Fe'i ganed rywbryd rhwng 1145 a 1147 ym Maenor-bŷr, Sir Benfro, yn fab ieuaf William de Barri ac Angharad ferch Gerald de Windsor a Nest, ferch Rhys ap Tewdwr. Addysgwyd ef gan ei ewythr, David Fitzgerald, esgob Tyddewi, yn abaty S. Pedr, Caerloyw, ac wedyn ym Mhrifysgol Paris, ac wedi dychwelyd oddi yno yn 1172 cafodd gomisiwn gan Richard archesgob Caergaint i orfodi talu'r degymau ar wlân a chaws yn esgobaeth Tyddewi. Oherwydd gwrthdrawiad â Jordan, archddiacon Brycheiniog, cafodd Gerallt y swydd iddo ef ei ei hun ac fe'i daliodd nes iddo ymneilltuo o fywyd cyhoeddus. Wedi marw David Fitzgerald yn 1176 Gerallt oedd y ffefryn gan yr Eglwys i lanw'r swydd, ond gwrthododd Harri II gydnabod enwebiad y canonwyr a'u gorfodi i ethol Peter de Leia, prior Wenlock. Yn ei siom troes Gerallt at ei lyfrau, gan dreulio'r blynyddoedd 1177-80 ym Mharis, lle y bu'n llwyddiannus iawn fel darlithydd, medd ef ei hun. Yn fuan ar ôl ymweld ag Iwerddon gyda'i frawd Phylip yn 1183 cafodd swydd yng ngwasanaeth y brenin, a bu'n gyfryngwr rhwng y llys a'r Arglwydd Rhys ap Gruffudd. Yn 1185, oherwydd ei berthynas â goresgynwyr Iwerddon - brodyr a hanner-brodyr ei fam a'i frodyr ef ei hun - fe'i penodwyd yn gydymaith i'r tywysog John yn Iwerddon, a manteisiodd ar y cyfle i gasglu deunydd ar gyfer ei Expugnatio Hibernica a'i Topographia Hibernica. Yn 1188 aeth gyda'r archesgob Baldwin ar ei daith drwy Gymru i godi milwyr ar gyfer y drydedd groesgad, taith a ddisgrifir yn ei Itinerarium Kambriae. Yn gynnar yn 1194 (y flwyddyn y gorffennodd ei Descriptio Kambriae) peidiodd â gwasnaethu'r Goron, ac ymroi eilwaith i'w astudiaethau, y tro hwn yn Lincoln, lle y bu hyd 1198. Cafodd gynnig esgobaethau Bangor a Llandaf yng Nghymru a Wexford a Leighlin yn Iwerddon, ond ar fod yn esgob Tyddewi yr oedd ei fryd. Bu Peter de Leia farw ar 16 Gorffennaf 1198, ond unwaith eto ni fynnai'r brenin nac archesgob Caergaint benodi Gerallt yn esgob, er mai ef oedd dewisddyn yr Eglwys. Datblygodd y frwydr o fod yn ymdrech dros ethol Gerallt yn esgob i fod yn frwydr dros gydnabod Tyddewi fel eisteddfa archesgobol annibynnol ar Gaergaint. Parhaodd am bum mlynedd ac aeth Gerallt dair gwaith i Rufain i ddadlau'r achos gerbron y pab Innocent III. Cawn yr hanes yn ei hunangofiant De Rebus a Se Gestis (a'i ran olaf ar goll) a'i Dialogus de Jure et Statu Menevensis Ecclesiae. Yn ei frwdfrydedd ni sylweddolai mai ei union gymwysterau i fod yn esgob Tyddewi - ei Gymreigrwydd, ei ddysg, a'i ynni personol - oedd yn ei anghymeradwyo yng ngolwg ei wrthwynebwyr. Ceisiodd help rhai o dywysogion Cymru, ond ofer fu ei lafur yn y diwedd; yn 1203 collasai ei gefnogwyr hyd yn oed yn Nhyddewi. Ym mis Tachwedd y flwyddyn honno penodwyd Sieffre o Henlaw, prior Llanhonddu, yn esgob, a bodlonodd Gerallt ar hynny ar yr amod na fyddai Sieffre yn bradychu hen freiniau a hawliau Tyddewi. Am y gweddill o'i oes cafodd fywyd tawel o ddarllen a llenydda, ond yn 1205 aeth ar bererindod ysbrydol i Rufain. Bu farw yn 1223, ac fe'i claddwyd yn Nhyddewi.
Gyda'i gyfaill Gwallter Map a Sieffre o Fynwy ffurfia driawd o lenorion yn y 12fed ganrif a ysgrifennodd - yn Lladin - am bethau Cymreig. Heblaw'r llyfrau a enwyd uchod, ysgrifennodd Gemma Ecclesiastica, anogaeth i'r clerigwyr ar eu dyletswyddau; Liber de Invectionibus, amddiffyniad ohono'i hun ac ymosodiad ar ei elynion; De Instructione Principis; Symbolum Electorum, casgliad o'i lythyrau, ei farddoniaeth, ei areithiau, etc.; Speculum Ecclesiae, ymosodiad ar yr urddau mynachaidd; Speculum Duorum, nifer o fucheddau saint gan gynnwys ' Buchedd Ddewi ' wedi'i seilio ar waith Rhygyfarch; a mân draethodau eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.