trydydd mab Gruffydd ap Llywelyn a Senana, a brawd Owen Goch, Llywelyn II, a David III. Ymddengys yn gyntaf fel gwystl ieuanc yn nwylo Harri III yn 1241. Y mae'n debyg iddo gael ei ryddhau yn 1248; dychwelodd i Gymru ac aeth Owen a Llywelyn yn feichiafon dros ei deyrngarwch i'r brenin. Yn ddiweddarach gorfu iddo ddioddef yn sgîl ymdrechion Llywelyn yn erbyn yr arfer o rannu tiroedd ac etifeddiaethau yn gydradd, eithr wedi iddo dreulio rhai blynyddoedd yn garcharor cytunodd, yn 1272, i werthu ei hawliau yng Ngwynedd pan addawodd Llywelyn dalu iddo fil o forciau. Ni chadwodd Llywelyn y cytundeb ar unwaith a dihangodd Rhodri i Loegr. Ddwy waith wedi hynny ceisiodd Edward I drefnu i orfodi Llywelyn i gadw'r cytundeb; 50 morc yn unig a dalesid hyd at ddiwedd y flwyddyn 1278, eithr talwyd 100 morc arall o leiaf yn Aberconwy erbyn mis Tachwedd 1280. Yn 1292 cafodd flwydd-dâl o £40 gan y brenin. Yn y cyfamser (sef yn 1281) yr oedd wedi priodi Beatrice, merch ac aeres David de Malpas, ac o hyn allan fe'i ceir yn berchennog tir ac yn aer o beth pwysigrwydd yn sir Gaerlleon (Fawr); yr oedd hefyd yn arglwydd maenor yn Surrey. Wedi i Beatrice farw (yn 1290) priododd, yn ail wraig, ferch o'r enw Catherine, a'i goroesodd. Cafwyd un mab o'r ail briodas, sef Thomas ap Rhodri, tad Owen ap Thomas ap Rhodri.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.