GRUFFYDD ap LLYWELYN (bu farw 1244), tywysog gogledd Cymru

Enw: Gruffydd ap Llywelyn
Dyddiad marw: 1244
Priod: Senena ferch Caradog
Plentyn: Gwladus ferch Gruffudd ap Llywelyn
Plentyn: Rhodri ap Gruffydd
Plentyn: Owain ap Gruffydd
Plentyn: Llywelyn ap Gruffudd
Plentyn: Dafydd ap Gruffydd
Rhiant: Tangwystl ferch Llywarch Goch
Rhiant: Llywelyn ap Iorwerth
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog gogledd Cymru
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Mab anghyfreithlon Llywelyn I a Tangwystl, merch Llywarch Goch, Rhos; ganwyd rywbryd cyn priodas ei dad â Joan yn 1206. Y cyfeiriad cyntaf ato ydyw fel un o'r gwystlon a roddwyd i John yn 1211; yr oedd yn parhau yn garcharor yn Awst 1213, eithr fe'i rhyddhawyd yn y setlo cyffredinol a wnaethpwyd yn 1215. Yr oedd wrth reddf yn un na ellid dibynnu arno ac yn bengryf, ac nid oedd yn ôl o ddangos ei fod yn llidio oblegid mai hanner-brawd, David II, mab Joan, a edrychid arno i fod yn unig olynydd i Llywelyn. Yng Nghymru 'r Canol Oesoedd, gallai mab cydnabyddedig, serch ei fod yn anghyfreithlon yn ôl y safonau arferol, obeithio herio un arall a bod yn weddol sicr y câi gymorth y cyhoedd yn hynny. Nid oedd ym mwriad Llywelyn, fodd bynnag, nacâu rhoddi iddo awdurdod yn rhyw ran o'r wlad os profai y gallai gydweithredu. Er iddo ddioddef ei garcharu yn Neganwy am gyfnod hir - o 1228 hyd 1234 - wedi iddo golli arglwyddiaethau Ardudwy a Meirionnydd, fe'i gwnaethpwyd yn y diwedd yn arglwydd Llŷn a rhoddwyd iddo diriogaeth helaeth Powys Uchaf a fuasai ym meddiant Llywelyn wedi marw Gwenwynwyn.

Fel y digwyddodd, David ei hunan, yn ystod blynyddoedd olaf Llywelyn, pan oedd hwnnw'n egwan, a roes y ddyrnod olaf dros egwyddorion cyfreithlondeb geni a hawl y cyntafanedig, gan gymryd holl diroedd Gruffydd oddi arno a'i garcharu ef ac Owain Goch, ei fab hynaf, yng Nghricieth. Digwyddodd hyn ychydig cyn i Llywelyn farw (Ebrill 1240) neu yn union wedi hynny. Ar 12 Awst 1241 gwnaeth Senena, gwraig Gruffydd, gytundeb â Harri III, a threfnu i ryddhau ei gwr o'r carchar ac adfer ei diroedd iddo. Pan fu raid i David, bythefnos yn ddiweddarach, ymostwng i'r brenin yn Gwern Eigron, dim ond rhan gyntaf y cytundeb a gyflawnwyd, oblegid gwnaethpwyd Gruffydd yn garcharor yn awr yn Nhwr Llundain; yno, am dair blynedd, cafodd gaethiwed na fu'n galed - yng ngwmni ei wraig a rhai o'u plant ac yn cael ei ddefnyddio fel gwystl yn y chwarae gwleidyddol rhwng Lloegr a Chymru. Bu diwedd trist i'w ymdrech i ddianc ar 1 Mawrth 1244. Bu iddo bedwar mab - Owain Goch, Llywelyn ' ein llyw olaf ', David III, a Rhodri - ac un ferch, Gwladus, a briododd Rhys ap Rhys Mechyll. Yn 1248 cludwyd ei weddillion i Gymru a'u gosod i orffwys yn Aberconwy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.