VAUGHAN (TEULU), Corsygedol, plwyf Llanddwywe, Sir Feirionnydd.

Rhoddir ach y teulu hwn, a fu'n bur enwog yn hanes Cymru, gan Lewys Dwnn, dirprwy-herodr, a chan achyddwyr eraill. Fel rheol dechreua'r tabl achau gydag uniad Osbwrn Wyddel â merch ac aeres hen deulu Cymreig Corsygedol; yr oedd y ferch hon yn ward Llywelyn Fawr. Pan ymwelodd Dwnn â Chorsygedol yn 1588, GRIFFITH VAUGHAN, a oedd yn siryf Meirionnydd y flwyddyn honno, oedd pen y teulu. Ail-adeiladodd Griffith Vaughan Corsygedol yn 1592/3, ac adeiladodd ' Gapel Corsygedol ' yn rhan o eglwys Llanddwywe; bu farw 9 Tachwedd 1616 a chladdwyd ef yn eglwys Llanddwywe. Bu GRIFFITH VAUGHAN cynharach nag ef yn amddiffyn castell Harlech gyda Dafydd ab Ieuan ab Einion, ei gefnder, yn erbyn plaid teulu York; dywedir mai'r Griffith Vaughan hwn a adeiladodd ' Y Ty Gwyn yn Bermo ' er mwyn hwyluso cyfathrach dros y môr (rhwng Sir Feirionnydd a Sir Benfro) â Siaspar Tudur, iarll Pembroke, ewythr Henry o Richmond (y brenin Harri VII wedi hynny), pan oeddid yn paratoi ar gyfer goresgyn Prydain (cyn brwydr Bosworth, 1485); ar hyn gweler E. Rosalie Jones, Hist. of Barmouth, a hefyd ' Cywydd moliant Gruffydd Vychan ap Gruffydd ab Einion o Gorsygedol, rhyfelwr gyda'r brenin Harri VII ' gan Tudur Penllyn. Dywed Robert Vaughan, Hengwrt, i Siaspar Tudur fod yn aros yng Nghorsygedol ac ychwanega i Henry Richmond ei hunan fod yn aros yno hefyd, ' as some say.' Gwraig y Griffith Vaughan hwn oedd Lowri, nith i Owain Glyndŵr.

Dyma ach Griffith Vaughan (1588) yn ôl Dwnn : Griffith ap Richard ap Rhys ap William ap Griffith, ' sgweier o gorff Henry VII ' a thrydydd mab Griffith ab Einion ap Griffith ap Llewelyn ap Cynwrig ab Osbwrn Wyddel. Ceir y disgyniadau o 1588 ymlaen mewn llyfrau a llawysgrifau achau: e.e. gan J. E. Griffith, Pedigrees, 279. Ceir yn Archæologia Cambrensis, VI, ii, 1-16, olwg gyffredinol ar hanes y teulu gan W. W. E. Wynne, Peniarth, wedi ei seilio (gyda nodiadau gwerthfawr) ar gopi gan Angharad Llwyd o lawysgrif a ysgrifennwyd yn 1770 gan William Vaughan, ' penllywydd ' y Cymmrodorion (isod). Fel y dengys Edward Breese (Kalendars of Gwynedd), bu llawer o'r Fychaniaid yn uchel siryfion (Sir Feirionnydd a Sir Gaernarfon), yn aelodau seneddol, ac yn ' Custodes Rotulorum.' Daeth RICHARD VAUGHAN yn gwnstabl castell Harlech ym mis Gorffennaf 1704; hanner canrif yn ddiweddarach dewiswyd ei nai ef, EVAN LLOYD VAUGHAN (bu farw 1791), i'r un swydd.

Yr oedd WILLIAM VAUGHAN (bu farw 1633) yn siryf Sir Gaernarfon yn 1613 a 1632; ailadeiladodd ef Plas Hên, Llanystumdwy, 1607, ac adeiladodd y gatws yng Nghorsygedol yn 1630. Yr oedd yn gyfaill i Ben Jonson, y bardd, a anfonodd gopi o'i weithiau argraffedig yn rhodd iddo, a cheir llythyr oddi wrth Vaughan at James Howell yn Epistolae Ho-Elianae. Mab iddo ef oedd RICHARD VAUGHAN (bu farw 1636), yr aelod seneddol dros Feirionnydd a ddaeth mor adnabyddus yn Llundain oblegid ei fod mor eithriadol o dew. Priododd Richard Vaughan Anne, ferch (Syr) John Owen, Clenennau. Priododd WILLIAM VAUGHAN (bu farw 1669), ei fab yntau, Anne, ferch teulu Nannau, uniad rhwng dau deulu yr oedd eisoes gryn gyfathrach rhyngddynt. Bu farw eu mab hynaf hwy, GRIFFITH VAUGHAN, yn 1697 heb etifedd; eithr cadwyd y llinach ymlaen ym mherson ei frawd RICHARD VAUGHAN (bu farw 1734). Trwy ei wraig Margaret, merch Syr Evan Lloyd, Bodidris, sir Ddinbych, daeth Richard Vaughan yn dad WILLIAM VAUGHAN (1707 - 1775; isod). Daeth ei wraig ef, Catherine ferch Hugh Nanney, yn unig etifeddes Nannau maes o law. Unig blentyn William Vaughan ac Anne (Nanney) oedd ANN VAUGHAN, a briododd David Jones Gwynne, Taliaris, Sir Gaerfyrddin. Ann oedd yr aeres olaf yn y llinell uniongyrchol; bu hithau farw 16 Mawrth 1758, heb etifedd. Cynrychiolydd gwrywol diwethaf y teulu oedd EVAN LLOYD VAUGHAN, brawd William Vaughan, ac aelod seneddol dros Feirionnydd. Pan fu ef farw, ar 4 Rhagfyr 1791, aeth Corsygedol a'r stadau a oedd yn gysylltiedig â hi yn eiddo ei nith, Margaret, gwraig Syr Roger Mostyn, barwnig.

Yn ystod y canrifoedd bu aelodau o'r teulu yn noddwyr llenyddiaeth Gymraeg a cheid croeso yng Nghorsygedol i feirdd yn clera; gweler NLW MS 3061D . Fel y gellid disgwyl canwyd llawer i'r teulu gan y beirdd a adnabyddir wrth yr enw ' Phylipiaid Ardudwy '. Yr oedd eu cartrefi hwynt yn weddol agos i Gorsygedol. Canodd Siôn Phylip (bu farw 1620) tuag 16 o gywyddau, etc., i'r teulu; canodd Gruffydd Phylip (bu farw 1666), mab Siôn Phylip a ' bardd teulu ' Corsygedol, tua 19; canodd Phylip Siôn Phylip (bu farw c. 1677), mab arall i Siôn Phylip, un cywydd. Y bardd a oedd yn byw agosaf at Gorsygedol ydoedd William Phylip, Hendrefechan (bu farw Chwefror 1670); bu ef yn helpu Siôn Bryncir i ysgrifennu ' Cywydd cyngor ' i nai hwnnw, sef i William Vaughan. Y mae i un cywydd gan Gruffydd Phylip bennawd diddorol - ' I Wmffire Davies o Landyfrydog y Mon dros Rich: V n o Gorsygedol i ofyn 100 o gywydde D[afydd] ap G[wilym].' Gwyddys bod rhai o'r Fychaniaid yn casglu llawysgrifau a llyfrau. Pan ddaeth llawysgrifau Cymraeg Plas Mostyn (Sir y Fflint) i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1918 yr oedd yn eu mysg o leiaf 10 (os nad 11) o gyfrolau a fuasai gynt yng Nghorsygedol, sef NLW MS 3034B , NLW MS 3038B , NLW MS 3039B , NLW MS 3047C ('Llyfr Coch Nannau'), NLW MS 3048D ('Llyfr Gwyn Corsygedol), NLW MS 3050D , NLW MS 3056D , NLW MS 3058D , NLW MS 3059D ('Y Llyfr Gwyrdd'), NLW MS 3060D , a NLW MS 3061D (y llawysgrif hon yn bwysig o safbwynt hanes y teulu). Cadwyd y traddodliad llenyddol ymlaen yn gryf gan William Vaughan (1707 - 1775), aelod seneddol dros sir Feirionnydd o 1734 hyd 1768, arglwydd-raglaw a ' Custos Rotulorum ' y sir honno, a ' Phenllywydd ' cyntaf Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Cawsai ei addysg mewn ysgolion yng Nghaer a Llundain ac yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt. Pan gyhoeddodd Huw Jones (o Langwm) ei Diddanwch teuluaidd yn Llundain yn 1763, i William Vaughan y cyflwynodd y gwaith. Ceir hefyd lawer o gyfeiriadau at Vaughan yn llythyrau Morysiaid Môn. Yn dilyn yn union yn y Diddanwch … ar ôl ' Caniad y Gog i Feirionydd,' cân adnabyddus Lewis Morris, ceir trosiad Saesneg o waith William Vaughan. Argraffwyd apêl Gymraeg Vaughan at etholwyr Meirionnydd yn etholiad 1747 gan Edward Breese yn ei Kalendars of Gwynedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.