Mab Thomas ap Rhodri a merch o'r enw Cecilia - yr oedd felly yn or-or-wyr i Lywelyn I ac yn or-nai i Lywelyn II. Ganed ef c. 1330, yn ôl pob tebyg ar stad ei dad, sef Tatsfield yn Surrey. Ymddengys iddo, ac yntau eto'n bur ifanc, fyned i wasnaethu brenhinoedd Ffrainc, a threulio gweddill ei oes (oddieithr am gyfnod o lai na 12 mis) i ffwrdd o'i wlad enedigol, gan ennill iddo ei hun yr enw ' Yevain de Galles ' neu ' Owen of Wales ' a chael ei gyfrif yn wr eithriadol fel arweinydd lluoedd milwrol cyflogedig, nid yn unig yn Ffrainc eithr hefyd yn Lombardi, Llydaw, Alsas, a'r Yswistir.
Daeth i Loegr yn haf 1365 er mwyn hawlio ei dreftadaeth o ochr ei dad (gweler Thomas ap Rhodri); wedi iddo ennill y stad aeth yn ôl i Ffrainc ym mis Mawrth 1366. Yn niwedd y flwyddyn 1369 - ym mis Ebrill y flwyddyn honno ailddechreuodd y rhyfela rhwng Lloegr a Ffrainc a beidiasai yn 1360 - collodd Owain ei diroedd yn Lloegr a Chymru oblegid ei fod yn glynu wrth elynion brenin Lloegr. Yn y cyfnod hwn yn ei yrfa daeth i ymgymysgu a chysylltiadau gwleidyddol Lloegr a Ffrainc. Er bod Cymru yn ddieithr iddo - yn Lloegr y buasai ei dad a'i daid yn byw - yr oedd Owain yn gwbl ymwybodol o'i hawliau etifeddol fel olynydd uniongyrchol y ddau Lywelyn, fel y dengys Froissart yn eglur, ac ymddengys iddo grybwyll yr hawliau hyn yn fynych yng nghylchoedd llys Ffrainc. Manteisiwyd ar y rhain bellach er lles Ffrainc a gwnaethpwyd cynlluniau i dynnu sylw Lloegr rhag Ffrainc trwy geisio goresgyn Cymru o dan arweiniad Owain. Rhagflaenwyd cyrch 1372 trwy gyhoeddi proclamasiwn yn datgan hawliau Owain, eithr nid aethpwyd ymhellach na Guernsey; yn yr ynys honno parhaodd yr hanes am wrhydri a gweithredoedd Owain yn hir yn y cof ac mewn hanes, cân, a llên gwerin. Yr oedd yr awdurdodau yn Lloegr wedi paratoi ar gyfer cyrch ar Gymru cyn gynhared â mis Rhagfyr 1369; y mae'n ffaith drawiadol hefyd i frodor o sir Fôn, y flwyddyn ddilynol, gael ei gondemnio am fod mewn cyswllt ag ' Owain Lawgoch, gelyn a bradwr,' gyda'r bwriad o gychwyn rhyfel yng Nghymru. Y mae'r cyfeiriad neilltuol hwn at Owain Lawgoch, o'i ystyried ochr yn ochr â'r farddoniaeth broffwydol a gafwyd yn ddiweddarach ac a gysylltid â gwron o'r enw hwnnw - mewn un gân broffwydol uniaethir Owain Lawgoch ag Owain ap Thomas ap Rhodri - yn profi i enwogrwydd Owain barhau yn hir ei ddylanwad ar Gymru.
Y mae'n amlwg fod yr awdurdodau yn Lloegr yn ystyried bod Owain Lawgoch yn abl i achosi perygl i'r wlad honno. Profir hyn gan y modd y cyfarfu â'i ddiwedd yn ystod gwarchae Mortagne-sur-Mer gerllaw Bordeaux - yn ddios gyda chydsyniad yr awdurdodau Seisnig - ym mis Gorffennaf 1378. Sgotyn o'r enw John Lamb a'i llofruddiodd, gwr a lwyddodd i ennill cyfeillgarwch Owain ac a ddysgodd beth oedd ei ddibenion. Claddwyd ef bedair milltir o'r man y lladdwyd ef, sef yn eglwys S. Leger. Galarwyd ar ei ôl gan lu mawr o gyfeillion a chydfilwyr, a chafodd gwrhydri a gweithredoedd y gwr balch, caredig, eithr nwydwyllt, hwn ei groniclo gydag edmygedd gan rai o groniclwyr blaenllaw yr oes.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.