Dywaid ef ei hun mai yn y Creuddyn, Ceredigion, yr oedd ei gartref, a gelwir ef yn y llawysgrifau yn ‘Deio Du o Benadeiniol.’ Canodd i uchelwyr Morgannwg, Ceredigion, Meirionnydd, a Dinbych. Y mwyaf diddorol o wrthrychau ei fawl oedd Gruffudd Fychan o Gorsygedol, un o gefnogwyr mwyaf pybyr Siasbar Tudur yn y blynyddoedd 1460-8. Deio ab Ieuan Du yw awdur y llinell’ Y ddraig goch ddyry cychwyn’; y mae'n digwydd mewn cywydd i ofyn am darw yn rhodd gan Siôn ap Rhys o Lyn Nedd. Cân Deio yn null celfydd a glanwaith beirdd canol y 15fed ganrif.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/