DAFYDD NANMOR; bardd o fri yn y 15fed ganrif

Enw: Dafydd Nanmor
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ifor Williams

Cafodd ei enw o Nanmor ger Beddgelert, sef Nanmor Deudraeth. Canodd gywyddau yn null Dafydd ap Gwilym i wraig briod, Gwen o'r Ddôl (Dolfrïog), yn yr ardal, ac o'u hachos deolwyd ef o Wynedd trwy ddedfryd deuddeg o reithwyr. Digwyddodd hyn, meddai ef, pan oedd Dafydd ab Ifan ab Einion yn Ffrainc, sef y gŵr a enillodd glod wedyn fel cwnstabl castell Harlech, am wrthsefyll yn ddygn ymosodiad Herbert a phlaid Iorc arno yn 1468. Gan i'r brwydro yn Ffrainc ddarfod yn 1453, deil T. Roberts fod yn rhaid amseru ymadawiad Dafydd o Wynedd cyn y flwyddyn honno, a chyfrif gywyddau Gwen fel ei gyfansoddiadau cynharaf (The Poetical Works of Dafydd Nanmor, xvii-xix). Cafodd nawdd yn y De, yn llysoedd Rhys ap Meredudd o'r Tywyn (ger aber afon Teifi), ei feibion, a'i geraint. Nodir y Tŷgwyn-ar-Daf fel y man lle'i claddwyd. Ar amcan, cynnig ei olygydd iddo fyw o tua 1410 hyd 1480; pleidiodd deulu Lancastr ar hyd ei fywyd, ond ni cheir cywydd ganddo i ddathlu buddugoliaeth Harri Tudur yn 1485, a chasglodd Roberts o'r herwydd na chafodd fyw i weld goruchafiaeth derfynol ei blaid. Erbyn hyn cyhoeddwyd cryn dipyn o weithiau cyfoeswyr Dafydd, a daw gorfod arnom oll i ailystyried yr amseroedd a'r prydiau, fel yr amlha'r defnydd. Efallai y dylid diweddaru ychydig ar y ffigurau, a chynnig 1420 hyd 1485 neu 1490.

Heblaw mawl gorchestol i haelioni Rhys o'r Tywyn, mewn cywydd ac awdl, a hefyd i'w feibion, bu Dafydd yn glodforwr ffyddlon ar Edmwnt a Siasbar Tudur, a chanodd gywydd i Harri Tudur, ac awdl hefyd, pan nad oedd ond plentyn. Am ystyr ei awdl ‘enghreifftiol’ gweler Cerdd Dafod Syr John Morris-Jones, 363-4, 379-82. Bu Dafydd Nanmor, Dafydd ab Edmwnt, Ieuan Deulwyn, Deio ab Ieuan Du, a Thudur Penllyn, farw yn ymyl ei gilydd, a golyga hyn gryn drafferth, a gwahaniaeth barn rhwng golygyddion a'i gilydd — ac â hwy eu hunain ar adegau! Anodd dewis blwyddyn hwylus i gladdu'r cwbl ynghyd. Ar hyn o bryd ymddengys bod y dewis rhwng tua 1485 a thua 1490; a chofier bod pwyslais ar y ‘tua.’

Hoff oedd Dafydd o ‘orchestion,’ neu gwestiynau anodd, a charai gynganeddu seryddiaeth, serddewiniaeth, ac arwyddion tywydd; a gwneud campau ar fesurau cerdd dafod, a gramadeg. Dyfynna bedair llinell o fesur Lladin ar Wyl Bawl Abostol, a thry hwy'n bedwar englyn. Diddorol yw'r darganfyddiad o'i enw yn ei law ei hun ar lawysgrif Ladin o Gerallt Gymro, sydd yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol (N.L.W. MS. 3024); gweler Cylchgrawn Ll.G.C., ii, 11 a'r llun gyferbyn. Ar t. 130, ceir, mewn llythrennau addurnedig, ‘Gwenn or dol.’ Anodd peidio â dyfynnu o'i ‘Gyffes’ (t. 78): ‘Ni thorrais vn llythyrenn/O bin ag ingk heb ennw Gwen.’ Dynwaredodd yn Gymraeg un o groeseiriau Lladin y cynoesoedd (‘Sator arepo tenet opera rotas’). Mae ‘Compod Manuel’ hefyd yn Pen. 52, yn ei law ef ei hun (gweler Pen. MS. 75 (229); R.W.M. i, 403, 503, 783).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/