Cymerth y teulu hwn, a oedd yn bwerus ar y Mars, ei enw oddi wrth Braose, gerllaw Falaise, Normandy.
Cafodd y cyntaf ohonynt yn Lloegr, sef WILLIAM de BRAOSE, farwniaeth Bramber, Sussex, adeg y concwest Normanaidd. Dilynwyd ef (c. 1096) gan ei fab PHILIP, a orchfygodd arglwyddiaethau Maesyfed a Buallt; trwy ei wraig cafodd Philip arglwyddiaeth Totnes, Dyfnaint, hefyd. Bu'n cynorthwyo Harri I yn erbyn y brenin, a chymerwyd ei ystadau oddi arno. Fe'u cafodd yn ôl yn 1112; yn gynnar ar ôl 1130 daethant i feddiant ei fab WILLIAM, y trydydd barwn; tua 1155 cafodd hwnnw hanner arglwyddiaeth ('honour') Barnstaple hefyd, gan addo talu ffi o fil o farciau. Priododd William Bertha, merch Milo o Gloucester, gwr y rhannwyd ei diroedd helaeth, pan fu farw (1176), cydrhwng ei bedair merch; trwy ei wraig cafodd William arglwyddiaethau Brycheiniog ac Abergafenni - ei diroedd o'r herwydd yn ffurfio ploc cadarn yn y Mars Canol. Aeth ei frawd iau, sef PHILIP, gyda Harri II i Iwerddon, a chael, yn 1172, arglwyddiaeth Limerick. Yr oedd gan ROBERT DE BRAOSE, a oedd yn perthyn efallai i is-gangen o'r teulu, ystad fechan yn swyddi Buckingham a Bedford.
Yr enwocaf o'r teulu ydoedd WILLIAM de BRAOSE (1175 - 1211), y pedwerydd barwn; y mae'n debyg iddo gymryd meddiant o'r tiroedd yng Nghymru yn ystod oes ei dad. Priododd Maud de S. Valerie, 'gwraig gall a diwair' ('a prudent and chaste woman'), a bu iddynt dri mab. Tynnodd arno'i hun wg y Cymry yn gynnar trwy iddo, er mwyn dial marwolaeth (1175) ei ewythr, Henry o Hereford, wahodd Seisyll ap Dyfnwal a Chymry eraill yn perthyn i'w arglwyddiaeth i'w gastell yn y Fenni a'u rhoi i farwolaeth mewn modd bradwrus. Dywed Gerallt Gymro, fodd bynnag, nad oedd ar fai am hyn a chyfeiria at sêl William a'i wraig dros grefydd. Yr oedd, y mae'n wir, yn noddwr priordai Aberhonddu a'r Fenni.
Yr oedd William yn siryf swydd Henffordd, 1192-9; yn 1196 yr oedd yn farnwr teithiol dros swydd Stafford. Aeth gyda Richard I i Normandy yn 1195. Pleidiodd hawl John i'r goron, ceir ei enw fel tyst i lawer o drosglwyddiadau tiroedd, etc., a wnaeth y brenin, ac yr oedd yng ngosgorddlu John yn Normandy adeg marw Arthur (1203); gwasanaethodd hefyd yn y rhyfel yn Ffrainc yn 1204. Yr oedd yn uchel yn ffafraeth John a chafodd diroedd lawer; yn 1200 rhoddwyd iddo hawl i goncro tiroedd Cymru. Cymerth feddiant o Elfael yn 1191; yn 1196, trwy drefniant â'r cyd-aer, daeth i feddu Barnstaple yn gyfan gwbl. Trwy dalu 5,000 o farciau, yn ôl pum can marc y flwyddyn, cafodd arglwyddiaeth Limerick, ac, yn ddiweddarach, cafodd dref Limerick hefyd. Daeth yn arglwydd Gwyr (1203) a'r Tri Chastell (1205). Yn 1207, fodd bynnag, collodd ffafr y brenin yn sydyn, gan mwyaf oherwydd iddo fethu talu'r cyfraniadau a oedd yn ddyledus ar ei ystadau. Atafaelwyd ar ei diroedd yn Lloegr a daeth byddin y brenin i gymryd ei diroedd Cymreig. Ffoes William a'i deulu i Iwerddon ond aethpwyd ar eu hôl, cymerwyd ei wraig a'i fab hynaf i'r ddalfa, ac, yn ddiweddarach, newynwyd hwy hyd farwolaeth yn Windsor. Ffoes William i Ffrainc, a bu farw yno 9 Awst 1211, ac fe'i claddwyd yn abaty S. Victor, Paris.
Hawliwyd tiroedd Braose gan ei fab GILES, esgob Henffordd, a ddychwelodd o'i alltudiaeth yn Ffrainc yn 1213; rhoes gymorth i'r barwniaid yn erbyn John, a llwyddodd i gael Llywelyn Fawr i'w gefnogi hefyd. Cafodd feddiant o ystadau Cymreig y teulu, ymheddychodd â'r Goron 21 Hydref 1215, ond bu farw ymhen mis. Cymerth ei frawd REGINALD feddiant o'r tiroedd ond nid ymheddychodd â'r Goron hyd 23 Mehefin 1217, sef ar ôl marw John. Ffromodd Llywelyn oblegid i Reginald ymheddychu, ymosododd ar ei diroedd ym Mrycheiniog a Gwyr, a phleidiodd hawl JOHN DE BRAOSE, yr hynaf o bedwar mab William, brawd Reginald; cawsai William ei newynu hyd farw yn 1210. Gollyngwyd y pedwar mab - JOHN, GILES, PHILIP, a WALTER - o'u caethiwed yn 1218. Dywedir i John gael ei feithrin mewn modd dirgel gan ryw Gymro yng Ngwyr; yn ddiweddarach fe'i trosglwyddwyd ef i ofal ei ewythr, yr esgob Giles. Ni ddyfarnwyd o blaid hawliau John yn y llysoedd, fodd bynnag; eithr, trwy gytundeb, trosglwyddodd Reginald arglwyddiaethau Gwyr a Bramber iddo a thrwy hynny sefydlwyd cangen iau y teulu yn ei hawl briod ei hun. Bu Reginald farw fis Mehefin 1228 a dilynwyd ef gan ei fab WILLIAM, y seithfed barwn, a gwr Eva Marshall. Cymerwyd ef yn garcharor yn 1228 gan Llywelyn pan oeddid yn rhyfela yng Ngheri, ond fe'i rhyddhawyd ar ôl talu pridwerth; cytunodd hefyd i briodas Isabel, ei ferch, â Dafydd, mab Llywelyn. Yn ddiweddarach, pan ar ymweliad â llys Llywelyn, bu'n euog o ormod cyfathrach â gwraig Llywelyn, ac fe'i crogwyd (3 Mai 1230). Gyda'i farw ef daeth llinell wrywol y gangen hon o'r teulu i'w therfyn, rhannwyd yr etifeddiaeth cydrhwng ei bedair merch, eithr cadwyd yr enw yn llinell JOHN de BRAOSE, barwn Gwyr a Bramber.
Lladdwyd John yn Bramber yn 1232 pan gwympodd oddi ar ei geffyl. Gadawodd weddw, Margaret, merch Llywelyn Fawr, a dau fab. Dilynwyd ef gan WILLIAM, yr hynaf o'r ddau fab, yn ail farwn, a daeth yr ieuengaf, JOHN, yn arglwydd maenor Corfham, ac, yn ddiweddarach, Glasbury. Priododd William (1), Olive de Moulton, (2), Agnes, merch Nicholas de Molis, a (3) Mary de Rus, gan genhedlu tylwyth grymus, pob un o'r teuluoedd yn cadw ei hunaniaeth a pharhau i gadw ymlaen hawliau'r teulu ar yr ochr fenywol. Trwy ei drydedd wraig cafodd William ddau fab, RICHARD (bu farw 1292) a PETER (bu farw 1312). Priododd Richard Alice de Longespee, a bu eu hepil lluosog yn dal maenorau Whittingham ac Akenham (swydd Suffolk), Stinton (swydd Norfolk), Ludborough (swydd Lincoln), Knolton (swydd Dorset), etc. Daliai Peter de Braose faenorau Tetbury (swydd Gloster), Maningford (swydd Wilts), Chersworth a Sedgwick (Sussex), eithr pan fu farw ei orwyr ef yn 1395, o dan oed, peidiodd y teulu â bod.
Bu WILLIAM (II) farw yn 1290, ac fe'i dilynwyd gan ei fab hynaf WILLIAM (1291 - 1326). Cefnogodd y mab lythyr y barwniaid at y pab yn 1301; yn 1304, yn wobr am ei wasanaeth yn y rhyfel a'r Ysgotiaid, caniatâwyd iddo holl freiniau arferol arglwydd mars yn ei arglwyddiaeth yng Ngwyr. Pan aeth i weithredu yn herwydd y breiniau hyn daeth i wrthdarawiad â'i denantiaid yn yr arglwyddiaeth honno a rhoes iddynt siarter yn dynodi eu breiniau hwynt. Yr oedd cwerylon a chyfreithio wedi ei dlodi yn fawr, ac felly, er mwyn cael arian, cytunodd i werthu Gwyr i amryw arglwyddi ar waethaf y ffaith ei fod wedi trefnu i'r arglwyddiaeth ddyfod i'w ferch Aline a'i gwr, John de Mowbray (fe'u priodwyd yn Abertawe yn 1298). Ceisiodd Hugh le Despenser, arglwydd Morgannwg a siamberlen y brenin, a geisiai gael Gwyr iddo'i hun, drefnu i'r arglwyddiaeth gael ei hatafaelu gan y Goron; dadleuai ef ddarfod i William drosglwyddo'r arglwyddiaeth heb ganiatâd y brenin. Cymerth Mowbray feddiant o Wyr, eithr cipiwyd yr arglwyddiaeth gan y brenin. Parodd hyn i arglwyddi'r mars ymosod ar Despenser; hawlient hwy gwbl ryddid i werthu neu drosglwyddo tiroedd yn eu harglwyddiaethau. Rhoes hyn gyfle i Despenser i ddod i ddealltwriaeth â William; trefnwyd i William gadw'r arglwyddiaeth yn ystod ei oes ef ei hun a darbwyllwyd ar Mowbray ac Aline i gytuno â'r trefniant hwn. Bu William farw tua mis Mai 1326; yr un flwyddyn bu cwestiwn dyfodol yr arglwyddiaeth yn y fantol oherwydd gwrthryfel y barwniaid yn erbyn Edward II; collodd Despenser ei fywyd a chafodd Mowbray a'i wraig feddiant o'r arglwyddiaeth. Pan fu farw William difodwyd y teitl a bu terfyn ar y teulu hefyd ar yr ochr wrywol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.