Unig fab Llywelyn ap Iorwerth o'i wraig Joan, merch y brenin John. Cyfrifid ef o'i eni (tua 1208) yn aer i'r dywysogaeth gadarn yr oedd ei dad yn ei sefydlu. Mor fore â 1220 rhoes y brenin arwydd ei fod yn ei dderbyn fel yr aer, a chymerth y tywysog ieuanc a'i fam o dan nawdd y Goron. Yn 1222 cafwyd cymorth Honorius III hefyd; bedair blynedd yn ddiweddarach gorchmynnodd y pab i esgobion Bangor, Llanelwy, a Tyddewi sicrhau bod y llw o ffyddlondeb i Ddafydd a gymerasai mawrion Cymru ar wŷs y brenin yn cael ei anrhydeddu. Pan ddaeth i'w oed yn 1229 talodd Ddafydd wrogaeth i'r Goron; trefnwyd iddo gael tâl blynyddol o £40 o drysorlys Lloegr hyd nes y caffai diroedd cyfwerth. Y flwyddyn honno cadarnhaodd Ddafydd rodd ei dad i briordy Ynys Lannog, sef Penmon. Yr oedd trefniadau ar droed yn 1230 i'w briodi ag Isabella, merch hynaf William de Breos, barwn pwerus y gororau. Ni wnaeth trychineb y flwyddyn honno, sef crogi William gan wŷr Llywelyn, newid ar y trefniadau; fe'u cwplâwyd, ac yn rhan o'r cyfamod daeth Buellt, a oedd yn arglwyddiaeth dan deulu de Breos, yn rhan o dywysogaeth helaeth Llywelyn.
Yr oedd i'r trefniadau amcan arbennig. Yr oedd gan Ddafydd frawd hŷn nag ef ei hun, sef Gruffydd; ganesid hwnnw'n fab gordderch, ond nid oedd hynny'n ddigon yng ngolwg cyfraith Cymru i'w luddias rhag dilyn ei dad. Yr oedd yn boblogaidd; yr oedd bod ei fam yn ddynes â chysylltiadau Cymreig ganddi yn fantais iddo hefyd. Nid oedd Llywelyn ychwaith yn anfodlon darparu ar gyfer dyfodol ei fab, ond fel yr âi Llywelyn yn hŷn a Dafydd yn cymryd yr awenau, yr oedd llai o gyfle i weithrediadau Gruffydd. Ar 19 Hydref 1238 cyfarfu holl is-dywysogion Cymru yn Ystrad Fflur a chymryd llw i fod yn ffyddlon i'r aer cydnabyddedig, a heb golli amser cymerodd Dafydd oddi ar ei frawd y cwbl o'i diroedd yn ne Powys gan adael cantref Llŷn yn unig iddo. Y flwyddyn ddilynol bu cynhadledd rhwng cefnogwyr y ddau frawd; manteisiodd Dafydd yn fradwrus ar y cyfle i ddal Gruffydd ac Owain ei fab a'u carcharu yng nghastell Cricieth.
O'r herwydd, pan fu Llywelyn farw 11 Ebrill 1240, nid oedd dim yn rhwystro Dafydd rhag esgyn i'r orsedd. Cafodd gymorth cryf Ednyfed Fychan, prif gynghorwr Llywelyn, ac Einion Fychan, un o ladmeryddion rheolaidd y tywysog hwnnw, a hefyd gymorth esgob Llanelwy. Ar 15 Mai, mewn cynulliad mawr yng Nghaerloyw, cyfarfu'r brenin a'i nai, gwnaeth ef yn farchog, derbyniodd wrogaeth ganddo, a gosododd ar ei ben dalaith (neu goron) yn arwyddocâd o urddas tywysogaidd y derbynnydd. Ond nid oedd hyn oll yn golygu caniatáu iddo gael dal y tiroedd pell a gynullasai ei dad yn ystod ei yrfa lwyddiannus; dywedwyd y byddai rhaid wrth gyflafareddiad cyn y gellid penderfynu i ddwylo pwy y caent fynd. Gan ei fod yn anfodlon colli dim dechreuodd Dafydd yn awr ddefnyddio dulliau a olygai ohirio penderfynu pa gwrs i'w gymryd; yn haf 1241, fodd bynnag, penderfynodd Harri beidio ag aros yn hwy ac arweiniodd lu i Ogledd Cymru. Cafodd rwydd hynt nas disgwyliasai; yr oedd sychder mawr wedi symud o'i ffordd lawer o'r rhwystrau arferol, a gorfu i Ddafydd dderbyn, yng Ngwern Eigron, gerllaw Llanelwy, delerau cyfamod; yn ôl y rhain rhaid oedd iddo roddi i fyny bob hawl i'r tiroedd yr oedd yr anghydfod yn eu cylch, dychwelyd ei ddau garcharor, Gruffydd ac Owain, a hefyd golli Ellesmere, Tegeingl, ac yn ddiweddarach, sef pan gadarnhawyd y cyfamod yn Llundain fis Hydref, amddiffynfa Degannwy.
Yn yr amgylchiadau hyn gallai'r brenin gael Gruffydd i wrthwynebu Dafydd pan fynnai, er nad oedd arno awydd gwneuthur hynny - a golygai hyn warantu bod ei nai Dafydd yn ymddwyn yn weddus. Cafwyd heddwch am beth amser hyd nes i ddamwain adfydus ar 1 Mawrth 1244 ddod â thro ar fyd. Torrodd Gruffydd ei wddf wrth geisio dianc o Dŵr Llundain. Ar amrantiad llygad, megis, cafodd Dafydd ollyngdod rhag ei ofalon a phenderfynodd ailgychwyn yr ymgyrch. Cafodd gymorth y tywysogion Cymreig bron i gyd - ar wahân i Bowys, a safai o'r neilltu, yn ôl ei harfer - a bu mor ffyddiog â dodi ei achos gerbron y pab Innocent IV, a llwyddo yn hynny i raddau, gan bledio i'w rieni ei ddodi o dan nawdd arbennig y babaeth. Ni frysiodd Harri i ateb yr her; fe'i twyllesid, efallai, oblegid iddo lwyddo cyn rhwydded yn 1241. Ond pan welodd fod y Cymry yn myned rhagddynt - cawsant yr Wyddgrug yn ôl i'w dwylo yng ngwanwyn 1245 - fe ymroes y brenin a daeth at Ddegannwy gyda llu mawr yn niwedd haf y flwyddyn honno. Gwrthsafodd Dafydd a'i wŷr gyda grym a llwyddiant, yn gymaint felly nes i fyddin y brenin orfod troi yn ôl ymhen tua deufis, heb ddim wedi ei ennill ar ôl eu holl lafur. Yr oedd pethau yn amhenodol hyd 25 Chwefror 1246 pan fu'r tywysog farw yn ei faenol yn Aber. Fe'i claddwyd gyda'i dad a'i frawd yn abaty Aberconwy, a chan na adawodd etifedd aeth holl drefniadau Llywelyn yn ddiddim a chafodd y Goron y fuddugoliaeth iddi ei hun. Dychwelodd gweddw Dafydd i Loegr; cafodd Hwlffordd ym Mhenfro yn ddiweddarach yn rhan o gynhysgaeth ei mam ymhlith tiroedd eang y Marshaliaid, ond nis mwynhaodd yn hir oblegid erbyn mis Chwefror 1248 yr oedd hithau wedi marw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.