Erthygl a archifwyd

JOAN (SIWAN) (marw 1237), tywysoges a diplomydd

Enw: Joan
Dyddiad marw: 1237
Priod: Llywelyn ap Iorwerth
Partner: William de Braose
Plentyn: Angharad ferch Llywelyn ap Iorwerth
Plentyn: Margaret ferch Llywelyn ap Iorwerth
Plentyn: Gwladus ferch Llywelyn ap Iorwerth
Plentyn: Susanna ferch Llywelyn ap Iorwerth
Plentyn: Helen ferch Llywelyn ap Iorwerth
Plentyn: Dafydd ap Llywelyn ap Iorwerth
Rhiant: Clemencia
Rhiant: John
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: tywysoges a diplomydd
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Danna R. Messer

Siwan yw unig ferch anghyfreithlon hysbys John, Brenin Lloegr (c. 1167-1216) gan fam anhysbys a enwir ym mlwyddnodion Tewkesbury 'y frenhines Clemencia'. Er bod sawl ymgais di-sail i adnabod mam Siwan, yr un sydd â'r hawl cryfaf o hyd yw Clemence de Verdun (fl. 1228-1230). Teulu a hanai'n wreiddiol o Normandi oedd y de Verduns, ac roedd ganddynt gysylltiadau agos â choron Lloegr a llawer o deuluoedd y Mers. Siwan oedd gwraig Llywelyn ap Iorwerth.

Y cofnod cynharaf sy'n debyg o fod yn cyfeirio at Siwan yw un o 1203 sy'n sôn am 'ferch y brenin' yn hwylio o Normandi i Loegr ar gost y brenin ei hun. Dengys llythyrau preifat y brenin fod Siwan a Llywelyn wedi dyweddïo cyn 15 Hydref 1204. Dyna ddiwedd ar gynlluniau'r tywysog i briodi merch i frenin Manaw, er bod y caniatâd a roddwyd gan y pab dros hyn yn Ebrill 1203 wedi aros mewn grym tan Chwefror 1205. Rhoddwyd maenor Ellesmere yn waddol i Lywelyn trwy weithred ffurfiol ar 16 Ebrill 1205, ac er bod union ddyddiad eu priodas yn ansicr, mae'n debyg iddynt briodi ym mis Mawrth y flwyddyn honno.

Roedd y briodas yn weithred wleidyddol a fu o fudd i Siwan a Llywelyn fel ei gilydd. Cafodd Siwan y cyfle i gyflawni swyddogaeth diplomydd a chynghorydd, gan weithredu fel un o brif gyflafareddwyr Llywelyn gyda Choron Lloegr yn ystod teyrnasiadau y Brenin John a Henry III, ei hanner brawd. Mae croniclau Cymru yn cofnodi gweithred swyddogol gyntaf Siwan fel cennad wleidyddol ym mis Awst 1211 ar ôl i'r brenin gychwyn ymgyrch lwyddiannus yn erbyn tywysog Gwynedd a'i orfodi i ildio. Dywed Brut y Tywysogion fod y tywysog 'yn methu goddef llid y brenin' ac iddo anfon ei wraig, merch y brenin, ato 'trwy gyngor ei wyrda i geisio cymodi â'r brenin ar unrhyw delerau a ellid'. Bu'r amodau heddwch yn llym. Yn ogystal â chydnabod tra-arglwyddiaeth brenin Lloegr, bu'n rhaid i Lywelyn drosglwyddo nifer o wystlon o blith ei uchelwyr, gan gynnwys Gruffudd ap Llywelyn, ei fab cyntafanedig ei hun gyda'i gyn-ordderch, Tangwystl. Gorfodwyd i'r tywysog ildio pedwar cantref gogledd-ddwyrain Cymru hefyd, a thalu dirwy sylweddol mewn gwartheg. O gofio statws Siwan fel 'brenhines gydweddog' a swyddogaeth draddodiadol y frenhines ganoloesol fel cennad heddwch, yn ogystal â'i pherthynas gyda'i thad, mae'n debygol i Siwan chwarae rhan uniongyrchol wrth gynghori Llywelyn ar strategaethau trafod ac efallai hyd yn oed iddi drafod rhai o delerau'r cytundeb ei hun. Yr arwydd pennaf o hyn yw'r cymal sy'n mynnu bod tiroedd y tywysog i'w fforffedu i goron Lloegr petai'n marw heb etifeddion cyfreithlon ganddi hi. Er gwaethaf y driniaeth lem, ymddengys i gytgord rhwng tywysog Gwynedd a brenin Lloegr gael ei adfer yn fuan, gan fod cofnod i Lywelyn a Siwan dreulio'r Pasg yng Nghaergrawnt gyda'r brenin yn 1212.

Yn haf y flwyddyn honno chwaraeodd Siwan ran allweddol wrth ddylanwadu ar y Brenin John i roi'r gorau i gynlluniau i oresgyn Cymru eto. Yn ôl Roger o Wendover a Matthew Paris, pan oedd y paratoadau ar y gweill ganol Awst a John yn Nottingham, derbyniodd ddau lythyr yn ei rybuddio i roi stop ar ei ymgyrch yng Nghymru. Dywedwyd wrtho am gynllwyn barwnaidd a fyddai'n peri ei ladd gan ei uchelwyr ei hun neu ei ddal yn gaeth gan ei elynion. Roedd un llythyr oddi wrth William y Llew, brenin yr Alban, a'r llall oddi wrth Siwan. Canslodd John yr ymgyrch a dychwelodd i Lundain i ymrafael â'r cynllwynwyr tybiedig.

Rhwng 1214 a 1215 cyflwynodd Siwan betisiwn llwyddiannus i ryddhau pump o ddynion Llywelyn a ddelid gan y Goron. Rhwng 1216 a 1220 mae'r ffynonellau'n dawel am ei gweithgareddau. Efallai nad yw'n gyd-ddigwyddiad mai hwn oedd y cyfnod wedi marwolaeth John a dyfodiad y brenin ifanc Henry i'r orsedd, pan oedd y berthynas rhwng Gwynedd a'r Goron yn weddol gyfeillgar, gan hwyluso goruchafiaeth Llywelyn yng Nghymru.

Yn y 1220au a'r 1230au cynnar y mae'r cofnodion llawnaf am swyddogaeth ddiplomyddol Siwan. Yn 1220 derbyniwyd Siwan a Dafydd, ei mab gyda Llywelyn, i nawdd Coron Lloegr, gan ragweld efallai bod Dafydd i'w gydnabod gan Llywelyn fel ei etifedd cyfreithlon a detholedig. Cadarnhawyd y datganiad gan y brenin yn yr Amwythig ym mis Mai, ac fe'i cymeradwywyd gan y Pab hefyd. Yn 1222, cytunodd y Pab Honorious III i gais Llywelyn i ddiddymu'r arfer Gymreig o gydnabod plant anghyfreithlon yn etifeddion cyfartal. Cyflwynodd Siwan gais llwyddiannus, gyda chefnogaeth Henry, am gymeradwyaeth y Pab i'w statws cyfreithlon ei hun rhwng Mawrth ac Ebrill 1226. Roedd ei safle newydd yn aelod swyddogol a chyfreithlon o deulu brenhinol Lloegr yn fodd i gryfhau ymhellach ei statws ei hun ac eiddo ei hepil.

Dengys y cytundeb a luniwyd yn 1222 rhwng Llywelyn a Ranulf (III), iarll Caer, ynghylch priodas Helen, merch Siwan a Llywelyn, â John o'r Alban, nai Ranulf, fod Siwan o leiaf yn bleidiol i'r trefniadau a wnaed. Mae geiriad y cytundeb yn awgrymu yn gryf iddi chwarae rhan uniongyrchol. Yn ogystal â siarteri Llywelyn yn rhoi i'r pâr newydd faenorau Bidford yn Swydd Warwick, Suckley yn Sir Gaerwrangon a Wellington yn Sir Amwythig, dywed y cytundeb y byddai Llywelyn yn sicrhau bod ei siarter ef ac eiddo 'yr Arglwyddes Siwan ei wraig' yn cael eu rhoi i John o'r Alban, er mwyn cadarnhau'r rhoddion hyn mewn priodas rydd gellir tybio. Awgryma hyn fod ganddi hawl dros y tiroedd hyn a bod angen ei chydsyniad i'w rhoi. Hon yw'r unig ddogfen a oroesodd lle mae Siwan a Llywelyn yn gweithredu ar y cyd yn eu rheolaeth.

Mae'r ffaith fod Siwan yn arbennig o weithgar yn dilyn tair ymgais aflwyddiannus gan y brenin i oresgyn Cymru yn 1223, 1228 a 1231 yn rhoi mwy o le i gredu mai hi oedd prif gennad Llywelyn a bod ganddi gryn ddylanwad yn y ddau lys. Ym Medi 1224 rhoddwyd teithdrwydded i Siwan fel 'Arglwyddes Gogledd Cymru' i gyfarfod â Henry yng Nghaerwrangon i baratoi'r ffordd ar gyfer cynhadledd heddwch. Gwobrwywyd yr ymdrechion gwleidyddol hyn gan y brenin trwy ddyfarnu iddi faenor Rothley yn Swydd Gaerlŷr yn 1225. Yn Awst 1226 aeth Siwan gyda Llywelyn a Dafydd i gyfarfod â'r brenin eto yn yr Amwythig, a chafodd Siwan faenor arall, Condover yn Sir Amwythig, yn wobr am ei diplomyddiaeth wleidyddol.

Ymddengys mai 1228 oedd blwyddyn brysuraf gyrfa wleidyddol Siwan. Diddymwyd ei pherchnogaeth ar faenorau Rothley a Condover dros dro yn gynnar yn 1228, diau oherwydd y gwrthdaro cynyddol rhwng Llywelyn a phrifustus y brenin, Hubert de Burgh. Yn Awst y flwyddyn honno, ar ôl derbyn saffcwndid, cyfarfu Siwan a'i swyddogion ei hun â'r brenin yn yr Amwythig i negodi cadoediad. Rhybuddiasai'r brenin wŷr y Mers i adael llonydd i Lywelyn, gan ddisgwyl y byddai yntau hefyd yn bresennol, ond ni ddaeth. Gweithredodd Siwan fel negodydd ar ei phen ei hun ac ymddengys iddi lwyddo yn ei hymgais i lunio heddwch gan fod gohebiaeth rhwng Llywelyn a'r brenin wedi para'n weddol gyfeillgar. Er mwyn cydnabod ei llwyddiant a nodi adfer y pâr i ras y brenin, dychwelwyd maenorau Rothley a Condover iddi ar 8 Tachwedd 1228. Cafwyd y dystiolaeth fwyaf arwyddocaol i statws swyddogol Siwan fel diplomydd ar 13 Hydref 1228. Fel prif lysgennad Llywelyn, ac fel mam frenhinol, gwelodd Siwan ei mab yn talu gwrogaeth i'r brenin yn Westminster. Ym mis Tachwedd 1228 gosododd Henry ferch Siwan a Llywelyn, Susanna, yng ngwarchodaeth Clemence de Verdun a'i gŵr Nicholas. Mae'n debyg mai gwystl diplomyddol y Goron oedd Susanna i gychwyn, a bod gwarchodaeth wedi'i throsglwyddo ar ôl cenhadaeth Siwan i'r Amwythig ym mis Awst.

Mae digwyddiadau ym mywyd personol Siwan wedi bwrw cysgod dros ei gyrfa hyd yn hyn, a'r mwyaf adnabyddus yw'r hyn a ddigwyddodd yn 1230. Dywed Brut y Tywysogion , 'Y flwyddyn honno y crogwyd Gwilym Brewys Ieuanc, arglwydd Brycheiniog, gan yr Arglwydd Llywelyn yng Ngwynedd, wedi ei ddal yn ystafell Llywelyn gyda merch brenin Lloegr, gwraig Llywelyn'. Roedd de Braose yn un o brif elynion Llywelyn, ac fe'i daliwyd gan luoedd y tywysog ym Medi 1228. Er nad oes tystiolaeth uniongyrchol, efallai mai yn ystod ei garchariad y dechreuodd y berthynas rhwng Gwilym a Siwan. Mae'n debygol iddynt gyfarfod lawer yn gynharach na 1228 gan fod merch Siwan, Gwladus Ddu, wedi priodi Reginald de Braose, tad Gwilym, tua 1215. Yn ogystal, priododd Margaret, un arall o ferched Siwan a Llywelyn, â John de Braose, cefnder Gwilym, oddeutu 1219. Serch hynny, mae natur a hyd y berthynas rhwng Siwan a de Braose yn aneglur. Rhyddhawyd Gwilym yn gynnar yn 1229, gydag addewidion i dalu pridwerth o £2,000 ac i beidio â chodi arfau yn erbyn Llywelyn byth eto. Cytunodd Gwilym hefyd i gynghrair briodasol rhwng ei ferch Isabella, etifeddes teulu de Braose, a Dafydd, ac roedd y cytundeb hwn yn addo arglwyddiaeth Buellt fel gwaddol Isabella, ac felly'n cynnig gobaith o estyn awdurdod Llywelyn yng nghanolbarth y Mers. Daeth y garwriaeth i'r amlwg pan oedd Gwilym yn ymweld â llys Siwan a Llywelyn i gwblhau trefniadau'r briodas adeg y Pasg 1230. Honna cofnod ym mlwyddnodau Caer fod de Braose wedi ei grogi am ei wrthryfel, 'a bod y wraig wedi ei charcharu am gyfnod hir'. Blwyddyn yn unig y parodd carchariad Siwan mewn gwirionedd, gan iddi gael ei rhyddhau yn 1231.

Yn ei ohebiaeth ag Eva de Braose, gweddw Gwilym, a'i brawd William Marshall ar ôl dienyddiad Gwilym, ni chyfeiria Llywelyn ei hun at ran Siwan yn y garwriaeth. Gan osgoi cyfrifoldeb am gosb Gwilym, pwysleisiodd Llywelyn mai aelodau ei gyngor a fynnodd grogi de Braose, ond ei fod yntau'n dal yn awyddus i ddiogelu'r cynlluniau ar gyfer priodasau eu plant. Mae'n debyg bod y manteision gwleidyddol a ddeuai o rannu tiroedd de Braose ymhlith ei ferched, gan gynnwys Isabella, wedi dylanwadu ar y dedfryd. Dichon i Lywelyn gael cefnogaeth boblogaidd gan y Cymry wrth gosbi aelod o un o deuluoedd creulon a gormesol y Mers. Er gwaetha'r rhesymu gwleidyddol y tu ôl i ddienyddiad de Braose, mae'n debygol iawn bod tynged arglwydd y Mers wedi'i benderfynu hefyd gan ymateb personol Llywelyn i frad cyhoeddus Siwan a cholli ei ffydd ynddi fel ei brif bartner gwleidyddol, heb sôn am ei wraig ers dros bum mlynedd ar hugain.

Mae'r ffaith fod Siwan yn ôl wrth ochr Llywelyn, nid yn unig fel ei wraig ond hefyd fel cymar gwleiyddol gweithredol, wedi cwta flwyddyn yn y carchar, yn awgrymu bod ei bri fel diplomydd llwyddiannus yn cyfrif llawer mwy nag unrhyw dor priodas. Newidiwyd teitl swyddogol Llywelyn yn tua 1230 o 'Tywysog Gogledd Cymru' i 'Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri' fel ffordd o arddangos yr awdurdod a geisiai trwy Gymru gyfan, ac adlewyrchwyd hyn yn y newid i deitl Siwan hithau pan ryddhawyd hi o'r carchar, o 'Arglwyddes Gogledd Cymru' i 'Arglwyddes Cymru'. Efallai fod y newid steil hwn yn arwydd o awydd i adfer enw'r da'r cwpl yn gyhoeddus ar ôl helynt de Braose.

Prin ei bod yn gyd-ddigwyddiad bod Siwan wedi'i hadfer ar adeg o dyndra newydd rhwng Llywelyn a Hubert de Burgh. Methodd cynrychiolwyr Llywelyn ddatrys y gwrthdaro mewn cyfarfod â'r brenin yng Nghaerwrangon yn haf 1231. O ganlyniad, diddymwyd hawliau Llywelyn ar faenor Siwan yn Rothley, ac yn y pen draw aeth hi'n rhyfel. Yn 1232 cyfarfu Siwan â Henry yn yr Amwythig dair gwaith fel prif gynrychiolydd Llywelyn. Ar 27 Mai, aeth ei mab Dafydd ac Ednyfed Fychan, distain Llywelyn, gyda hi i drafod heddwch.

Efallai mai yn y cyfnod arbennig hwn yr anfonodd Siwan lythyr at frenin Lloegr, sef yr unig ddogfen a oroesodd sy'n uniongyrchol gysylltiedig â hi. Hwn hefyd yw'r prawf pennaf o'i gallu diplomyddol, o'i defnydd o'i hawdurdod brenhinol Cymreig ac o swyddogaeth ei swydd frenhinol yn ei hawl ei hun. Dywed wrth y brenin ei bod hi'n 'ofidus tu hwnt' yn ei chred iddo gael ei gam-gynghori gan ei gwnselwyr a gadael i elynion Llywelyn greu anghydfod rhyngddynt ill dau gan arwain at elyniaeth a drwgdybiaeth. Ymbilia ar y brenin 'ar ei gliniau gan ollwng dagrau' i gyfamodi â Llywelyn ac ymddiried yn ffyddlondeb eu cyd-glerc brenhinol, Instructus. Dengys defnydd Siwan o'i theitl 'Arglwyddes Cymru' fod hwn yn betisiwn swyddogol â chymhelliad gwleidyddol. Mae ei defnydd o deitl hefyd yn bwysig o ran dyddio'r llythyr ei hun. Gan fod teitlau Llywelyn a Siwan wedi newid tua 1230, rhaid bod yr eiriolaeth wedi digwydd ar ôl y flwyddyn honno. Y tebyg yw bod llythyr Siwan wedi'i anfon ar ôl 12 Mawrth 1232, yn dilyn ymweliad aflwyddiannus un arall o lysgenhadon Llywelyn â Westminster pan sonnir mewn gohebiaeth rhwng y ddau lys am dorri cadoediad.

Y weithred olaf ganddi fel diplomydd a gofnodir yw un mewn llythyrau patent ar 8 Tachwedd 1235 pan gydsyniodd Henry i gais ym mhetisiwn 'Arglwyddes Cymru' am bardwn ar gyfer rhyw Robert, mab Reginald, a gyhuddwyd yng nghyswllt marwolaeth William, mab Ralph o Credenhill.

Bu farw Siwan ar 2 Chwefror 1237 yn y palas brenhinol yn Aber. Cludwyd ei chorff dros Afon Menai i Fôn ac fe'i claddwyd ger maenor Llan-faes. Sefydlodd Llywelyn briordy Ffransisgaidd yn Llan-faes er cof amdani. Credir yn gyffredin mai corffddelw Siwan sydd yn eglwys y Santes Fair ym Miwmaris. Dafydd yw'r unig blentyn pendant i Siwan. Ymhlith plant eraill o eiddo Llywelyn a briodolir iddi y mae Helen, Margaret, Gwladus Ddu, Angharad a Susanna.

Trwy gydol ei theyrnasiad deng mlynedd ar hugain, chwaraeodd Siwan ran ganolog yn y cysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr. Arwydd o bwysigrwydd ei gyrfa fel llysgennad a diplomydd yw'r ffaith fod ganddi'r awdurdod i groesi ffiniau er mwyn trafod gyda dau o frenhinoedd Lloegr gan negodi telerau heddwch sawl gwaith. Oherwydd ei safle cyfreithlon cydnabyddedig o fewn ei theuluoedd genedigol a phriodasol cafodd gyfle i arddangos ei gallu fel negodwraig wleidyddol fedrus. Yn bennaf oll, yn sgil ei statws fel 'Arglwyddes Cymru' hi oedd aelod mwyaf blaenllaw llys brenhinol Llywelyn, a thrwy gydol ei deyrnasiad cynrychiolai yn weladwy yr awdurdod dros Gymru gyfan a geisiai'r tywysog mewn modd na allai neb arall o blith elît ei weinidogion a'i glerigwyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2018-10-10

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd Frig y dudalen

JOAN (bu farw 1237), tywysoges

Enw: Joan
Dyddiad marw: 1237
Priod: Llywelyn ap Iorwerth
Partner: William de Braose
Plentyn: Angharad ferch Llywelyn ap Iorwerth
Plentyn: Margaret ferch Llywelyn ap Iorwerth
Plentyn: Gwladus ferch Llywelyn ap Iorwerth
Plentyn: Susanna ferch Llywelyn ap Iorwerth
Plentyn: Helen ferch Llywelyn ap Iorwerth
Plentyn: Dafydd ap Llywelyn ap Iorwerth
Rhiant: Clemencia
Rhiant: John
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: tywysoges
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

merch ordderch y brenin John o fam anhysbys. Dyweddïwyd hi â Llywelyn I yn 1204 a phriodwyd hwynt yn 1205. Yr oedd ei gwasanaeth fel cennad a chyfryngwr rhwng ei gwr a'r Goron yn y cyfnod 1211-32 yn bwysig. Ar waethaf y gyfathrach anghyfreithlon drychinebus a fu rhyngddi â William de Breos - a barodd iddi gael ei charcharu am gyfnod byr - ymddengys fod hoffter Llywelyn ohoni yn wirioneddol. Pan fu hi farw yn y llys yn Aber ar 2 Chwefror 1237, dygwyd ei chorff dros afon Menai a'i gladdu mewn claddfa newydd yn ymyl maenor Llanfaes lle y sefydlodd Llywelyn gwfaint i'r Francisiaid er cof amdani. Hyhi oedd mam David II.

Awdur

  • Yr Athro Thomas Jones Pierce, (1905 - 1964)

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.