THOMAS ap RHODRI (c. 1295 - 1363)

Enw: Thomas ap Rhodri
Dyddiad geni: c. 1295
Dyddiad marw: 1363
Priod: Cecilia wraig Thomas ap Rhodri
Plentyn: Owain ap Thomas ap Rhodri
Rhiant: Catherine wraig Rhodri ap Gruffydd
Rhiant: Rhodri ap Gruffydd
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

nai Llywelyn ap Gruffydd; mab Rhodri ap Gruffydd a merch o'r enw Catherine. Etifeddodd stadau ei dad yn 1315. Cafodd wared o'r rhan fwyaf o'i stad yn sir Gaerlleon (Fawr) a byw yn Tatsfield, ei faenor yn Surrey. Yn ddiweddarach prynodd faenor Bidfield yn sir Gaerloyw a maenor Dinas ym Mechain Iscoed a thrwy hynny aildrefnu iddo'i hun gysylltiad tiriogaethol â Chymru. Y mae'n amlwg fod iddo fwy o ddiddordeb yng ngwlad ei gyndadau nag y mae ei fywyd fel uchelwr tiriog yn Lloegr yn ei awgrymu ar yr olwg gyntaf; profir hyn gan y cais (aflwyddiannus) a wnaeth i hawlio arglwyddiaeth Llŷn fel aer ei ewythr, Owen Goch. Mab iddo oedd Owen ap Thomas ap Rhodri.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.