Cywiriadau

NENNIUS (NEMNIUS, NEMNIUUS); fl. c. 800

Enw: Nennius
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Hopkin Davies

Ef, yn ôl traddodiad, ydyw awdur yr hanes Lladin cynnar a elwir yn ' Historia Brittonum,' ac sydd yn amcanu rhoddi 'hanes' Prydain o amser Iŵl Caisar hyd tua diwedd y 7fed ganrif. Yn y rhagair dywed yr awdur ei fod yn ddisgybl i Elfodugus, a fu farw yn 809 'yn Brif esgob yng ngwlad Gwynedd.' Gellir casglu bod syniadau Nennius am Gristnogaeth ymarferol mor rhyddfrydig a byd-lydan ag eiddo ei feistr. Ar wahân i'r ffaith fod yr awdur yn dywedyd nad oedd yn hawlio iddo'i hun fawr ddim teilyngdod llenyddol na meddyliol - ac y mae ei Ladin gwael a'i wendid fel beirniad a chwynnwr yn profi hynny yn bur eglur - prin y gwyddom ddim amdano. Y mae'n bosibl mai brodor o rannau dwyreiniol Cymru ydoedd; y mae tystiolaeth fewnol yn ei waith yn awgrymu hynny. Nid yw'n debygol o gwbl mai efe ei hunan a ysgrifennodd y ' Liber Commonei ' sydd yn Rhydychen (Bodl. Auct. F. 4. 32), eithr y mae cyfeiriad yn hwnnw yn dangos fod ei enw ac, efallai, ei waith, yn wybyddus yn 820 A.D. Enwir ef hefyd yn y ' Psalter of Cashel ' gan Cormac mac Cuilennain (836 - 908). Am y gwaith ei hunan, y mae'r ' Historia Brittonum ' yn ei ffurf lawnaf yn cynnwys rhagair a 76 o adrannau neu benodau y gellir eu dosbarthu (yn gyfleus) fel y canlyn (testun Mommsen-Lot): (a) y Rhagair; (b) Chwe Oes y Byd, 1-6; (c) yr ' Historia ' fel y cyfryw, 7-56; (ch) yr Achau Anglo-Sacsonaidd, etc., 57-65; (d) Mesuriadau ac wyth-dinas-ar-hugain Prydain, 66; (dd) Rhyfeddodau Prydain, etc., 67-76. Ac eithrio y rhagair ni cheir mo'r holl adrannau hyn gyda'i gilydd ond mewn un llawysgrif yn perthyn i'r 11eg ganrif, sef B.M. Harl. MS. 3859, sydd yn cynnwys hefyd destun yr ' Annales Cambriae ' a'r Achau Cymreig. Er cymaint y gwaith beirniadol a wnaethpwyd eisoes gan ysgolheigion, y mae cwestiwn testun gwreiddiol yr ' Historia ' a maint ychwanegiadau diweddar at y testun hwnnw heb gael ei benderfynu eto. A siarad yn gyffredinol, deil un ysgol fod rhan fwyaf y defnydd a geir yn yr ' Historia ' fel y mae gennym ar gael cyn hynny mewn gwaith cynharach, na wyddid pwy a'i cynullodd, o'r enw ' Cyfrol Prydain ' (' The Volume of Britain '), ac mai hwn oedd sylfaen y gwaith fel y'i ceir gan Nennius a fersiynau ('argraffiadau') diweddarach (e.e. yr hawliau a wneir ynglŷn âr ' Lebor Bretnach,' sef y fersiwn Wyddeleg o Nennius, yn perthyn i'r 11eg ganrif, a wnaethpwyd gan Gilla Coemain); y mae ysgolheigion eraill yn canfod rhesymau cryfion dros gredu bod y rhagair, y rhan fwyaf o 7-56, yr adran ar Ddinasoedd Prydain, a rhai o'r Rhyfeddodau, yn waith gwreiddiol Nennius ei hunan, c. 796-800, ac i olygyddion neu gopïwyr gynnwys defnyddiau ychwanegol yn dangos eu diddordebau arbennig hwy eu hunain. Dywed Nennius ei hunan iddo gorffori defnyddiau a gafodd yng nghroniclau Eusebius, Jerôm, Isidor, a Prosper, yn hanes ('annales') y Rhufeiniaid, y Gwyddelod, a'r Sacsoniaid, a thraddodiadau'r gwledydd, gan gynnwys ' liber beati Germani.' Y mae ei ddyled i ' De Excidio Britanniae ' Gildas am ddigwyddiadau hyd c. 540 yn bur amlwg, eithr y mae'r ateb i'r cwestiwn pa faint a wyddai am waith Beda a'r defnydd a wnaeth o'r wybodaeth honno yn dibynnu ar y casgliad y deuir iddo ynglŷn â chyfansoddiad yr ' Historia.' O ba le bynnag y cafodd Nennius ei ddefnyddiau, llurguniad o wir hanes ydyw'r hyn a gynhyrchwyd, er bod i rai rhannau lawer o werth hanesyddol, e.e. yr achau. Eithr gwir werth y gwaith ydyw'r defnydd a geir ynddo ar gyfer astudio yr hanesion am ' Arthur a'i Wŷr' a llenyddiaeth ac ysgolheictod Geltig gynnar yn gyffredinol. [Cyf. Cymraeg gan J. Owen Jones ]

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

NENNIUS.

Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg gan A. W. Wade-Evans (1938).

    Dyddiad cyhoeddi: 1970

    Cywiriadau