Tad Harri VII - mab hynaf Owain Tudur a Chathrin de Valois, gweddw Harri V. Er mwyn gwybod amgylchiadau priodas ei rieni, gweler yr erthygl ar Owain Tudur. Cafodd ei fagu yn Lloegr, o dan nawdd Harri VI, ei hanner brawd, a'i gwnaeth yn iarll Richmond yn 1452-3. Ni fu unrhyw gysylltiad cydrhwng Edmwnd a Chymru hyd ar ôl iddo ymbriodi â'r arglwyddes Margaret Beaufort, merch John Beaufort, arglwydd Somerset, ond y mae'r ffaith iddo farw yng Nghaerfyrddin ar 3 Tachwedd 1456 yn awgrymu iddo gael ei fwriadu ar gyfer gyrfa weinyddol yng Nghymru, fel ei frawd Siaspar Tudur, ar ei ôl. Claddwyd ef yn nhŷ'r Brodyr Llwydion yng Nghaerfyrddin a symudwyd ei weddillion i eglwys gadeiriol Tyddewi adeg diddymiad y mynachlogydd. Ganwyd ei fab, ail iarll Richmond, a ddaeth wedi hynny yn frenin cyntaf y Tuduriaid, ar ôl marwolaeth ei dad. Canodd Lewis Glyn Cothi a Dafydd Nanmor alarnadau i Edmwnd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.