniad llawer o Gymry. Magwyd ef yng Nghymru dan ofal ei ewythr Jasper.

Wedi cwymp achos Lancaster yn 1471, ffoes Jasper a Harri i Lydaw, ac yno y buont hyd y tiriad yn Aberdeugleddau ar 7 Awst 1485, a agorodd gyfnod newydd a phwysig yn hanes Prydain. Ymdeithiodd Harri drwy'r Deheudir i Amwythig, ac ar 22 Awst lladdwyd Rhisiart III ar faes Bosworth, a choronwyd Harri 'n frenin yn ei le. Teimlai'r Cymry 'n awr fod ‘coron Prydain’ yr eilwaith yn eu meddiant, a daroganau'r brudwyr wedi dyfod i ben. A serch mai prin y sangodd Harri ar dir Cymru wedyn, eto nid anghofiodd ei gysylltiadau Cymreig, llai fyth ei ddyled i wyr y Deheudir. Galwodd ei fab hynaf yn ‘Arthur,’ a mynnodd gart yn dangos ei achau Cymreig. A serch mai tri Chymro 'n unig, hyd y gwyddys, a gafodd swyddau cyfrifol yn agos at berson y brenin, yr oedd amryw Gymry ymysg gwyr y llys, megis un o'i gefndryd o deulu Penmynydd, a Roland Velvile (y dywedid ei fod yn fab gordderch i'r brenin), a gafodd diroedd a swydd ym Môn yn ddiweddarach. Y mae copi o ewyllys Roland Vevile (ei dyddiad yw 6 Mehefin 1535) yn N.L.W. MS. 1600, t. 94.

Eto i gyd, mor ansicr oedd Harri ar ei orsedd ac mor ddiorffwys y bu'n rhaid iddo wylio dros ei fuddiannau fel nad oedd ddisgwyl iddo ymroi i lunio polisi arbennig tuag at Gymru. Ar y gorau, ni ellir ystyried gweithrediadau cyngor y goror a mesurau cyllidol cryfion Harri ond fel math o ragarweiniad — damweiniol — i'r polisi o uno Cymru a Lloegr a roddwyd mewn grym gan Harri VIII. Am y gyfres o siarteri a roes Harri VII i'r Cymry, cofier y bu'n rhaid i'r sawl a'u cafodd ofyn amdanynt, ac nad oeddynt mewn gwirionedd ond cydnabod cyfnewidiadau a oedd eisoes ar droed — yr oedd yr hen gosbedigaethau a'r hen atalfaoedd caethiwus wedi hen golli eu grym.

Bu farw yn Richmond, 21 Ebrill 1509.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/