Ganwyd 11 Ionawr 1857 yn Bryn-duntur, Bethesda (Arfon). Gadawodd Ysgol Frutanaidd Carneddi yn 12 oed, i weithio mewn ffatrïoedd gwlŵn ym Methesda a Chlwt-y-bont, ac wedyn yn chwarel Cae-braich-y-cafn. Derbyniwyd ef yn bregethwr yn 1879, ac wedi tymor yng Nghlynnog aeth i Goleg y Bala yn 1880. Yr oedd yn un o fyfyrwyr cyntaf (1884) Coleg y Gogledd, a graddiodd ym Mhrifysgol Llundain yn 1888, gydag anrhydedd mewn athroniaeth. Penodwyd ef i gymryd y dosbarthiadau elfennol yng Ngholeg y Bala; a phan wnaethpwyd y dosbarthiadau hynny yn 'Adran' ar wahân (1891), rhoddwyd eu gofal ar E. Wynne Parry (gweler dan Parry, Griffith) ac yntau; pan fu farw Parry (1897) daeth yn bennaeth arni. Parhaodd yn ei swydd hyd 1915, pan benderfynwyd diddymu'r adran, er mawr siom iddo. Ymneilltuodd i Gaernarfon; yn 1916 bu'n athro yn yr ysgol sir yno; bu farw 6 Mawrth 1917, a chladdwyd yng Nghaeathro.
Ei brif nodwedd oedd gweithgarwch dygn. Yr oedd yn athro da a llwyddiannus, ond yn ddisgyblwr llym na allai oddef ffyliaid. Ac yr oedd yn rhy ddidderbynwyneb i blesio gwŷr mawr ei gyfundeb, fel na chafodd unrhyw swydd ynddo - dymunodd yn ofer, fwy nag unwaith, am gadair yng Ngholeg y Bala. Pregethai'n sylweddol, ond yma eto nid yn boblogaidd. Ceidwadol oedd ei ddiwinyddiaeth, a gellir amau ai mewn athroniaeth yr oedd ei gryfder, ar waethaf ei radd ynddi. Yn hytrach, mewn ieithoedd y rhagorai, ac yr oedd yn Lladinwr cadarn; gadawodd E. V. Arnold fwy o'i ôl arno ym Mangor na Henry Jones, a bu ei gyfeillgarwch agos â Hugh Williams yn ateg i hyn. Sgrifennodd lawer i'r cyfnodolion; cyhoeddodd esboniadau ar efengylau Luc a Ioan, ac ar epistolau Ioan. Yn Cymru (O.M.E.), 1894-6, cyhoeddodd gyfieithiadau o'r prif ffynonellau Lladin ar hanes bore Prydain, a chyhoeddwyd y rhain yn llyfr, O Lygad y Ffynnon, yn 1899. Yn 1905, cyhoeddodd gyfieithiad (Dilyn Crist) o Thomas à Kempis, a aeth i ail argr. yn 1907; ac yr oedd wedi bod yn cyfieithu Cyffesion Awstin, o bryd i bryd, yn Y Drysorfa, gan fwriadu cyhoeddi'r gwaith yn llyfr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.