OWAIN GLYNDWR (c. 1354 - 1416), 'Tywysog Cymru'

Enw: Owain Glyndwr
Dyddiad geni: c. 1354
Dyddiad marw: 1416
Priod: Margaret Hanmer
Plentyn: Catherine ferch Owain Glyndwr
Plentyn: Alice ferch Owain Glyndwr
Plentyn: Gwenllian ferch Owain Glyndwr
Plentyn: Maredudd ab Owain Glyndwr
Rhiant: Helen ferch Thomas ap Llywelyn ab Owen
Rhiant: Gruffydd Fychan II ap Madog ap Gruffydd Fychan I
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: 'Tywysog Cymru'
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Mab ac aer Gruffydd Fychan II ap Madog ap Gruffydd Fychan I, arglwyddi Glyndyfrdwy a Chynllaith Owen yng ngogledd Powys a ddelid yn ei gyfangorff ar un adeg gan Gruffydd Maelor II, tad Gruffydd Fychan I - yr oedd felly yn disgyn o Fadog ap Maredudd, brenin olaf Powys gyfan ac ynddo ef yr oedd yn gorwedd yr hawliau i etifeddu'r hen ranbarth honno o Gymru. Ei fam oedd Helen, merch a chyd-aeres Thomas ap Llywelyn ab Owen (priododd ei chwaer hi Tudur ap Gronw; y Thomas hwn oedd cynrychiolydd, yn y brif linach, hen deulu brenhinol Deheubarth. Trosglwyddodd Helen yr hawl hon i'w mab, ynghyd â thiroedd yng nghymydau Gwynionydd ac Iscoed Uch Hirwern yng Ngheredigion. Nid oedd iddo gysylltiadau clos o ran gwaed â Gwynedd, serch i gysylltiadau priodasol o bell roddi iddo'r hawl i'w alw ei hun yn ddisgynnydd o Owain Gwynedd a Gruffydd ap Cynan; ac wedi marw Owen ap Tomas ap Rhodri yn 1378, ychydig a oedd yn aros a chanddynt well hawl na'r eiddo ef i etifeddiaeth y tywysogion Llywelyn. Priododd (yn 1383, efallai) â Margaret, ferch David Hanmer, Maelor; bu chwe mab ac amryw o ferched o'r briodas. O'r meibion ymddengys mai Maredudd yn unig a oroesodd ei dad.

Nid oedd unrhyw argoel ym mywyd cynnar Owain o ddigwyddiadau ei flynyddoedd olaf. Treuliodd beth amser yn Llundain - yn yr Inns of Court - yn ennill iddo'i hun rai o nodweddion a grasusau cymdeithasol gwyr y llys. Wedi peth amser yn dysgu milwrio bu'n gwasnaethu Coron Lloegr mewn amryw gyrchoedd; y mae'n sicr iddo fynd gyda'r cyrch i Sgotland yn 1385; yn 1387 y mae'n bosibl iddo gynorthwyo Henry Bolingbroke - y brenin Harri IV wedi hynny - yn Radcot Bridge. Yn 1386 bu'n rhoddi tystiolaeth mewn achos nodedig y buwyd yn ei drin mewn llys sifalri, ffaith sydd yn awgrymu ei fod yn hyddysg mewn gwybodau achyddol, heraldaidd, a milwrol. Ar wahân i hynny, fel y dengys gweithiau beirdd a arferai fynychu ei gartrefi yng Ngharrog a Sycharth, diddordebau'r uchelwyr Cymreig yn gyffredin oedd yr eiddo yntau. Ni wyddys beth ydoedd ei adwaith i'r newid ar linach frenhinol Lloegr yn 1399, ac nid oes reswm dros gredu bod anghydfod a oedd ar y pryd ar fin tyfu'n gweryl rhyngddo â'i gymydog, Reginald Grey, arglwydd Rhuthyn, yn ddim amgen na gwrthdrawiad rhwng dau wr o natur a diddordebau personol gwahanol. Ac eto - penderfyniad Owain i setlo'r mater hwn trwy rym arfau oedd achos y gwrthryfel pwysicaf yn erbyn llywodraeth yr estron a ddigwyddodd wedi cwymp Llywelyn II.

Ar 16 Medi 1400, mewn cydweithrediad â nifer o'i berthynasau, ymosododd Owain ar Ruthyn. Dilynwyd hyn gan ymosodiadau ar fwrdeisdrefi eraill yn y gymdogaeth ac wedi hynny; y mae'r cofnodion hanesyddol yn rhyfeddol o ddisôn am ei symudiadau. Yn y cyfamser cymerodd ei gefndyr (gweler Tudur) yr arweiniad i'w dwylo eu hunain, ond yn haf 1401, fodd bynnag, daw Owain i'r amlwg drachefn. Cafwyd buddugoliaeth yn ardal fynyddig Pumlumon ar luoedd brenhinol a ymgasglasai yno, a bu hyn yn gefnogaeth i apêl, a lwyddodd, at wyr gorllewin Cymru i ymuno er mwyn 'rhyddhau cenedl y Cymry o gaethiwed eu gelynion y Saeson.' Treuliwyd y flwyddyn 1402, gan mwyaf, mewn cyrchoedd ar y goror; cymerwyd Reginald Grey yn garcharor (fe'i rhyddhawyd yn ddiweddarach am bridwerth o ddeng mil o forciau) a hefyd Edmund Mortimer, aelod ieuanc o deulu a oedd yn perthyn i'r cyn-frenin, Richard II, ac felly'n achos perygl parhaus i ddyfodol teulu Lancaster a oedd bellach yn teyrnasu. Cadarnhaodd Owain ei sefyllfa yn fawr a chynyddodd mewn pwysigrwydd trwy ei gysylltiad â Mortimer, a briododd Catherine, ferch Owain, a thrwy ei gysylltiad â Percy (Hotspur), mab yr iarll Northumberland pwerus; ac er i'r Percy hwnnw gael ei orchfygu a'i ladd yn Amwythig (1403), parhawyd y trefniant gan Percy yr hynaf a'i gadarnhau gan y ' Cytundeb Tridarn ' y cytunwyd arno yn 1405. Yn ôl y cytundeb hwn yr oedd Owain i lywodraethu ar diriogaeth yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau arferol Cymru, heb ond ychydig i'w ofni o gyfeiriad Lloegr ranedig rhwng ei ddau gydgynghreiriad o'r wlad honno. Trwy gael Harlech ac Aberystwyth i'w feddiant yn 1404 daeth Owain yn feistr ar orllewin Cymru o fôr i fôr. Yr oedd yn ddealledig eisoes fod pobl Sgotland yn gefnogol iddo ac felly yr oedd ei lwyddiant yn gyflawn pan wnaethpwyd cytundeb â Ffrainc yn yr un flwyddyn. Serch iddo gael cymorth o Ffrainc, fodd bynnag, methodd Owain â gwrthweithio effaith druenus gorchfygiad Pwll Melyn (Mai 1405) trwy frwydro â Harri yng Nghaerwrangon, brwydr a allasai roi terfyn ar y rhyfel. Yn ystod y tair blynedd nesaf pallodd cymorth cynghreiriaid tramor Owain, ymostyngodd iseldiroedd y gorllewin, gorchfygwyd Percy ym mrwydr Bramham Moor, ac, yn ddiwethaf oll, collodd Owain Aberystwyth a Harlech. Daliodd allan am flynyddoedd lawer wedyn ym mynydd-dir canolbarth Cymru; yn 1410 yr oedd ei afael ar yr ardaloedd o gylch ei gartref yn parhau, a gallodd gael digon o gynhorthwy i ddwyn cyrch ar ffiniau Sir Amwythig. Ar ôl y flwyddyn 1412, fodd bynnag, ni chlywir mwy amdano, er iddo, y mae'n amlwg, fyw hyd 1416, a threulio ei ddyddiau olaf, fel y credir, yn Monnington, llecyn diarffordd yn swydd Henffordd, cartref ei ferch Alice Scudamore.

Y mae rhywbeth sydd yn bryfoclyd o annelwig ynglyn â gyrfa Owain; ni ellir ond dyfalu pa fodd yr oedd achosion uniongyrchol ei wrthryfel yn rhan o batrwm yr anfodlonrwydd cymdeithasol cyffredinol a ddug i'w arweinyddiaeth ef gymorth gwerin falch a cheidwadol a oedd yn gwneuthur ei gwrthdystiad olaf yn erbyn dylanwad sefydliadau a chyfundrefnau estronol ar ei dull cynhenid o fyw. Ni ellir gwybod pa mor ymwybodol ydoedd Owain o'r teimlad hwn ar ran y cyhoedd nac, ychwaith, a ragwelodd ef ganlyniadau'r cam cyntaf a gymerodd. Ar y llaw arall y mae'r rhaglen a ddaeth i'r amlwg ar ôl 1400 - yn cynnwys mabwysiadu'r teitl ' Tywysog Cymru ' ac arfbais tywysogion Gwynedd, y syniad deublyg o senedd genedlaethol ac eglwys Gymreig annibynnol, tueddfryd ei gysylltiadau diplomyddol, a'r manteisio ar y gwrthdrawiad yn Lloegr rhwng y Goron a'r bendefigaeth - oll yn awgrymu bod rhywun wedi cynllunio ymlaen llaw, a'r cynllun hwnnw wedi ei seilio ar wybodaeth o draddodiadau gwleidyddol yn deillio o ddyddiau'r Llywelyn olaf. Ond erys y cwestiwn i ba raddau yr ysbrydolwyd y cyfryw gynlluniau gan Owain ei hunan neu, ar y llaw arall, i ba raddau yr oedd ei brofiad a'i gysylltiadau personol ef ei hun yn peri mai offeryn ydoedd ef yn nwylo pobl eraill. Pa fodd bynnag am hynny, erys Owain Glyndwr yn syniad y werin Gymreig fel y ffigur amlycaf yn hanes Cymru yn y cyfnod cyn y Diwygiad Methodistaidd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.