Ganwyd yng Nghaernarfon fis Rhagfyr 1827; yr oedd ei fam yn chwaer i 'Eryron Gwyllt Walia' (Robert Owen), ac yn nith i John Roberts, Llangwm, a Robert Roberts, Clynnog - priodol fu iddo yntau gyhoeddi Cofiant a Gweithiau Robert Owen , 1880, a Cofiant a Phregethau Robert Roberts , 1884.
Bu yng Ngholeg y Bala (1847-1851), a dechrau pregethu. Yn 1851 dechreuodd fusnes argraffu a gwerthu llyfrau yng Nghaernarfon, gan ddal i bregethu (ordeiniwyd yn 1856); ond ddiwedd 1861 cymerth at y fugeiliaeth: yn Llanrwst 1861-71, Salford 1871-6, Siloh, Aberystwyth, 1876-83, a Charno 1889-1901. Bu'n llywydd y gymanfa gyffredinol (1889), yn llywydd cymdeithasfa'r Gogledd (1895), ac yn olygydd Y Drysorfa (1887-91). Yr oedd yn bregethwr hynod raenus, ac yn llenor coeth, yn ddarllenwr eang a dygn - mor gynnar â 1846 yr oedd wedi cyfieithu Astronomical Discourses Chalmers. Sgrifennodd lawer i'r Traethodydd a'r Y Drysorfa , a'i waith ef yw rhai o ysgrifau pwysicaf y ddau argraffiad o'r Gwyddoniadur. Cyhoeddodd hefyd esboniadau Beiblaidd, heblaw'r ddau lyfr a nodwyd. Bu farw 22 Awst 1901 yng Ngharno.
Ail fab iddo oedd EDMUND WYNNE PARRY (1855 - 1897); ganwyd yng Nghaernarfon 8 Awst 1855; addysgwyd yn ysgolion gramadeg Llanrwst a Manceinion; dechreuodd bregethu yn glerc banc; bu yng Ngholeg Aberystwyth (1877-9) a Choleg Lincoln, Rhydychen (1879 - graddiodd yno yn 1883); yn ddiweddarach (1895) enillodd radd B.D. yn S. Andrew's. Bugeiliodd eglwysi Saesneg Aberhonddu (1883) a Rhuthyn (1887) cyn mynd i Goleg y Bala yn athro cynorthwyol (1889) ac wedyn yn bennaeth yr 'Adran Ragbarotoawl'; bu farw yn y Bala 4 Medi 1897. Coethder a lledneisrwydd Wynne Parry a dynnai sylw pawb. Golygodd rai o Anerchiadau David Charles Davies yn 1895, ac yn 1896 dug allan Cofiant a Phregethau David Charles Davies.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.