Ganwyd rhwng 1090 a 1100; Llydawiaid, mae'n debyg, ydoedd ei deulu, a magwyd yntau mewn awyrgylch Normanaidd-Lydewig yn nhref Mynwy. Ymddengys ei enw ar freinlen abaty Osney, Rhydychen, yn 1129, a rhwng hynny a 1151 ceir ei enw ar chwe dogfen arall yn perthyn i gylch Rhydychen. Yn y rhain cysylltir ef â'i gyfaill Gwallter, archddiacon Rhydychen, 1115-51, a phennaeth y coleg o ganoniaid seciwlar a oedd yn eglwys S. George, Rhydychen, tan 1149. Disgrifir Sieffre fel 'magister' mewn rhai o'r dogfennau hyn. Yn 1151 etholwyd ef yn esgob Llanelwy; urddwyd Sieffre yn offeiriad yn Westminster ar 11 Chwefror 1152 a chysegrwyd ef yn esgob yn Lambeth ar 24 Chwefror 1152, ond nid oes unrhyw dystiolaeth ei fod wedi ymweld â'i esgobaeth. Yn ôl y croniclau Cymraeg bu farw yn 1155.
Prif waith Sieffre yw ei 'Historia Regum Britanniae' a ymddangosodd yn nechrau 1136. Rhwng 1136 a 1148 bu ef ei hun yn gyfrifol am bedair fersiwn ohono. Mewn un fersiwn ceir cyflwyniad i Robert, dug Caerloyw; mewn un arall, anerchir Robert a Waleran de Beaumont, iarll Meulan (neu Mellent); mewn un arall eto cyflwynir y gwaith i'r brenin Steffan ac i Robert; ac y mae'r bedwaredd heb gyflwyniad o gwbl. Yng nghorff y gwaith (sef llyfr vii yn ôl rhaniad y golygyddion diweddar) daw 'Proffwydoliaethau Myrddin,' a chyflwynir y llyfr hwn i Alexander, esgob Lincoln (yr oedd Rhydychen yn yr esgobaeth honno). Mae'n sicr fod yr adran hon wedi ymddangos ar wahân rhwng 1134-5, oherwydd dyfynna Ordericus Vitalis ohoni yn ei 'Historia Ecclesiastica,' 1135. Rhennir yr 'Historia Regum Britanniae' i chwe adran (neu 12 llyfr yn ôl y golygyddion) ac ynddynt dyry Sieffre 'hanes' y Brythoniaid o ddyfodiad Brutus hyd ddyfodiad y Saeson; eithr y mae'n gwbl eglur nad canu clodydd Brythoniaid Cymru ydoedd amcan yr awdur. Dywed Sieffre mai ei brif ffynhonnell ydoedd 'llyfr hen iawn' ('quendam britannici sermonis librum vetustissimum') a roddwyd iddo gan ei gyfaill Gwallter, ond ni welwyd arlliw o'r llyfr hwn erioed. Y mae'n sicrach ei fod wedi dibynnu ar Gildas, 'Nennius,' a Beda yn ogystal ag ar yr hen achau. Tynnodd hefyd oddi ar y Beibl, y tadau eglwysig, ac oddi ar awduron Lladin fel Vergil, Juvenal, Lucan, Sallust, ac Ovid. Y mae ôl y gwahanol ramantau ar y gwaith a defnyddiwyd traddodiadau lleol y gwyddai Sieffre amdanynt. Bu'r gwaith yn eithriadol boblogaidd o'r cychwyn; y mae tua 200 o lawysgrifau ohono ar gael, rhyw 50 ohonynt yn perthyn i'r 12fed ganrif, ond hyd yn hyn nid yw'r holl lawysgrifau wedi eu cwbl archwilio.
Trwy'r 'Historia' daeth y brenin Arthur i fri newydd a chyflwynwyd 'mater Prydain' i'r byd. Cafwyd trosiad Cymraeg o'r 'Historia' yn bur gynnar - 'Ystoria Brenhinedd y Brytaniaid' neu 'Brut y Brenhinoedd.' Credir bod tri pherson gwahanol wedi cyfieithu'r gwaith yn Gymraeg, pob un yn ei ffordd ei hun. Y mae ar gael heddiw naw o gopïau a ysgrifennwyd cyn diwedd y 14eg ganrif; er enghraifft, perthyn 'Brut Dingestow' (llawysgrif NLW MS 5266B ) i tua 1300, ond y mae wedi ei seilio ar destun a ysgrifennwyd yn nechrau'r 13eg ganrif. Ceir fersiwn hefyd yn 'Llyfr Coch Hergest.' Argraffwyd yr 'Historia' gyntaf gan Badius Ascanius ym Mharis yn 1508 dan olygiaeth Ivo Cavellatus; bu argraffiadau eraill yn 1517 a 1587 (yr olaf gan Jerome Commelin yn Heidelberg). Hyd yn hyn, fodd bynnag, ni chafwyd testun beirniadol cyflawn o'r gwaith. Rhwng 1148 a 1150 cyfansoddodd Sieffre ei 'Vita Merlini,' cerdd Ladin o 1528 o linellau yn y mesur chweban wedi ei chyflwyno i Robert de Chesney, esgob Lincoln.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.